Tuesday, June 15, 2010
Y daith wedi Bloody Sunday
'Dwi'n eithaf siwr fy mod yn gywir i ddweud mai'r diweddar David Ervine, arweinydd y blaid deyrngarol y PUP a fathodd y term whataboutery. Mae'n derm gwych i ddisgrifio'r hyn sy'n aml yn cymryd lle ymryson gwleidyddol call yng Ngogledd Iwerddon. Pan mae un ochr yn codi rhyw gwyn neu'i gilydd, ymateb yr ochr arall yn amlach na pheidio ydi - yes, but what about _ _ _' Mae'r arfer o geisio dod o hyd i rhywbeth gwaeth mae'r ochr arall wedi ei wneud yn hytrach nag ymateb i'w dadleuon yn duedd sydd wedi treiddio yn dwfn i ddiwylliant gwleidyddol Gogledd Iwerddon, ac mae'r ffaith bod poblogaeth y dalaith yn tueddu i feddwl yn y ffordd yma yn un o'r rhesymau pam ei bod mor anodd symud ymlaen yno yn wleidyddol. Whataboutery ydi llawer o'r ymateb Unoliaethol sydd wedi bod i gyhoeddiad ymchwiliad Saville heddiw.
Wna i ddim eich diflasu trwy ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd ar Ionawr 30, 1972. Mi gewch ddigon o hynny yn y cyfryngau prif lif, a chenhadaeth y blog yma ydi cynnig perspectif sydd ychydig yn wahanol i un y cyfryngau hynny. Serch hynny mi hoffwn wneud dau sylw ynglyn a pam bod cynnal yr ymchwiliad yn beth priodol i'w wneud, hyd yn oed ag ystyried y gost anhygoel o £200,000,000.
Yn gyntaf 'dydi hi ddim yn briodol cymharu Bloody Sunday efo digwyddiad megis Bloody Friday, cyflafan a achoswyd gan fomiau'r IRA yn fuan wedi Bloody Sunday. Mae'r RUC (a thrwy hynny y wladwriaeth Brydeinig) eisoes wedi ymchwilio i'r digwyddiad hwnnw, fel maent wedi ymchwilio i pob digwyddiad terfysgol a ddaeth i'w sylw yn ystod y rhyfel hir yn y Gogledd. Yn achos Bloody Sunday mae'n ymddangos i'r wladwriaeth a'i hasiantaethau weithredu mewn ffordd oedd wedi ei gynllunio i gelu'r gwirionedd. Mae'n briodol felly bod y wladwriaeth yn gweithredu mewn modd sydd yn dad wneud ei hymdrechion ei hun yn y gorffennol i atal ac i lygru'r broses gyfreithiol arferol.
Yn ail ac yn bwysicach roedd digwyddiadau'r diwrnod hwnnw yn rhai pwysig yn hanes datblygiad y rhyfel yn y Gogledd, a'r broses wleidyddol a arweiniodd o'r rhyfel. O edrych ar broffeil syniadaethol Iwerddon heddiw lle mae'r bobl sy'n byw yn ardaloedd Pabyddol Gogledd Iwerddon yn arddel daliadau Gweriniaethol eithaf di gyfaddawd, tra bod trigolion y Weriniaeth yn fwy amrywiol ac eclectig o ran eu credoau, mae'n anodd credu bod pobl y Gogledd hyd yn gymharol ddiweddar yn llawer llai Gweriniaethol o ran syniadaeth ei phobl na'r De. Gallwn weld hyn yn glir os ydym yn edrych ar bpatrymau pleidleisio'r Gogledd tros gyfnod.
Yn wahanol i weddill yr ynys 'doedd canlyniadau Sinn Fein ddim yn arbennig o gryf yn y Gogledd yn etholiad ysgytwol 1918. Yn wir methodd Eamonn De Valera a churo cenedlaetholwr cyfansoddiadol ar y Falls, cafodd Gerry Adams ymhell tros i 80% o'r bleidlais yn y rhan yma o Orllewin Belfast fis diwethaf. Y fersiwn gwyrdd golau o genedlaetholdeb a orfu, gan ennill tros i 98% o'r bleidlais, mewn ardal arall oedd i ddatblygu i fod yn berfedd dir i'r IRA erbyn degawdau olaf y ganrif - De Armagh.
