Rhyddfrydwyr / Lib Dems - melyn, Llafur - coch, Toriaid - glas.
Byddai dyn yn disgwyl y byddai hyn yn rhoi digon o wagle gwleidyddol i blaid canol y ffordd megis y Rhyddfrydwyr (fel y gelwid y Lib Dems bryd hynny). Nid felly oedd hi - gwan iawn oedd y gefnogaeth i'r Rhyddfrydwyr trwy gydol y cyfnod. Ffenomena cymharol ddiweddar ydi cefnogaeth arwyddocaol i'r Lib Dems - cafwyd llwyddiant (mewn termau pleidleisiau os nad seddi) wedi sefydlu'r Gynghrair yn yr wythdegau, edwino yn y 90au a thwf wedi troi'r mileniwm newydd:
Bl | Canran | Seddi |
1983 | 25.40% | 23 |
1987 | 22.60% | 22 |
1992 | 17.80% | 20 |
1997 | 16.70% | 46 |
2001 | 18.30% | 52 |
2005 | 22.10% | 62 |
2010 | 23% | 57 |
Pam felly bod y Lib Dems wedi tyfu mewn cyfnod lle mae'r tir canol wedi ei lenwi gan y pleidiau gwleidyddol mawr? Mae'r ateb mi dybiwn yn weddol gymhleth, ond mae'n rhannol yn ymwneud efo'r ffaith bod yna newidiadau cymdeithasegol sylweddol wedi digwydd yn y ddeg mlynedd ar hugain diwethaf. Mi fu hollt ers talwm rhwng aelodau o'r gweithlu a weithiai yn y diwydiannau trwm traddodiadol, a rhai oedd efo'u busnesau eu hunain neu a weithiai mewn swyddi coler gwyn. Roedd pobl yn tueddu i ddiffinio eu hunain yn wleidyddol yn unol a'u galwedigaeth, ac yn pleidleisio ar sail hynny.
Gyda diflaniad y diwydiannau traddodiadol daeth canfyddiad pobl o'u gwleidyddiaeth eu hunain i fod yn fwy cymhleth, a chaniataodd hyn i'r Lib Dems lenwi gwahanol niches gwleidyddol - a gwnaethant hyn yn gelfydd iawn. Er enghraifft rhoddodd rhyfeloedd tramor Llafur Newydd gyfle i'r Lib Dems osod eu hunain mewn rhai ffyrdd i'r chwith o'r Blaid Lafur gan apelio at yr elfennau hynny mewn cymdeithas Brydeinig sy'n draddodiadol wrthwynebus i ryfeloedd o bob math. Mae'r grwp yma yn un mawr. Roedd gwrthwynebiad llywodraeth Blair i hawliau sifil sylfaenol hefyd o gymorth. Llwyddwyd i apelio at fyfyrwyr trwy addo i edrych ar ol eu buddiannau hunanol nhw, llwyddwyd i apelio at bobl oedd wedi cael llond bol ar Lafur yn rheoli trefi mawr a dinasoedd yng Ngogledd Lloegr, a llwyddwyd i ddominyddu'r bleidlais draddodiadol wrth Geidwadol mewn rhannau eang o Dde Lloegr.
Mae'n rhaid ychwanegu wrth gwrs i'r Lib Dems yn aml feistrioli tactegaeth gwleidyddol ar lefel lleol - cyflwyno eu hunain fel rhyw grwp ffocws oedd yn canolbwyntio ar ateb problemau penodol lleol (felly'r term dogshit Liberals), ac wrth gwrs honni mai ond y nhw allai guro Plaid X trwy gynhyrchu'r holl graffiau digri 'na.
Y drwg efo bod mewn grym wrth gwrs ydi bod y ddadl y dylid pleidleisio i chi am nad ydych yn rhywun neu'i gilydd yn syrthio - ac yn aml dyna'r brif ddadl tros bleidleisio i'r Lib Dems. Os na ellir gwireddu dyheuadau'r niche mae cefnogaeth y niche yn toddi fel eira Mai. Mae pleidlais y Lib Dems yn gymhleth fel y dywedwyd, ond mae tua dau draean o'i phleidlais yn gogwyddo tuag at y Toriaid tros Brydain. Mae'n dilyn felly bod tua thraean yn gogwyddo tuag at Lafur (neu genedlaetholwyr yng Nghymru a'r Alban). Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Lloegr mae llawer o'r gefnogaeth 'Lafuraidd' neu asgell chwith. Yma felly y gellir disgwyl gweld y rhan fwyaf o'r cwymp yng nghefnogaeth y Lib Dems.
Rwan, yn y sgwrs a soniais amdani yn y blogiad isod roedd Vaughan yn rhyw awgrymu y gallai'r gynrychiolaeth Lib Dem syrthio o dan y 6 arferol yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011 gan golli llawer iawn o'u cefnogaeth mewn rhannau o Gymru, ac aeth mor bell ag awgrymu y gallai'r Lib Dems Cymreig a'r rhai Albanaidd fod yn eistedd ar ochr arall i'r Ty Cyffredin erbyn diwedd y senedd yma. Mae'r blog yma wedi edrych ar yr hyn a allai ddigwydd i'r Lib Dems yn y Cynulliad ar sail eu trallodion diweddar yn y polau piniwn Prydeinig. 'Dwi fy hun ddim yn gweld y blaid yng Nghymru yn hollti oddi wrth yr un Brydeinig - o'r tair plaid fawr unoliaethol yng Nghymru y Lib Dems ydi'r un sy'n fwyaf seicolegol ddibynnol ar y fersiwn Seisnig ohoni ei hun. Gallai'r Lib Dems yn yr Alban a rhai o'r aelodau trefol o Ogledd Lloegr dorri eu cwys eu hunain serch hynny.
