Deallaf bod ymgeisydd Llais Gwynedd wedi cadw sedd Diffwys a Maenofferen i'r grwp sydd wedi bod yn ddi gynghorydd am gyfnod yn sgil ymddiswyddiad diweddar Gwilym Euros Roberts.
Agos iawn! Llongyfarchiadau i Richard Lloyd Jones, a chydymdeimladau mawr i Mr Thomas, mae' n rhaid bod colli o gyn lleied o bleidleisiau yn fwy o artaith na chael crasfa go iawn Onid oedd is etholiad yn nhref Caernarfon heddiw hefyd wedi marwolaeth cynghorydd annibynnol?
Agos iawn! Llongyfarchiadau i Richard Lloyd Jones, a chydymdeimladau mawr i Mr Thomas, mae' n rhaid bod colli o gyn lleied o bleidleisiau yn fwy o artaith na chael crasfa go iawn
ReplyDeleteOnid oedd is etholiad yn nhref Caernarfon heddiw hefyd wedi marwolaeth cynghorydd annibynnol?
Wyt ti'n meddwl fod penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau ysgol Y Parc wedi rhoi digon o hwb in Lais Gwynedd?
ReplyDeleteNa Alwyn - does yna neb wedi gofyn am is etholiad tref eto yn dilyn marwolaeth Melvyn. Aelod Llafur oedd Melvyn wrth gwrs.
ReplyDeleteRoedd Bob (a oedd yn annibynnol) ar y cyngor tref a'r cyngor sir, ond yn amlwg mae'n gyn amserol i gael is etholiadau yno.
A dweud y gwir does gen i ddim syniad os oedd a wnelo Ysgol Parc unrhyw beth a'r canlyniad - er bod y mwyafrif yn fach iawn wrth gwrs.
Petai mwyafrif yn fach neu fawr, mae dal yn fwyafrif, a mwyafrif sy'n ennill etholiad!
ReplyDeleteMae hynny'n bwynt braidd yn amlwg Huw.
ReplyDeleteYmateb i gwestiwn Plaid Gwersyllt ynglyn a'r cysylltiad rhwng cau Ysgol Parc a'r canlyniad oeddwn i.