Wednesday, May 12, 2010

A ddaw hegemoni Llafur yn ei ol?

Mae cryn son wedi bod (gan Dicw ymhlith eraill) bod dyddiau hir hegemoni Llafur yng Nghymru ar fin dod i ben. Ar yr olwg gyntaf mae'r etholiad diweddaraf yn cadarnhau hynny gyda'r bleidlais Llafur o 36.2% yng Nghymru ymysg y perfformiadau mwyaf gwachul yn hanes y blaid yma.

Yr hyn sy'n hawdd i'w anghofio, fodd bynnag ydi ein bod ni wedi bod yn y fan yma o'r blaen. Ym 1983,
37.5% oedd eu canran o'r boblogaeth gyda'r Toriaid ar 31%. Yn wir syrthiodd mwy o'u seddi i'r Toriaid y tro hwnnw na'r tro hwn.

Llwyddodd Llafur i ail adeiladu eu pleidlais yn rhyfeddol o gyflym wedi hynny - yn gynt o lawer nag a wnaethant tros weddill Prydain. Yn 1987 cawsant 45.1% ac yn 1992 gwnaethant yn well eto gan sgorio 49.5% . Erbyn 1997 roeddynt ar 54.8%. Byddai dychwelyd at law farw hegemoni Llafur yn drychineb hanesyddol i Gymru.

Ydi hyn yn debyg o ddigwydd eto?

Y perygl yw y gallai. Llwyddodd Llafur i bortreadu ei hun bryd hynny fel y blaid Gymreig oedd yn ffocws i'r gwrthwynebiad i'r mesurau amhoblogaidd oedd yn cael eu gweithredu o Loegr (toriadau mewn gwariant cyhoeddus, treth y pen, cau'r pyllau glo ac ati). Os ydi Plaid Cymru am osgoi gadael i hyn ddigwydd drachefn mae'n rhaid mynd ati i ddangos nad Llafur ydi ffocws i'r gwrthwynebiad i'r hyn sydd o'n blaenau. Roedd yn anodd bryd hynny oherwydd bod Llafur mor fawr a ninnau mor fach ac yn derbyn cyn lleied o sylw cyfryngol.

Y tro hwn fodd bynnag gallai pethau fod yn wahanol oherwydd bodolaeth y Cynulliad. Gall hwnnw fod yn ffocws i'r gwrthwynebiad, ac fel plaid lywodraethol mae'n proffeil ni'n weddol uchel yno. Gallai llawer o'r mantais etholiadol a enillodd Llafur yn yr 80au a'r 90au ddod i'n cyfeiriad ni. Ond byddai'n golygu ymarfer dull o wleidydda llawer mwy ymysodol (abrasive fyddai'r gair Saesneg efallai) na sy'n arferol i ni.

Mewn geiriau eraill byddai'n golygu ymarfer gwleidyddiaeth mewn ffordd mwy tebyg i'r ffordd y bydd Llafur yn ei ymarfer. Cwrteisi, parchusrwydd a neis, neisrwydd ydi gwendidau gwleidyddol mwyaf y Blaid. 'Dwi'n gwybod bod gwleidydda fel hyn yn estron i ni, ond y gamp tros y blynyddoedd anodd sydd i ddod fydd ymddangos yn fwy ymysodol o wrth Lundeinig na'r Blaid Lafur. O wneud hynny, gallwn osgoi ffawd yr wyth degau a'r naw degau.

12 comments:

  1. Anonymous7:43 pm

    Rwan pryd da ni am fynd o gwmpas dadansoddi perfformiad gwael plaid cymru? Ta da ni am bapuro dros y cracs?

    ReplyDelete
  2. Cyn mai 'ni' ydi'r rhagenw ti'n ei ddefnyddio, mae croeso i ti ddefnyddio'r dudalen sylwadau i 'sgwennu dadansoddiad.

    Dyma fan cychwyn i ti:

    Llafur - colli 4 sedd a -6.5%
    Toriaid - ennill 5 sedd a + 4.7%
    Lib Dems - colli 1 sedd a + 1.7%
    Plaid Cymru - ennill 1 sedd a - 1.3%
    Llais y Bobl - colli 1 sedd a -38%.

    Pob hwyl efo'r dadansoddiad.

    ReplyDelete
  3. Teg yw dweud nad yw dulliau y Rhyddfrydwyr o ymgyrchu yn anrhydeddus a gonest bob tro. Edrychaf ymlaen at y dydd y cawn dipyn o ymladdwr yn arweinydd Plaid Cymru yn lle'r llipryn di-ddim sydd gennym yn awr . Y gair Saeneg fuasai 'Bruiser ' . Mae geiriau Seimon Glyn, a'r gwadu a'r gwawd a gaeth gan arweiniad Plaid Cymru , yn farwnad i genedlaetholdeb y Fro Gymraeg bellach.

    ReplyDelete
  4. Craig Brodie9:02 pm

    Mae hyn yn arbennig o wir yn Ynys Mon. Diolch i'r drefn , fe'm hachubwyd o grafangau Seisnigrwydd ym mlodau fy nyddiau yn Nghaergybi , diolch i ymdrechion di-flino a siriol fy athro cynradd .
    Dichon na chaf bydd gyfle i ddiolch digon i'r cennad mwyn hwnnw.

    ReplyDelete
  5. Ha, ha, ha wnes i erioed ddysgu di Craig. Mi fydd rhaid i ti fynd i Langefni i ffeindio'r cennad mwyn.

    ReplyDelete
  6. _ _ _ neu Benchwintan wrth gwrs.

    ReplyDelete
  7. Y perygl mwyaf ydi cymryd yn ganiataol mai dyma fydd yn digwydd. Mae Llafur â'i chefn i'r wal erioed wedi bod yn beryglus tu hwnt yng Nghymru.

    ReplyDelete
  8. Anonymous11:44 am

    Diddorol iawn bM.

    Bydd yn rhaid i minnau ddychwelyd at hynt y Blaid Lafur Gymreig yn 'Barn' - roeddwn i'n ryw how obeithio y byddet wedi anghofio yr hyn dwi wedi ei ddweud yn y gorffennol! Damia...!

    RWJ

    ReplyDelete
  9. Edrych ymlaen i'w ddarllen.

    ReplyDelete
  10. Anonymous8:59 pm

    Wel mi gefais y sialens gan Blog Menai a mae fy nodiadau i a'r berfformiad y blaid yn barod. Gen i barch at blog menai a mi fyswn yn falch o glywed dy farn onest am sut all y Blaid symud ymlaen.....

    http://blogiwrcymraeg.blogspot.com

    ReplyDelete
  11. Anonymous3:32 am

    It's a pity you don't havе a dоnate button! I'd without a doubt donate to this fantastic blog! I guess for now i'll ѕettle foг bookmaгking аnԁ аddіng
    уour RSЅ fеed to my Gοoglе account.
    I lоοk fоrωаrd to
    branԁ nеw updatеs аnd will talk about
    thiѕ webѕitе with mу Facebοok gгoup.
    Chat ѕoon!
    Here is my webpage - http://www.totally-android.co.uk/blogs/user/ElisabethM

    ReplyDelete
  12. Anonymous9:36 am

    When ѕοmеone ωгitеs an рагagraрh
    he/she rеtainѕ the іԁea оf a user in hiѕ/her brain thаt how a
    uѕeг can understanԁ it. Therеfore that's why this article is amazing. Thanks!

    Feel free to surf to my blog post - http://www.prweb.com/

    ReplyDelete