Fydda i ddim yn gwneud sylw ar bolau penodol Gymreig yn aml iawn oherwydd nad wyf wedi fy argyhoeddi eto eu bod yn gywir. Mae yna lawer mwy o bolau Prydeinig, ac maent yn cael eu profi yn erbyn etholiadau go iawn yn aml. O ganlyniad mae'r fethodoleg yn cael ei mireinio yn wyneb hynny i ymateb i ddiffyg cywirdeb. Gan nad oes yna draddodiad hir o bolio Cymreig, a chan nad oes yna felly fawr o newid wedi bod ar y fethodoleg yn ol pob tebyg, dwi'n tueddu i gymryd y polau Cymreig efo pinsiad o halen.
Wedi dweud hynny mae YouGov bellach wedi rhyddhau cyfres o bolau tros y misoedd diwethaf ac mae'r darlun maent yn ei roi i ni o dirwedd etholiadol Cymru yn eithaf cyson. Ceir darlun o Lafur yn ennill tua 12% ers colli'r Etholiad Cyffredinol, Plaid Cymru a'r Toriaid yn eithaf cyson, gyda'r Blaid ychydig o flaen y Toriaid a chanran y Lib Dems o'r bleidlais yn syrthio'n sylweddol. Os ydi polio YouGov yn gywir mae'n codi dau gwestiwn - a fydd Llafur angen Plaid Cymru i ffurfio clymblaid ym mis Mai? (a fel y byddem yn trafod yn ddiweddarach dim ond clymblaid Llafur / Plaid sy'n debygol mewn gwirionedd), ac yn ail a fydd y Lib Dems yn yn cael eu hunain yn grwp gwirioneddol fach efo tri neu hyd yn oed llai o aelodau yn unig?
Mi fyddwn yn edrych ar y ddau gwestiwn yn fanylach yn ddiweddarach, ond mi hoffwn ailadrodd rhywbeth 'dwi wedi ei nodi sawl gwaith. Y llywodraeth salaf o ddigon yn hanes y Cynulliad oedd yr ail lywodraeth - yr un lle'r oedd Llafur yn ei rheoli ar eu liwt eu hunain. Yr orau yn eithaf hawdd ydi'r un bresennol. Byddai'n drychineb i'r Cynulliad fel sefydliad petawn yn cael llywodraeth fwyafrifol Llafur tebyg i'r un 2003 - 2007.
Mae'r pol hefyd wedi rhoi lle i ni obeithio y bydd y refferendwm i gael pwerau deddfu i'r Cynulliad yn cael ei ennill - ac mae awgrym bod y bwlch rhwng Ia a Na yn cynyddu.
Sai'n siŵr i le dwi'n gosod fy marn ar gael clymblaid newydd. Iawn deallaf bod e'n well bod mewn llywodraeth â chais cryf ond eto byddai bod yn wrthblaid tra fod y ceidwadwyr a'r dem rhydd yn llundain yn neud cawlach o bopeth ac felly'n esgeuluso llywodraeth y cynulliad. Os felly bydd llafur yn gorfod fod yn atebol i bobl Cymru hefyd. Byddai hyn yn rhoi sylfaen gref i Blaid Cymru yn yr etholiadau yn 2015 ond eto gall lot ddigwydd tan hynny a all effeithio ar Gymru.
ReplyDeleteReali yn credu ti'n fynd bach dros ben llestri yn son am y Libs yn disgyn i 3. Mae'n bosib (ond yn anhebyg) i nhw colli ei sedd yn y gogledd ond mae cael un ym mhob rhanbarth arall yn eithaf sicyr ac heb helyntion Mick Bates a Lembit Opik byddynt yn sicyr o gael 2ail un yn y Ganolbarth.
ReplyDeleteDal yn credu dyla nhw cael 6, 5 yn bosib, 4 mewn noson drychinebus.
Er hynny mae Kirsty dal yn targedu 31 sedd.
This comment has been removed by the author.
ReplyDeleteWel gad i ni edrych ar bethau. Mae'r pol yn rhoi'r Lib Dems ar 9% yn yr etholaethau a'r rhanbarthau. Mae hyn yn cymharu efo 15% (etholaethau) a 12% (rhanbarthau) yn 2007.
