Un o'r problemau efo cynnal dadl trwy flogio yn hytrach nag ar negesfwrdd megis maes e ydi bod y ddadl yn gallu bod yn ddarniog ac mae'n anodd dilyn pob ffrwd o'r ddadl. Mae hefyd yn bosibl cam liwio'r hyn y bydd pobl yn ei ddweud.
Mi fydd rhai ohonoch yn cofio i grwp gwleidyddol arbennig nad ydyw'n hoff iawn o flogmenai wneud mor a mynydd o sylwadau oedd wedi eu cymryd yn gyfangwbl allan o gyd destun dadl ehangach, er mwyn gwneud iddynt swnio fel petaent yn gwneud sylw cyfangwbl groes i'r hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd. Yn wir mi aethant mor bell a chreu rhyw swydd i mi oddi mewn i Blaid Cymru oedd yn swnio'n ofnadwy o bwysig , er mwyn prodoli'r sylwadau i'r Blaid yn ogystal ag i fi. O'r holl ddarlledwyr a chyfryngau print a gafodd y stori dim ond Golwg oedd yn ddigon di niwed i redeg efo hi gan nad oedd y stori'n fawr mwy na 'blogiwr yn dweud rhywbeth i ypsetio gwleidydd' hyd yn oed wedi'r holl ddethol a throelli gan y grwp gwleidyddol dan sylw.
Gyda'r stori fach yma mewn cof 'dwi'n gyndyn o ddehongli'r hyn mae Simon Brooks yn ei ddweud i raddau rhy gysact mewn dadl y gellir ei gweld yma, yma ac yma. 'Dwi ddim yn gwybod os ydi hi'n cael ei chynnal mewn mannau eraill hefyd. Ta waeth, 'dwi ddim yn meddwl fy mod yn cam liwio ei ddadl trwy nodi ei fod yn gweld tyndra rhwng cenedlaetholdeb sifig a chenedlaetholdeb ethnig yng Nghymru, a bod llawer o wleidyddion Cymreig yn gweld yr iaith yn nhermau cenedlaetholdeb ethnig ac felly yn rhywbeth amheus neu hyd yn oed ddrwg. Mae'n egluro digwyddiadau megis y penderfyniad i wrthod cynlluniau'r cyngor i ad drefnu yng Nghaerdydd a 'gwendid' mesurau iaith arall trwy gyfeirio at y tyndra syniadaethol arall. Simon ydi Simon wrth gwrs, ac mae'r enfant terrible sydd yn rhan ohono yn ymestyn y pwynt i'r graddau y gallai'r pwerau deddfu y byddwn yn pleidleisio ynglyn a nhw maes o law fod yn niweidiol i'r iaith. Mae hon yn gryn naid o'r ddadl wreiddiol, a 'dydw i ddim am ddelio efo hynny yn y blogiad hwn.
Hwyrach y dyliwn aros yma i nodi mai fersiwn ar genedlaetholdeb sy'n ymwneud a hawliau grwp ethnig neu ddiwylliannol penodol ydi cenedlaetholdeb ethnig, tra bod y fersiwn sifig yn fwy cynhwysol ac yn pwysleisio hunaniaeth cenedlaethol yn nhermau gwladwriaeth gynhwysol yn hytrach na grwp diwylliannol neu ethnig. Am eglurhad llawnach gweler yma ac yma.
Mi hoffwn fodd bynnag wneud dau bwynt. I ddechrau 'dydi mudiadau cenedlaethol ddim yn syrthio'n dwt i gategoriau arbennig mewn bywyd go iawn. Gellir gweld y ddau ffrwd mewn cenedlaetholdeb Gymreig, ac mi fyddwn yn derbyn yr awgrym sydd ymhlyg yn sylwadau Simon bod y pwyslais wedi symud oddi wrth genedlaetholdeb ethnig tuag at genedlaetholdeb sifig yn ystod y degawdau diwethaf.