Digon an Weriniaethol oedd gwleidyddiaeth y rhan fwyaf o Babyddion yn y Gogledd yn y chwe degau (eto yn wahanol i'r De). Y Mudiad Hawliau Sifil oedd y mudiad roedd y rhan fwyaf o Babyddion - yn enwedig rhai ifanc yn uniaethu efo fo - ac ennill hawliau cyfartal i Babyddion oedd pwrpas hwnnw. Nid oedd ail uno'r wlad hyd yn oed ar eu agenda nhw. Arweiniodd gwrthwynebiad elfennau o'r gymuned Unoliaethol i'r Mudiad Hawliau Sifil at ffrwydriad o drais yn 1969 ac anfonodd Harold Wilson y fyddin i'r dalaith. Roedd y rhan fwyaf o Babyddion yn croeaswu'r milwyr ar y cychwyn - roeddynt yn eu gweld fel amddiffynwyr rhag ymysodiadau o du'r gymuned Unoliaethol.
Roedd yna fwy i'r stori o'r cychwyn wrth gwrs. Roedd yna draddodiad lleiafrifol yn y Gogledd (a thu hwnt) oedd yn arddel syniadaeth Wereniaethol eithafol. Roedd y syniadaeth yma yn llawer mwy tebyg ar aml i wedd i'r un roedd y rhan fwyaf o'r bobl yn y De yn ei harddel bryd hynny nag oedd i ddaliadau'r rhan fwyaf o Ogleddwyr - ond roedd gwahaniaethau pwysig. 'Doedd y fersiwn yma o'r traddodiad Gweriniaethol ddim yn cydnabod cyfreithlondeb dim un o lywodraethau'r De, ag eithrio'r cyntaf - yr unig un i gael ei ethol gan yr ynys yn ei chyfanrwydd. Yn y byd bach neo ddiwynyddol yma, unig wir arlywydd y Weriniaeth oedd arweinydd yr IRA. Lleiafrif bach oedd yn arddel y syniadaeth yma ym 1969 ac roeddynt yn croni o gwmpas yr ychydig oedd yn weddill o'r IRA.
Arhosodd y berthynas rhwng Pabyddion y Gogledd a'r fyddin yn weddol dda hyd 1970. Fel roedd y berthynas yna'n torri i lawr ymddangosodd fersiwn mwy ymysodol ac ideolegol 'bur' o'r IRA - y Provisionals neu Óglaigh na hÉireann erbyn diwedd 69 neu ddechrau 70. Cafwyd ffrwydriadau gan yr IRA yn 1970, ond ni laddwyd unrhyw filwyr ganddynt tan gwanwyn 1971. Erbyn hynny roedd y berthynas rhwng Pabyddion a'r fyddin ar dorri i lawr yn llwyr. Y rheswm sylfaenol am hyn oedd bod Pabyddion wedi hen fagu'r argraff bod y fyddin Brydeinig yn cymryd ochr - ac nid eu hochr nhw oedd honno. Roedd cyfres o ddigwyddiadau wedi arwain at ffurfio'r canfyddiad yma tros y flwyddyn flaenorol, ac roedd cyfres o ddigwyddiadau tros y flwyddyn ganlynol am atgyfnerthu'r canfyddiad. Bloody Sunday oedd un o'r rheiny.
Mae yna lawer yn honni mai Bloody Sunday oedd y digwyddiad a chwalodd y Mudiad Hawliau Sifil ac a yrrodd cydrannau arwyddocaol o'r dosbarth gweithiol Pabyddol i freichiau'r Provos. 'Dydi hynny ddim yn gyfangwbl wir - roedd yna gyfres o ddigwyddiadau eraill ynghynt ac wedyn a argyhoeddodd pobl mai ideoleg leiafrifol y Provos oedd yn cynnig eglurhad ac ateb i'r anghyfiawnder roedd Pabyddion y Gogledd yn ei ddioddef, yn hytrach na syniadaeth mwy eangfrydig y Mudiad Hawliau Sifil.