Mi'r ydwyf fodd bynnag yn derbyn ei bod yn dra thebygol y bydd cynrychiolaeth y Lib Dems yn y Cynulliad yn syrthio, gyda sedd ranbarthol y Gogledd yn cael ei cholli, yn ogystal a Maldwyn ac o bosibl Canol Caerdydd. Yn wahanol i Vaughan fodd bynnag fedra i ddim gweld y sedd yn y De Ddwyrain yn cwympo. Mi fyddwn i yn disgwyl iddyn nhw ennill 4 - Brycheiniog a Maesyfed, sedd ranbarthol y De Orllewin, sedd ranbarthol y De Ddwyrain a naill ai sedd ranbarthol Canol De Cymru neu Canol Caerdydd. Mi fyddwn hefyd yn disgwyl iddyn nhw ildio eu safleuoedd cryf ar gynghorau'r bedair dinas fawr yng Nghymru yn etholiadau lleol 2012 ac ennill yn sylweddol lai na 100 cynghorydd tros y wlad. Mae ganddynt 155 ar hyn o bryd.
Diddorol iawn. Llygad dy le am gymaint o hyn - sut mae'r LDs yn adeilau coalishwn o gefnogaeth ac ati.
ReplyDeleteCytuno hefyd ei fod yn sobor o anhebygol y bydd y LDs cymreig yn torri cwys annibynol oddi wrth eu pencadlys. Yn un peth, byddan nhw'n fethdalwyr yn go gyflym.
Dwi wir yn gobeithio fod cyfnod poenus yn wynebu'r blaid hon. Ond dwi ddim cweit mor optimistaidd y daw hynny'n fuan. Mae eu perfformiad mewn etholiadau cynulliad wedi bod yn ddigon gwael ers sbel, dwi'n amau faint mor bell sydd ganddynt i syrthio.
Mae'n rhesymol, efallai, eu dychmygu ond yn ennill 1 o Faldwyn, Brycheiniog a Cheredigion y flwyddyn nesa, fydd yn eu gostwng o 6 i 5 sedd. Ond bod heb sedd o gwbl mewn rhanbarth? Er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid i un o'r canlynol ddigwydd:
1. Dod yn bumed mewn rhanbarth. H.y. gwneud yn waeth na UKIP, y Gwyrddiaid neu'r BNP. Efallai fod siawns fechan y gall hyn ddigwydd yn y gogledd, ond fel arall mae'r map yn eu ffafrio - mae cadarnleoedd dinesig deheuol y blaid oll mewn rhanbarthau gwahanol.
2. Freak mathemategol d'Hondt-aidd, lle mae'r ail a'r trydydd blaid yn gwneud yn dda iawn mewn rhanbarth ond yn methu eu targedau etholaethol. E.e. Plaid Cymru a'r Toriaid yn polio'n dda iawn yn y de-ddwyrain ond Llafur yn dal eu gafael ar bob etholaeth heblaw Mynwy, ac felly PC & Ceid mewn sefyllfa gref iawn ar y rhestr. Posib, ond ddim yn debygol, ac yn anodd iawn ei ddarogan.
Byddwn i'n gandryll pe bai'r wasg yn gadael i'r LDs sbinio 5-6 sedd y flwyddyn nesa fel rhyw fath o lwyddiant!
Un peth bach diddorol o bol Yougov mis Mehefin. Lle mae pleidlais y LDs am fynd? O edrych ar y cross-tabs o bleidleiswyr San Steffan y Libs a gofyn am eu bwriad pleidleisio Cynulliadol, roedd 73 y cant yn dal efo nhw, 5 wedi mynd (nol?) at Lafur, a 21 at Blaid Cymru.
Diddorol ynte, ac yn ategu'r patrwm o PC yn gwneud yn waeth na'u cyfartaledd lle'r oedd LDs yn targedu (Ceredigion yn amlwg, ond Merthyr, Gorllewin Abertawe a Phontypridd efallai'n enghreifftiau mwy ystyrlon).
Ond cyn i Bleidwyr fynd yn rhy optimistaidd, rhaid cofio fod y sampl yn eitha bach, a bod y garfan yma o etholwyr yn debygol o fod yn eitha chwit-chwat.
Meurig.
Dwi wir yn gobeithio fod cyfnod poenus yn wynebu'r blaid hon.
ReplyDeleteFinnau hefyd. Ag eithrio'r pleidiau rhanbarthol Cymreig, y Lib Dems ydi fy nghas blaid i mae gen i ofn.
dwi'n cytuno fod pethau'n edrych yn ddu iddyn nhw yng Nghymru yn 2011 ond mae'n rhy gynnar i ddweud yr un peth am UK 2015.
ReplyDeleteFe all polisiau ConLib fod yn llwyddiant cymharol erbyn hynny a fod digon o bobl yn sefyll gyda'r LibDems a'r ceidwadwyr yn eu cefnogi'n strategol mewn rhai seddi gyda Llafur yn cael lot mwy o bleidleisiau a la y Rhondda, yn eu seddi craidd.
Erbyn 2015 fydd Llafur (er gwaetha eu rhethreg) yn mabwysiadu lot o bolisiau'r ConLibs a bydd pobl wedi arfer bod heb nifer o bethau. Bydd trethi hefyd yn cael eu gostwng.
Heblaw fod double dip (a mae hynny'n anodd dweud) dwi'n gweld y ConLib mewn pwer wedi 2015.
Macsen
fioricet addictionfioricet eo
ReplyDeleteFederal reserve chairman from november, 1934 to february, 1948, really animal a company of complexity was one of the major banks of the 1920s-30s great depression.