Er bod llawer o syniadaeth cenedlaetholdeb Gwyddelig ar lefel arwynebol yn perthyn i'r traddodiad sifig (Wolf Tone, y Chwyldro Ffrengig ac ati) mae cenedlaetholdeb ethnig wedi tra arglwyddiaethu yn y Weriniaeth am y rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf. Yn wir gellir dehongli strwythur pleidiol y Weriniaeth yn nhermau gwrthdaro rhwng dau fersiwn o genedlaetholdeb - yr ethnig a'r sifig - ac yn wir dau fersiwn o'r Weriniaeth ei hun. Mae'r un peth yn wir i raddau llai am genedlaetholdeb yn yr UDA.
'Rwan yr hyn sy'n bwysig i'w ddeall ydi hyn - mae i'r ddau fersiwn o genedlaetholdeb eu cyd destun syniadaethol ehangach. Mae cenedlaetholdeb sifig wedi ei wreiddio mewn gwleidyddiaeth ryddfrydig, tra bod cenedlaetholdeb ethnig yn perthyn yn nes o lawer at wleidyddiaeth geidwadol. Mae Cymru'n wlad ryddfrydig - yn wir mi fyddai'n anodd iawn meddwl am wlad mwy rhyddfrydig. Oherwydd hynny 'dydi hi ddim yn debyg y gall gwleidyddiaeth cadwriaeth iaith lwyddo os ydym yn ei osod oddi mewn i ffram cenedlaetholdeb ethnig. O wneud hynny byddwn yn anfon yr iaith yn erbyn llif syniadaethol cryf iawn. Os ydym i ennill y ddadl ynglyn a'r iaith rhaid gosod y ddadl honno mewn cyd destun sydd yn ei hanfod yn un ryddfrydig - hynny yw un sy'n ymwneud a chynhwysiad, hawliau cyfartal, cydraddoldeb o ran cyfleoedd ac ati. 'Dydi'r pethau hynny sy'n gysylltiedig a chenedlaetholdeb ethnig - parhad diwylliannol, cadwraeth, ethnigrwydd ac ati ddim yn bethau sy'n tarro deuddeg yn y Gymru sydd ohoni.
Os ydi'r ddadl iaith i'w hennill, mae gen i ofn y bydd rhaid gwneud hynny ar dermau rhyddfrydig - a golyga hynny defnyddio ieithwedd ryddfrydig. Mae hyn yn anodd weithiau, ac mae'n groes i'r graen yn aml - ond dyna'r unig lwybr sydd a chyfle o lwyddo.
"Hwyrach y dyliwn aros yma i nodi mai fersiwn ar genedlaetholdeb sy'n ymwneud a hawliau grwp ethnig neu ddiwylliannol penodol ydi cenedlaetholdeb ethnig, tra bod y fersiwn sifig yn fwy cynhwysol ac yn pwysleisio hunaniaeth cenedlaethol yn nhermau gwladwriaeth gynhwysol yn hytrach na grwp diwylliannol neu ethnig. Am eglurhad llawnach gweler yma ac yma."
ReplyDeleteDwi'n meddwl mai'r pwynt mae Seimon ac eraill yn ceisio ei wneud yw hyn. Fod 'cenedlaetholdeb sifig' y Blaid Lafur (ac i elfen lot yn llai, rhannu o Blaid Cymru) mewn gwirionedd yn genedlaetholdeb ethnig. Mae'n genedlaetholdeb ethnig gan ei fod yn, a gan ddefnyddio dy eiriau di. yn 'ymwneud a hawliau grwp ethnig neu ddiwylliannol penodol ydi cenedlaetholdeb ethnig'. Y grwp 'ddiwylliannol penodol' yma ydy'r gymuned uniaith Saesneg yng Nghymru. Heb os, arwydd o genedlaetholdeb ethnig yw penderfyniad Carwyn Jones i wrthod cau ysgol Landsdown.
