Wednesday, May 05, 2010

Dirmyg y Toriaid tuag at bobl Gogledd Iwerddon

Roedd y datganiad isod gan Ken Clarke ddoe ymysg y pethau mwyaf anymunol a gwirion i ddeillio o'r etholiad yma:

"There would be really quite appalling consequences for this country if we are not able to produce a credible plan for dealing with the deficit and the debt. And that involves some very difficult decisions.

If I have to sit and talk to three or four other groups... in the end you can always do a deal with an Ulsterman, but it's not the way to run a modern sophisticated society in the grips of an economic crisis which weak government under Gordon Brown has already caused".

Mae'n cwmpasu agwedd y Toriaid tuag at eu cyfeillion yr ochr arall i'r Mor Celtaidd yn eithaf clir, ac mae'n dangos bod yr agweddau anymunol yr ydym wedi eu cysylltu efo'r Toriaid yn y gorffennol yn dal yn fyw ac yn iach - hyd yn oed ymysg aelodau adain 'ryddfrydig' y blaid honno. Ymddengys bod Ken yn ystyried pobl Gogledd Iwerddon yn yn greaduriaid anymunol ac ansoffistigedig y dylid cadw mor bell a phosibl oddi wrth gwmni gwar. Cip bach anymunol ar y traha ymerodrol sy'n fyw ac yn gwbl iach o hyd yn y Blaid Doriaidd.

O edrych ar berthynas y Toriaid ag Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon mae'n weddol amlwg bod y Toriaid yn hollol ddi glem. Llwyddodd Cameron i ddychryn cefnogwyr ei chwaer blaid (UCUNF) trwy ddatgan y dylai Gogledd Iwerddon dderbyn toriadau mewn gwariant cyhoeddus. Hoffter o wariant felly ydi'r unig beth sy'n uno pawb yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Toriaid wedi gwneud mor a mynydd o'u cefnogaeth i UCUNF - plaid fydd yn lwcus i gael un sedd - ac felly ypsetio'r DUP, y blaid fydd yn ennill y rhan fwyaf o'r seddi. Efallai y daw'r rheiny i gytundeb efo'r Toriaid os oes angen - ond bydd y pris yn uffernol o uchel. 'Dydi cariad y DUP at y Toriaid ddim yn fawr ar yr amser gorau.

Mae'r Toriaid hefyd wedi dweud y bydd yr unoliaethwr annibynnol, Rodney Connor yn cael cymryd y chwip Doriaidd os caiff ei ethol yn Fermanagh South Tyrone. Yr Urdd Oren sydd wedi gwthio Mr Connor ymlaen fel 'unoliaethwr unedig' am resymau sydd yn eu hanfod yn secteraidd. Dydyn nhw ddim eisiau gweld Pabydd yn cael ei ethol. Rwan beth sy'n fwy ' soffistigedig' na hynny?

No comments:

Post a Comment