Tuesday, October 05, 2010
Guto'n dechrau cicio yn erbyn y tresi yn barod!
Pleser anisgwyl ydi cael fy hun yn cytuno efo fy nghymydog Guto Bebb ynglyn ag anhegwch cynlluniau'r llywodraeth glymblaid i amddifadu trethdalwyr sy'n talu'r lefel uchaf o dreth incwm o fudd dal plant. 'Dwi'n cytuno mai dyma un o'r pethau mwyaf anheg sydd erioed wedi digwydd yn hanes y Ddynoliaeth.
Gadewch i ni ystyried teulu cwbl nodweddiadol o Gaernarfon fel enghraifft o erchylldra'r anhegwch yma, gyda'r tad yn aelod seneddol digon cyffredin ar gyflog o £65,738, y wraig yn rhannu ei hamser rhwng edrych ar ol y teulu a gweithio'n rhan amser am ychydig filoedd y flwyddyn. Teulu o faint digon cynrychioladol 0 Ogledd Caernarfon ydyw - gyda phump o blant.
Fel mae pethau'n sefyll gallai'r teulu bach ddisgwyl budd dal plant o £20.30 yr wythnos am y plentyn cyntaf a £13.40 yr wythnos ar gyfer pob un o'r pedwar arall. Daw hyn a ni at gyfanswm o £3,842.80 tros flwyddyn. Hen ddigon i brynu gwyliau go lew yn haul De Ffrainc - hyd yn oed i deulu o saith. Ond och a gwae, mae hynny oll yn mynd i ddiflannu gydag un clic o fysedd merchetaidd George Osborne.
Meddyliwch mewn difri calon am orfod trampio o gwmpas blydi Sir Benfro ynghanol gwynt a glaw Awst efo pump o blant wrth eich cwt. Does yna neb yn fwy ymwybodol o ddwyster poenus a dirdynnol y profiad hwnnw na fi.
da
ReplyDelete30 darn o arian sy'n dod i'r meddwl ... ond nid eu hennill ond amddifadu eraill ohonynt sydd yma!
ReplyDeleteFel unrhyw dori da mae Lord Haw Haw yn dechrau gyds aut mae'n effeithio ef
ReplyDeleteBlog class.
ReplyDeleteCyn dechrau, dylwn ddweud dwi yn aelod o blaid cymru a ddim rhy hoff o Guto Bebb - cachwr ydio!
ReplyDeleteOND, tro yma dwi am amddiffyn Guto achos mae bwysig gen i fod mewn byd gwleidyddiaeth deg - hyd yn oed os dio ddim. Dwi ddim ishio i'r blaid fynd lawr i lefel budur y toriaid a llafur plis.
Be mae'r cradur wedi ei ddweud ydi fod sut mae'r peth am gael ei wneud yn anheg nid fod yr holl beth yn anheg - a dwi yn cytuno.
Dau bwynt dwi siwr fyddai blog menai yn cytuno hefo nhw:
1) Mae yn berffaith iawn i bobl sy'n ennill mwy i gymeryd yr "hit".
2) Mae'r system mae'r toriaid yn ei roi ymlaen yn wirion bost:
Cwpl 1:
Y wraig yn ennill £45k a'r gwr adra yn edrych ar ol y plant - DIM taliad. (mae o yn fy wylltio yn bost pan mae pobl yn son am "y fam" angen yr arian - son am hen ffasiwn!)
Cwpl 2:
Y wraig yn enill £42K ar gwr yn ennill £42K yn cael taliad!
H.y. Mae cwpl 1 yn ennill £45K y flwyddyn ag yn derbyn dim, tra fod cwpl 2 yn ennill £84K y flwyddyn ag yn derbyn y taliad llawn!!
Yn erbyn yr ail bwynt mae Guto yn dadlau a dwi siwr fyddai pawb yn cytuno fod y peth yn wirion bost. I fod yn deg i'r hen rwdlyn, hyd yn oed os byddai yn curo ei ddadl, mi fysa fo yn colli yr arian eniwe.
Sa ddim yn well i bawb sy'n ennill dros £50k dalu ceinniog yn fwy o dreth?
Sa ein amser ni yn well yn meddwl am sut da ni am ennill mis Mawrth, ag ennill mis Mai fel fedra ni fynd i'r afael ar greu swyddi sy'n talu y math yna o arian yng Nghaernarfon, ym Mangor, yn Aber ayyb
Mae na effeithiadau eraill hefyd. Dweder bod gennych 4 o blant ac eich bod yn cael cynnig swydd gyda cyflog o £44k yna fe allech fod ar eich colled o dderbyn y swydd a byddai yn well i chi ddychwelyd £150 o gyflog i ddisgyn o dan y trothwy. Er mwyn gwneud i fynu'r golled byddai angen i chi ennill dros £49k ac ni fyddech yn well allan tan eich bod yn ennill dros £50k ac yna fe fyddech yn debygol o gael ei effeithio gan lefel treth uwch.
ReplyDeleteMae yna ddau reswm pam dwi'n cael y stori fach yma yn un ddigri.
ReplyDeleteYn gyntaf mae Guto yn un garw am chwilio am rhyw fudd personol i egluro safbwynt gwleidyddol rhywun.
Yn ail, mae'n weddol amlwg bod y drefn yn un anheg - ond dydi hi ddim yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl - mae'r gyfundrefn budd daliadau yn llawn o elfennau anheg i bobl sydd yn nes at waelod y pentwr cymdeithasol. Ond dydi o ddim ots am hynny wrth gwrs _ _ _.
Peth arall hurt am 6 uchod yw petai rhywun yn trefnu i ddisgyn o dan y trothwy yna fe fyddai incwm treth i'r llywodraeth yn gostwng rhyw £2,000 o ychwanegu hyn at y lwfans plant o £3,146 yna byddai y llywodraeth ar ei cholled o £5,000 o'i gymharu a £3,146 petai'r lwfans yn parhau i gael ei dalu. Gwn y byddai hyn ym amrywio o unigolyn i unigolyn ac yn seiliedig ar lefel cyflog a nifer y plant ond mae yn brawf pellach o wendid yr argymhelliaid. Dwi yn cytuno gyda 5 y byddai ceiniog ychwanegol ar rai dros £50k yn well ond byddai hyn yn siwr o effeithio ffrindiau Mr Osborne yn byddai.
ReplyDeleteHey, I can't view your site properly within Opera, I actually hope you look into fixing this.
ReplyDelete