Thursday, May 20, 2010

Mae hi'n mynd yn unig yma

Gwilym Euros wedi rhoi'r gorau iddi, a rwan y blog Cymraeg ei iaith gwleidyddol hynaf am wn i - Hogyn o Rachub.

'Dydi hynny ddim yn gadael llawer o bobl sy'n blogio am wleidyddiaeth yn y Gymraeg - Vaughan, (ond mae'n rhan o'i waith), Y Trefor Tw (ond mae un o'r blogiau hynny'n llawer mwy gwleidyddol na'r llall), y blog Llais Gwynedd gwych sy'n weddill, Rhys Llwyd sy'n son am wleidyddiaeth pan nad yw'n son am grefydd, Hen Rech Flin wrth gwrs, mae Plaid Wrecsam yn blogio'n Gymraeg weithiau a Chynghorwyr Plaid Cymru Sir Gar, y blog newydd - Blog y Blogiwr Cymraeg, Morfablog sy'n son am wleidyddiaeth ambell waith, Blog Answyddogol sy'n blogio am wleidyddiaeth os yw'n blogio o gwbl, BlogDogfael sydd hefyd yn ymdrin a gwleidyddiaeth weithiau, Pendroni sydd wedi cynhyrchu ambell i flogiad Cymraeg _ _ _

Damia fo, dyna fi wedi dechrau rhestru - sy'n gamgymeriad, dwi'n bownd o bechu rhywun trwy anghofio amdano - ond wedi dweud hynny mae'n teimlo ychydig yn llai unig o'u rhestru nhw!

5 comments:

  1. Dere nôl i maes-e yn lle'r blogio bondigrybwyll 'ma! ;-)

    ReplyDelete
  2. B Hughes7:22 pm

    Ti wedi anghofio blog ardderchog Guto Dafydd a Maes-e (oce dydio ddim yn bloc yn yr ystyr iawn o blog), ond rwyf yn cytuno. Mae angen mwy o blogio yn y Gymrag.

    ReplyDelete
  3. Mae Guto'n un o'r Trefor Tw.

    Efallai y dof am dro i faes e yn y man. Distaw braidd ydi pethau yno - ac erbyn meddwl mi'r oeddwn i'n ypsetio bron i bawb.

    ReplyDelete
  4. "Gwilym Euros wedi rhoi'r gorau iddi,"

    Am beth od i'w ddweud....

    ReplyDelete
  5. Term gogleddol am 'give up' ydi rhoi'r gorau iddi.

    ReplyDelete