Saturday, June 19, 2010

Plaid Cymru ac etholiadau Cynulliad 2011

Mi fydd y sawl yn eich plith sy'n dilyn y blogosffer Cymreig yn ymwybodol o wahanol broblemau sy'n debygol o wynebu aelodau'r Blaid wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Yn wahanol i'r Toriaid er enghraifft mae'r broses o ddewis ymgeisyddion yn un democrataidd, ac felly yn nwylo'r aelodau yn hytrach nag yn nwylo sanhedrin o hen gojars ar frig y blaid.

Gwahaniaeth arall ydi'r ffaith bod gan y Blaid ormod o dalent yn chwilio am rhy ychydig o seddi. Mae hyn yn gwbl groes i'r pleidiau Prydeinig yng Nghymru lle ceir llawer mwy o seddi na sydd o dalent gwleidyddol ar gael i'w llenwi. Ceir awgrymiadau ym mlog John Dixon - Borthlas a blog Vaughan.

Mi fedrwn gasglu'r canlynol o'r awgrymiadau sydd wedi eu taflu o gwmpas hyd yn hyn. Cofiwch awgrymiadau yn unig ydi'r rhain - sibrydion yn y rhithfro fel petai.

  • Nid John Dixon fydd yn sefyll yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Bydd Nerys Evans yn rhoi ei henw ymlaen yno.
  • Ar restr De Ddwyrain Cymru, ac nid Caerffili fydd enw Ron Davies.
  • Bydd Bethan Jenkins yn rhoi ei henw ymlaen ar restr De Orllewin Cymru.
  • Yn Ne Clwyd ac nid ar restr y Gogledd fydd Janet Ryder yn sefyll. Bydd Mabobn ap Gwynfor yn rhoi ei enw ymlaen yno hefyd.
  • Bydd enw Dafydd Wigley ar restr y Gogleddd.
  • Bydd enw Adam Price yntau ar restr y Canolbarth a'r Gorllewin.
Hoffwn ychwanegu un neu ddau o sibrydion eraill i'r lobs sgows.

  • Bydd Heledd Fychan yn rhoi ei henw ymlaen ar gyfer rhestr y Gogledd. Bydd enw cynghorydd y Felinheli, Sian Gwenllian yno hefyd.
  • Bydd enw Myfanwy Davies yn cael ei roi ymlaen naill ai ar gyfer Gorllewin De Cymru neu Canol De Cymru.

9 comments:

  1. Hmm - 'dwi ddim yn meddwl rhywsut neu'i gilydd.

    ReplyDelete
  2. Anonymous7:28 pm

    plaid yn warthus unweth eto bethan jenkins ar rhestr ron davies ar rhestr adam price ar rhestr ydyn ni rili eisiau ennill seddi mae'r plaid yn bonkers

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:30 pm

    beth ywr pwynt mynd ar rhestr ni eisie ennill yn sefyll fel islyn gwastraff llwyr os mae myfanwy ron adam dafydd yn mynd ar rhestr os mae nhw i gyd yn myn ar rhestr dyna fe dwin rhoi lan fy aelodaeth dwi di cael diigon o nonsens o ddim brwydro unman

    ReplyDelete
  4. Dwi rhyw hanner cytuno efo anon. Os ma'r blaid isho cynnyddu ei seddi ma rhaid curo etholaethau. Os y tacteg ydi sicrhau y "big names" i fewn i'r cynulliad, price, davies a wigley, digon teg. Ond ddim felna ddylsa hi fod.

    Ma na "saturation point" efo seddi rhanbarthol (fel ddysgodd y DemRhydd). Cymherwch y tri rhanbarth yn y de, dani fo 2 AC yn yr tair rhanbarth a does modd i ni gynyddu tan dani yn dechra curo seddi etholaethol yna. Felly yn Caerffili ddylsa Ron fod yn sefyll, Castell Nedd Adam ac ati.

    Yn anffodus, mae i weld fod gyrfaeodd gwleidyddol rhai pobl yn bwysicach na buddianau eu pharti.

    ReplyDelete
  5. Ia a naci.

    Mae cael rhywun adnabyddus ar y rhestr yn dennu pobl i bleidleisio na fyddai'n gwneud fel arall - ac mae ganddynt bleidlais etholaethol yn ogystal a phleidlais ranbarthol wrth gwrs.

    ReplyDelete
  6. Anonymous5:51 pm

    dwi rhyw dybio fod Adam yn gweld ei hun fel olynydd Ieuan Wyn ar ben y Blaid - a phob lwc iddo. Dwi fy hun yn bendant y byddai yn gwneud yn wych.
    Ond os ydi hyn yn wir, rhaid iddo fod mewn etholaeth i mi nid ar y rhestr.

    ReplyDelete
  7. Digon teg Menai. Mae'n anodd mesuro effaith ymgeiswyr rhestr ar pledleisiau etholaethau ond dwi dal yn rhyw tybio sa'n well i ni cael adam price a ron davies (yn sicr) yn sefyll mewn etholaethau ymylol.

    Ond, dwi o'r Ynys felly mae'n anodd i mi weld sut mae ymgeiswyr rhanbarthol yn goresgyn (neu yn cael unrhyw effaith o gwbl ar) pleidleisau etholaethol.

    ReplyDelete
  8. Anonymous10:15 am

    Efallai y gall y rhai hynny sydd heb lwyddo i ddod yn ymgeiswyr etholaeth roi eu henwau ymlaen ar gyfer y rhestr hefyd.

    Unrhyw son am amcanion Llyr Huws Gruffydd? Arwel Lloyd? Steffan Lewis? Mae toreth o dalent ifanc gan y Blaid, ond does yna ddim llawer o ferched ifanc yn dod trwy'r rhengoedd. Mae'n rhaid felly hyrwyddo Nerys Evans a Bethan Jenkins, dwy ferch talentog a hynod alluog.

    ReplyDelete