'Dwi'n gwybod ein bod i gyd o bryd i'w gilydd yn cael ein diflasu gan y gyfundrefn iechyd a diogelwch sydd wedi ei chreu a sydd yn cael ei gweinyddu gan yr HSE (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch), ond mae'n gyfundrefn bwysig iawn. Os nad ydych yn fy nghredu ystyriwch y ffigyrau canlynol - ym 1974 bu farw 651 (2.9 o pob 100,000) o bobl yn eu man gwaith o ganlyniad i ddamweiniau, erbyn 2008 / 2009 y ffigwr oedd 121 (0.5 o pob 100,000). Y gymhariaeth o ran damweiniau nad oeddynt yn angeuol tros yr un cyfnod oedd 336 701 i 94 790*. Mae'n werth nodi mai record diogelwch yn y gweithle Prydain ydi'r gorau yn Ewrop o ddigon - esiampl prin o Brydain ar ben tabl Ewropiaidd.
Mae'n stori o lwyddiant clodwiw, ond nad ydi Louise yn credu hynny yn ol pob golwg. Ymddengys ei bod eisiau mynd yn ol i rhyw orffennol gwych pan nad oedd y wladwriaeth yn amddiffyn ei dinasyddion yn y gweithle. Dydi hi ddim yn glir os mai eisiau mynd yn ol i'r dyddiau cyn sefydlu'r HSE mae'r ddynas, ynteu ydi hi eisiau mynd a ni yn ol i Oes Fictoria pan roedd miloedd lawer yn cael eu lladd yn y gweithle yn flynyddol a chanoedd o filoedd yn cael eu hanafu.
Mae'n fater o ofid bod rhywun sydd eisiau bod yn Aelod Seneddol yn arddel y fath syniadau adweithiol ac anghyfrifol.
*Ystadegau oll gan yr HSE.
Mae'n fater o ofid bod rhywun sydd eisiau bod yn Aelod Seneddol yn arddel y fath syniadau adweithiol ac anghyfrifol.
*Ystadegau oll gan yr HSE.
Louise Hughes (LLG)= UKIP
ReplyDeleteHuey Long Cymraeg : Populist.
ReplyDeleteGaddo popeth a gneud dim!
Pob Lwc Louise, mae angen gwaed newydd yn lle ????? sydd yna rwan
ReplyDeleteI fod yn onast mae'n arwydd o wendid Llais Gwynedd ei bod hi'n gadael iddi sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn y lle cynta - pa blaid o ddifrif fyddai'n caniatáu hynny wn i ddim
ReplyDeleteRhaid dweud i mi weld Loise yn canfasio o gwmpas Pen Llyn heno - er mor hurt yw ei safbwyntiau am nifer o bethau, o leiaf roedd hi yma, dwi ddim wedi gweld neb arall.
ReplyDeletemeddai 'anon' olaf - dwi ddim wedi gweld neb arall...
ReplyDeletehen ddadl ffol a dwl i drio sgorio pwyntiau gwleidyddol.
Mae'n rhaid dy fod a dy ben yn y pridd i fod wedi methu Elfyn yn mynd o amgylch Penllyn amryw o weithiau, ac mi fydd eto ddydd Sadwrn yma.
Ta waeth, mae Llafur ar goll - dim hyd yn oed anerchiad etholiadol gan Lafur yn Nwyfor Meirionnydd!!!