Efallai y dyliwn gychwyn trwy rhoi eglurhad brysiog o sut mae'r dull yn gweithio. Mae i pob etholaeth fwy nag un aelod (3-5 yn achos etholiadau Dail Eireann yn Ne Iwerddon, 6 yn achos etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon). Caiff yr etholwr bleidleisio i gymaint, neu gyn lleied o ymgeiswyr ag mae eisiau, ond rhaid gwneud hynny mewn trefn - 1,2,3,4 ac ati. Y bleidlais gyntaf a gyfrifir yn gyntaf. Os, o gyfri'r pleidleisiau cyntaf, bod un ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy i gael ei ethol (quota) yna fe'i etholir. Mae union faint y trothwy yn ddibynnol ar sawl sedd sydd i'w dyrannu - os mai tair sydd ar gael mae'r trothwy yn 25% + 1, os mai 4 mae'n 20% + 1, os yw'n 5 mae'n tua 16.5% + 1, ac os yw'n 6 mae'n tua 14.5% + 1. Gellir gweld esiampl o'r dull cyfri mewn etholaeth 5 sedd (Dun Laoghaire) yma.
Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol (mae 4 aelod Dublin Mid West yn perthyn i bleidiau - Fianna Fail, Y Blaid Werdd, y PDs a Llafur).
Rwan, does yna ddim gold standard o ran systemau pleidleisio - mae i pob un ei manteision a'i anfanteision - neu mi fyddai pawb yn defnyddio'r un drefn. Rhestraf manteision ac anfanteision STV isod:
Anfanteision
- Cymhleth - i'r sawl sy'n cyfri o leiaf.
- Ddim yn gwbl gyfrannol. Mae tua 45% o'r bleidlais fel rheol yn ddigon i Fianna Fail ennill grym ar ei phen ei hun.
- Mae yna dueddiad (yn Ne Iwerddon, ond nid yn y Gogledd) i ethol math arbennig o ymgeisydd - person sy'n dda iawn am sortio problemau unigolion a sydd a chysylltiadau eang yn lleol, ond nad yw o anghenrhaid yn dda i ddim am unrhyw beth arall. Gombeen man.
- Llai o debygrwydd o lywodraeth un plaid (credwch neu beidio mae yna rai sy'n ystyried hyn yn anfantais).
- Mwy cyfrannol, ac felly mwy teg na'r drefn bresenol.
- Pleidlais neb (bron) yn cael ei gwastraffu - mae pleidlais y rhan fwyaf o bobl (hy pawb sydd yn pleidleisio i rhywun na enillodd) o dan ein trefn ni. A dweud y gwir mae pleidlais ambell un wedi cael ei gwastraffu ym mhob etholiad trwy ei fywyd.
- Cysylltiad yn cael ei gadw rhwng aelodau ac etholaethau unigol. Mae'r cysylltiad hwn yn cael ei wanhau neu ei dorri mewn llawer o gyfundrefnau cyfrannol.
- Mae'n grymuso'r etholwyr ar draul pleidiau gwleidyddol. Er enghraifft o dan y gyfundrefn sydd gennym yn y Cynulliad mae pwyllgor rheoli'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi dewis ar ran yr etholwyr pwy fydd pedwar o aelodau nesaf y Cynulliad. Mae'n llawer mwy anodd sarhau'r etholwyr yn y ffordd yma o dan STV gan bod mwy nag un ymgeisydd o'r un blaid yn sefyll yn aml. Mae pob etholiad yn Ne Iwerddon yn gyforiog efo ymgeiswyr sy'n cael eu ffafrio gan y sefydliadau pleidiol yn colli i rai (o'r un plaid) sy'n boblogaidd yn lleol.
- Elegant o safbwynt mathemategol (OK 'dydi hyn ond o ddiddordeb i anoracs megis fi).
- Mae'n sicrhau mwy o amrywiaeth o ran y pleidiau sydd ar yr arlwy i'r etholwyr. Mae pleidiau yn fwy tebygol i ffurfio a sefyll os ydi'r trothwy ar gyfer sicrhau cynrychiolaeth etholedig yn gymharol isel.
- Mae'n ei gwneud yn fwy tebygol bod safbwyntiau gwleidyddol lleiafrifol yn cael cynrychiolaeth senrddol. Er enghraifft ceir 5 TD Gwyrdd yn y Dail (Senedd De Iwerddon) allan o tua 150 aelod. Un aelod Gwyrdd a geir yn San Steffan (o tua 650 aelod), ac eleni ydi'r tro cyntaf i hynny erioed ddigwydd.
- Does yna ddim o'r fath beth a sedd saff gan amlaf - mae'n rhaid i dri aelod Fianna Fail mewn cadarnle fel Laois-Offaly weithio'n galed am eu bod yn gwybod y bydd yna bedwar ar y rhestr yn yr etholiad nesaf. Gall pobl bleidleisio yn eu herbyn nhw yn bersonol heb beidio a phleidleisio i'r blaid.
- Mae'n gwneud diwrnod y cyfri yn wirioneddol gynhyrfus. Gan bod pob rownd o gyfri yn cael ei ddatgan yn unigol gellir barnu ym mhle mae pawb o gymharu a'i gilydd.
Cytuno 'da ti Menai. Yr hyn sydd angen i ni benderfynnu yw pa system sydd orau i Gymru; nid Iwerddon neu Brydain neu Ewrop, ond Cymru.
ReplyDeleteYn hyn o beth dwi'n meddwl mai STV sydd orau am y rhesymau rwyt ti'n nodi. Dwi hefyd yn meddwl, mewn wlad weddol rannedig lle mae angen tynnu pobl fewn i'r prosiect genedlaethol ehangach, fel mewn gwlad fel Iwcrain, lle ceir rhaniad bloc/ethnig bron, yna mae system sy'n golygu hi'n anodd iawn cael rheolaeth un blaid yn beth da.
Y peth gwaetha allai digwydd yn 2011 fyddai Cymru'n cael ei rheoli gan un blaid yn unig. Mae Cymru'n wlad efo un blaid fawr, y Blaid Lafur, ond nid y hi yw plaid mwyafrif pobl Cymru.
Macsen