ReplyDeleteA chymryd cwymp unffurf byddai eu canran yn y rhanbarthau fel a ganlyn:
Gogledd 4.8%
Gorllewin a'r Canolbarth 10.3%
Gorllewin De Cymru 9.4%
Canol De Cymru 11%
Dwyrain de Cymru 8%
Golyga hyn nad oes sedd iddynt yn y Gogledd ac mae'r un yn y De Ddwyrain mewn perygl. Dyna i ti bedair ar ol.
Mae ganddynt dair sedd uniongyrchol - Canol Caerdydd, Trefaldwyn a Brycheiniog a Maesyfed.
Mi fyddai'r ffigyrau (+ yr hyn ddigwyddodd ynghynt eleni) yn rhoi Trefaldwyn mewn perygl. Dydi'r 10.3% a fyddai gan y Lib Dems yn y rhanbarth ddim yn sicrhau sedd ranbarthol iddynt.
Mae yna amgylchiadau lleol sy'n gwneud Canol Caerdydd yn anodd iddynt, er y mwyafrif enfawr. Ond mae'n debygol iawn y byddai colli honno yn arwain at sedd ranbarthol. Felly dyna ti efo tair.
Dwi ddim yn dweud ei fod o'n mynd i ddigwydd - ond mae'n sicr yn bosibl.
Yn seiliedig ar ganlyniadau 2007 byddai canlyniad o'r fath yn rhoi pleidlais o 9,168 yn unig i'r Libs yn rhanbarth y gogledd. Byddai hyn yn rhoi y 3ydd sedd rhanbarthol i Blaid Cymru a'r bedwaredd i'r Ceidwadwyr, gyda'r Ceidwadwyr yn cael seddi 1 a 2 hefyd.
ReplyDeleteOnd yn fwy diddorol i ni yn y Blaid, os yw fy symiau yn gywir yna, yn ol fformiwla D'Hondt dim ond 73 pleidlais fyddai rhwng y ceidwadwyr yn cipio y 4edd sedd a Phlaid Cymru yn cipio'r 4edd.
Os all PC gynyddu ei phleidlais fe gawn ni ddwy sedd rhanbarthol yn y Gogledd...yn seiliedig ar ffugurau 2007. Mae yna lot o ffactorau eraill all newid pethau!
Mae'n anodd rhagweld yn achos y Toriaid a Phlaid Cymru - mae cymaint yn ddibynol ar yr hyn sy'n digwydd yn yr etholaethau.
ReplyDeleteYr hyn sy'n ei gwneud yn haws efo'r Lib Dems ydi nad oes ganddyn nhw ddim un sedd uniongyrchol yn y Gogledd, na fawr o obaith o gael un chwaith.
Cytuno'n llwyr fod y glymblaid wedi bod yn llwyddiant ac destun balchder i'r rhai ohonom sydd wedi cefnogi Plaid erioed. Polau piniwn neu beidio allwn ni ddim gwadu ar ol is etholiad Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, nad yw momentwm Llais Gwynedd yn rhywbeth i'w anwybyddu. Felly os ydym am wneud unrhyw hoel yn yr ethoiadau fis Mai mae angen rhoi negeseuon clir ar fyrder sydd yn egluro a chyfiawnhau strategaethu'r Blaid yn Genedlaethol ac yn Sirol. Dydy galw Llais G yn anghyfrifol ddim yn mynd i wneud unrhyw les heb egluro pam a chynnig esboniadau. Rhaid dangos fod bodolaeth Llais fel gwrthblaid yn fygythiad i barhad y freuddwyd sydd wedi cychwyn yn y Senedd o weld gwelidyddion call yn gweithio er lles Cymru yn unig.
ReplyDeleteCroeso Rhiannon a diolch am y cerdyn.
ReplyDeleteMae Llais Gwynedd yn blaid ranbarthol - ac mae gwleidyddiaeth rhanbarthol yn ei hanfod yn wrth genedlaetholgar.
Dwi wedi blogio yn y gorffennol ar y thema yna. Hwyrach y dof yn ol at hynny mewn ychydig.