Yn hyn i gyd, felly, rhaid derbyn fod y gair 'ethnig' yn gamarweiniol. Nid y maen prawf yw ethnigrwydd per se (er fod y Saesneg a'r Gwyddelod a ymfudodd i Gymru yn gallu cael eu diffinio fel cymuned ethnig, ond sydd nawr wedi dod yn fwyafrif ac felly, arddel mantell cymuned sifig). Yn Nghymru gellir defnyddio iaith lle defnyddir 'ethnig'.
Yr hyn mae Seimon yn ceisio ddweud am wn i yw fod rhaid i ni fod yn onest am wir natur 'cenedlaetholdeb sifig' gan fod cenedlaetholdeb sifig wedi ei hadeiladu ar sail un ethnig. Pan fod y wladwriaeth neu blaid wleidyddol yn derbyn fel ei sylfaen mae'r gymuned ethnig/ieithyddol Saesneg ei hiaith yw'r 'norm', y 'banal nationalism' fel sonia Richard Wyn Jones yn ei lyfr ar Blaid Cymru, yna, nid term di-duedd 'da' yw 'cenedlaethodeb sifig' ond wedd gamarweiniol ac ar adegau niewidiol ar 'genedlaethodeb ethnig/hunaniaeth Saesneg ei hiaith' yw hi.
Mae'n amser i genedlaetholwyr Cymreig gydnabod hyn, peidio cael eu twyllo gan rethreg 'cenedlaetholdeb sifig' heb sylwi beth yw natur y cenedlaetholdeb sifig. Yn syml 'cenedlaetholdeb/hunaniaeth sifig'
Gymreig i fwyafrif yn y Blaid Lafur = 'cenedlaetholdeb/hunaniaeth ethnig, Saesneg ei hiaith' mewn gwirionedd. Dydy hil ynddo'i hun ddim yn bwysig, y gallu beidio siarad un iaith yn benodol (y Gymraeg) neu i uniaethu gyda'r anallu honno ar draul y Gymraeg yw bathodyn yr hunaniaeth ethnig yma.
Cenedlaetholdeb sifig a phaid cael dy dwyllo ganddo Menai.
Macsen
Mae Brooks yn gywir. Pwy ydw i i ddweud hyn? Dim ond Cymro dibwys. Ond rwyf i wedi bod yn meddwl ers tipyn.....beth sydd wedi digwydd i Blaid Cymru o ran amddiffyn ein gwlad. Wrth gwrs, yn eu pennau hwythau....dim ond entity daearyddol yw e bellach.....lle mae 'the people of Wales' yn byw. Siomedig.
ReplyDeleteYn y bon, dwi'n cytuno efo Macsen sydd wedi mynegi'r peth yn llawer cliriach na fi. Ond i raddau hefyd dwi'n cytuno efo Blog Menai.
ReplyDeleteO ran cytuno efo Menai, yn sicr mae angen gwneud y Gymraeg mor "sifig" ag sy'n bosib wrth ei rhoi reit ynghanol y Wladwriaeth Gymreig. Y methiant i wneud hyn (e.e. gwendid y Mesur Iaith presennol) sydd wedi fy ngwneud braidd yn amheus o'r brosiect ddatganoli yn ddiweddar oherwydd mae'n ymddangos y gallwn fod ar fin codi gwladwriaeth Gymreig ble nad yw'r Gymraeg mor ganolog i'r "sifig" ag y dylai fod. Mae hyn yn fy mhoeni'n fawr.
Os nad yw'r Gymraeg ynghanol y "sifig", yna bydd yn cael ei diffinio'n fwyfwy gan y "sifig" (uniaith Saesneg) fel cynneddf "ethnig". Ac mae hyn yn broblematig iawn - ar gefn y canfyddiad hwn mae pobl yn codi dadleuon am "gynwysoldeb" y Saesneg vs. "anghwysoldeb" y Gymraeg, neu "amlddiwylliannedd" y Saesneg vs. "unddiwylliannedd" y Gymraeg. Mewn byr o dro wedyn, mae rhywun yn son am "hiliaeth" y Gymraeg ayyb. A dyma ni ynghanol gwleidyddiaeth y Blaid Lafur ers datganoli.