Digwyddiadau oedd y rhain megis y Falls Curfew, Operation Demetrius a'r miloedd a orfodwyd o'u cartrefi yn dilyn hynny, llofruddiaeth Seamus Cusack a Desmond Beattie, dienyddiad Gerard McDade, ymgyrch bropoganda gan y fyddin yn dilyn bomio bar McGurks gan yr UVF ac ati. Fel roedd y digwyddiadau yma'n pentyru roedd y lefelau trais yn cynyddu ac roedd mwy a mwy o aelodau'r lluoedd diogelwch yn cael eu lladd gan yr IRA.
Serch hynny roedd Bloody Sunday yn crisialu'r canfyddiad oherwydd i'r digwyddiad gael ei ffilmio gan gamerau teledu, ac oherwydd iddo gael cymaint o sylw yn y wasg a'r cyfryngau. Yn y cyd destun yma y dylid deall arwyddocad Bloody Sunday - digwyddiad a gadarnhaodd i lawer o Babyddion rhywbeth yr oeddynt yn ei wybod yn barod - bod y fyddin Brydeinig, ac felly'r wladwriaeth Brydeinig ar ochr eu gelynion. 'Doedd y ffaith i'r wladwriaeth Brydeinig fynd ati i gelu'r hyn roedd y cwn ar y palmentydd yn ei wybod ddim yn helpu'r sefyllfa.
Er i etifeddion gwleidyddol y Mudiad Hawliau Sifil, yr SDLP gynnal eu statws fel prif gynrychiolwyr Pabyddol yn y Gogledd hyd at 2001, roedd syniadaeth y Mudiad Hawliau Sifil wedi ei ladd wedi Bloody Sunday. Roedd o bosibl mwy na thraean o'r boblogaeth Babyddol yn gefnogol i'r IRA trwy gydol yr helyntion ac roedd rhaid i'r SDLP symud i dirwedd llawer mwy cenedlaetholgar er mwyn cynnal eu cefnogaeth. Erbyn heddiw mae Sinn Fein wedi ennill mwy o gefnogaeth na'r un blaid arall yn y ddwy etholiad diwethaf, ac maent yn sylweddol gryfach na'r SDLP.
Mae'r patrwm yma'n debygol o gryfhau, ac mae posiblirwydd cryf mai Gweriniaethwr oedd yn y Bogside ar ddiwrnod y gyflafan fydd Gweinidog Cyntaf y dalaith o fewn pum mlynedd. Yn y tymor canolig, o fewn deg i bymtheg mlynedd mae'n debyg y bydd mwy o bobl o gefndir Pabyddol na sydd o gefndir Protestanaidd ar y gofrestr pleidleisio, ac mi fydd canran uchel o'r rheiny yn arddel daliadau Gweriniaethol - canran uwch o lawer nag un 1969.
A dyna ydi eironi pethau - mae prosesau a gychwynwyd gan newidiadau syniadaethol a ddigwyddodd mewn cymuned cymharol fach o ganlyniad i weithredoedd amhroffesiynol gan fyddin broffesiynol yn ol yn 1971 a 1972 wedi arwain at daith fydd yn debygol o gyrraedd ei therfyn naturiol, ac arwain at newidiadau cyfansoddiadol pell gyrhaeddol, hanner canrif a mwy yn ddiweddarach. Mi fydd yr archwiliad drydfawr i ddigwyddiad enwocaf y cyfnod hwnnw yn garreg filltir bwysig arall ar y daith honno.
Horseman - boi gwefan Ulster's Doomed wedi marw.
ReplyDeleteDyma oedd y blog orau am Ogledd Iwerddon.
Gwych iawn bM. Diolch.
ReplyDeleteDiolch di enw 3.42.
ReplyDeleteMae'n ddrwg gen i ddeall am farwolaeth Ian. Roedd ei flog ymysg y mwyaf deallus.