Ymddengys bod Total Politics yn cynnal eu cystadleuaeth (os mai dyna'r gair) flynyddol. Daeth y blogmenai yn drydydd trwy Gymru y llynedd, er nad ydi bron i 80% o'r boblogaeth yn gallu deall gair sy'n cael ei ysgrifennu arno.
Yn groes i honiadau gorffwyll ac eiddigeddus Paul Flynn wnes i ddim gofyn i neb am bleidlais - dim ond rhoi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad ac awgrymu i bobl fotio i flog Cymreig. Gan bod hynny wedi gweithio mor dda y llynedd, waeth i mi wneud yr un peth eleni - felly cofiwch fwrw pleidleisiau i flogiau Cymreig!
Cliciwch ar y ddelwedd isod os ydych eisiau pleidleisio:
Wedi pledleisio drostat ti a'r usual suspects eraill.
ReplyDeleteGwd thing
Mi fydd rhaid i mi ddychwelyd y ffafr felly Ifan.
ReplyDeleteA pleidlais arall i chdi, a ddim ffafr ydy, ond am dy fod yn haeddu pleidlais. Ond mae'n rhaid fi ddeud dy fod wedi mynd braidd yn hirwyntog y flwyddyn ddwetha ma!!
ReplyDeleteMi gei di fy mhleidlais eleni gan bod un Gwilym Euros wedi mynd yn ddistaw iawn ers ganol Ebrill am ryw reswm!
ReplyDeleteA wel sori Plaid Gwersyllt - henaint ni ddaw ei hunain!
ReplyDeleteWel anhysbys mi fedri di pob amser bleidleisio i flog Aeron Maldwyn yn absenoldeb Gwilym Euros.
ReplyDelete