Mae'r rhan fwyaf o waith academaidd yn y maes dros y 10/20 mlynedd diwethaf (Anthony D. Smith, The Antiquity of Nations; Will Kymlicka, Multicultural Citizenship; Stephen May, Language and Minority Rights) yn dadlau fod y dwyfoli ar y "sifig" yn anghywir am mai "ethnigrwydd y wladwriaeth" yw'r sifig gan amlaf. I ryw raddau maen nhw'n ceisio codi'r syniad o ethnigrwydd fel un parchus gan mai'r hyn a ddilornir fel cynneddfau "ethnig" yn aml iawn yw'r union hunaniaethau ymylol hynny (fel y Gymraeg) nad ydynt yn ddigon grymus i feddu ar eu sefydliadau gwladwriaethol eu hunain.
Crap llwyr, ac yn amser i chi sydd yn amlwg yn blogio o ran y dadleuon theoretig ac academaidd, weld be sy'n digwydd ar stepan drws chi eich hunain. Pwy dddiawl sy'n poeni os yw hyn yn genedlaetholdeb sifil neu ethnig - yn fy mhentref i ym Mon, lle roedd yr iaith Gymraeg yn iaith yr aelwyd, teulu, capel , eglwys, ysgol a thafarn dim ond tua 10 mlynedd yn ol, prin dwi yn nabod tua hanner y pentrefwyr erbyn hyn. Mae yna bobl sydd wedi symud yma i fyw o Essex, Manceinion, Birmignham a Lerpwl - dim un ohonynt yn siarad Cymraeg, ac mae iaith yr ysgol gynradd (tu allan i wersi) yn Saesneg bellach. Ta waeth ar y fath siarad, dim ond chwyldro all achub ni bellach - ein iaith, ein cenedigrwydd ac yn y bon ein cenedlaetholdeb. 'Armchair Academics' ydach chi oll - a dyna'r gwir pam mae dadansoddiad gwleidyddiaeth o'r safbwynt yma yn golugu methiant Plaid
ReplyDeleteMalwrs Cachu - enw da i Blaid Simon Brooks ac awdur Blog Menai (Bullshitters yn Saesneg, i'r rhai sydd ddim yn sifil na'n ethnic nationalists)
ReplyDeleteDwi'n cytuno efo'r uchod a dweud y gwir - dydi damcaniaethau ddim am achub y Gymraeg, mae hi'n chwalu yng Nghymru benbaladr ac eithrio ambell lecyn, ac yn anffodus mae'n deillio o methiant sylfaenol yn amcanion, ac efallai dull gweithredu, Plaid Cymru, ac mewn llefydd fel Môn mi fydd yn arwain at ddirywiad di-droi'n-ôl y Blaid ei hun - ac yn anochel felly mae arnaf ofn.
ReplyDeleteGan ddweud hynny, o ran y theori, i mi mae 'na wahanieth sylfaenol rhwng cenedlaethol sifig ac, nid ethnig eithr tradoddiadol yng Nghymru. Mae cenedlaetholdeb traddodiadol â'r iaith yn galon iddo, ac nid felly cenedlaetholdeb sifig, sef yr un sydd gryfaf nid yn unig yn gyffredinol ond bellach yn rhengoedd Plaid Cymru ei hun, ac mae'n ddatblygiad dwi'n bersonol ddim yn ei groesawu yn y lleiaf.
