Dyna ni ddau arall heno - YouGov a Com Res - mae'r ddau yn rhoi y Toriaid ar y blaen o ran nifer pleidleisiau, ond mi fyddai Llafur ar y blaen mewn seddi petai Com Res yn gywir. Llafur fyddai hefyd ar y blaen o ran seddi petai'r pol YouGov a gyhoddwyd tros y penwythnos yn gywir, yn wir byddant o fewn pedair neu bump sedd i fwyafrif llwyr.
Beth bynnag, senedd grog fyddai'r canlyniad yn y tri achos. Mae'n dechrau edrych mai senedd grog ydi'r canlyniad mwyaf tebygol. Fel mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith mae'r sefyllfa yma'n cynnig cyfle unigryw i'r Blaid i greu naratif etholiadol hynod effeithiol - fotiwch i ni a'n pris am gefnogi llywodraeth fydd ariannu Cymru'n deg.
Byddai ariannu teg yn caniatau i Gymru osgoi'r toriadau enbyd mewn gwariant cyhoeddus sy'n ymddangos tros y gorwel yn ddyddiol. Mae'r sefyllfa yma'n gyfle unigryw i'r Blaid apelio at bobl trwy gyflwyno neges sy'n cynnig lles ariannol tymor byr i ganolig iddynt am eu pleidlais. Y ddwy blaid unoliaethol fawr sydd mewn sefyllfa i wneud hyn fel rheol. Mae'n gyfle rhy dda i'w golli.
Dwi'n cytuno ynghylch pwysigrwydd y neges ynghylch ariannu Cymru'n deg fel rhan o narratif etholiadol y Blaid. Dwi ddim mor siwr am ddoethineb taranu am debygolrwydd senedd grog a son yn ddi-ddiwedd am yr haglo seneddol fyddai'n rhan o hynny, a hynny am 2 reswm. Yn gyntaf, dwi'n meddwl y byddai'n rheitiach manteisio ar y diflastod cyffredinol sydd gan pobl ynghylch y ddwy blaid fawr unoliaethol, yn enwedig trwy atgoffa pobl am sgandal y treuliau seneddol, a phwysleisio'r angen am fwy o leisiau annibynnol yn San Steffan i drio newid y lle. Yn ail, dwi'n dueddol o feddwl po fwya tebygol y mae senedd grog, lleia tebygol y daw hi i hynny mewn gwirionedd. Dwi'n meddwl bydd ymgyrch etholiadol un i un Cameron-Brown werth tua 4 i 5% i'r Toris. Wrth i senario buddugoliaeth gyffyrddus i'r Toriaid nesau ( tua 50 sedd efallai), mae'n berig y byddai'n rhaid i'r Blaid newid ei neges etholiadol ar y funud olaf fel tae. Gwell felly hoelio sylw ar yr angen i ariannu Cymru'n deg, manteisio ar y diflastod a'r ddwy brif blaid a dadlau tros gael tim cryf i fatio dros Gymru- rhagor na rhoi'r wyau i gyd ym masged simsan senedd grog!
ReplyDeleteEr cymaint yr hoffwn weld y Blaid mewn safle i allu bargeinio onid yw hi'n wir, nad yw diffyg mwyafrif gan y ddwy Blaid fawr yn ei hunan yn rhoi cyfle i'r Blaid fargeinio. Onid fydd llawer yn dibynnu ar faint o aelodau fydd gan y Rhydd/Dem a rhai o bleidiau Gogledd Iwerddon?
ReplyDeleteMi fydd llawer yn dibynnu ar hynny Dyfrig - ond yr oll all y Blaid ei wneud yn y bon ydi dweud 'dyma fydd ein pris ni_ _ _".
ReplyDeleteDoes yna ddim pwrpas poeni am y gwahanol gymhlethdodau a allai godi yn sgil senedd grog.