Mi sgwennish am hyn flwyddyn nôl os oes diddordeb gan rywun http://rachub.blogspot.com/2009/08/y-pedwar-math-o-genedlaetholdeb-yng.html
Mae'n rhaid i chi faddau i mi am fy nistawrydd gyfeillion - 'dwi'n bell o wareiddiad ac yn cael fy hun ar lannau'r Afon Taf yn hytrach na glannau'r Fenai, ac mae fy ngallu i gael gafael ar gyfrifiadur yn gyfyng.
ReplyDelete'Dwi wrth gwrs yn derbyn pwynt Macsen bod y cenedlaetholdeb ethnig oedd yn rhan ganolog o'r syniadaethau oedd yn cynnal yr Ymerodraeth Brydeinig yn un o'r grymoedd hynny sydd wedi'n cael ni i lle'r ydym heddiw. Mae'r term 'ethnig' yn y cyswllt yma yn llythrennol gywir gyda llaw.
Mi fyddwn, fodd bynnag yn dadlau bod y newidiadau yn natur cymdeithas yn Lloegr wedi gwthio'r math yna o genedlaetholdeb i'r ymylon gwleidyddol erbyn heddiw. 'Dydi hi ddim yn bosibl i wladwriaeth hawlio teyrngarwch ei dinasyddion ar sail cenedlaetholdeb ethnig, os ydi natur cymdeithas yn gymhleth o ran ethnigrwydd. 'Dim ond cenedlaetholdeb sifig sydd yn ddefnyddiol o safbwynt y wladwriaeth mewn amgylchiadau felly. Ta waeth, mater i flogiad arall ydi hynny.
Mae Simon yn gwbl gywir i awgrymu mai'r unig strategaeth all weithio mewn gwirionedd o ran arbed a chynnal y Gymraeg ydi ei gwthio i ganol ystyriaethau proto wladwriaeth Gymreig sydd yn sifig o ran ei meddylfryd.
Mae hyn yn anodd - wedi'r cwbl ceidwadol ydi'r reddf sydd y tu ol i gadwraeth iaith, a cheidwadol ydi'r reddf sydd y tu ol i'r ymdeimlad o alar a geir ymysg llawer o bobl y De oherwydd bod yr iaith bellach wedi ei cholli iddynt. Y galar yma ydi un o'r elfennau sy'n gyrru'r galw am addysg Gymraeg ar hyd y De diwydiannol a thu hwnt. 'Dydi greddf sy'n geidwadol ei natur ddim an eistedd ochr yn ochr yn gyfforddus efo delfrydau sifig.
Hwyrach y byddwch yn maddau i rhywun sydd efo rhyw ychydig o gyfranddaliadau BP am wneud cymhariaeth efo proses sy'n nes at ei galon ar hyn o bryd nag y dylai mater peirianyddol fod at galon neb.
Mae BP wrthi yn ceisio ffitio un bibell tros bibell arall er mwyn allgyfeirio'r llif olew sy'n bygwth llawer o arfordir yr UDA. 'Dydi'r ddwy bibell ddim yn ffitio yn arbennig o dda oherwydd i un gael ei niweidio, ac mae'r broses o'i llifio wedi bod yn ddiffygiol. Serch hynny, mae'n rhaid mynd rhagddi a'r ymarferiad oherwydd mai dyna'r unig ddewis - dyna'r unig sioe sydd yn y pafiliwn.
Felly hefyd wthio'r Gymraeg i ganol ystyriaethau gweinyddiaeth a chyfundrefn wleidyddol sydd yn eu hanfod yn sifig. 'Dydi pethau ddim yn ffitio yn iawn ond dyna'r unig ddewis - dyna'r unig sioe sydd yn y pafiliwn.
Dyma sut beth ydi bywyd yn aml iawn.
I am extremely inspired with your writing abilities as well as with the
ReplyDeletestructure to your blog. Is this a paid theme or did you customize it
your self? Either way stay up the nice high
quality writing, it is rare to look a nice weblog like this one these
days..
My web blog :: Diet plans That work