Mae'n ddiddorol nodi bod Llais Gwynedd wedi datblygu aeddfedrwydd gwleidyddol a dealltwriaeth strategol o wleidyddiaeth etholiadol yn yr ychydig flynyddoedd ers iddynt ddod i fodolaeth.
Er enghraifft, maent wedi gwneud galwad yn ddiweddar i'r haf ymddangos ym mis Mawrth - cyn i'r dail flaguro, cyn i lawer o'n Cennin Pedr flodeuo, pan bod rhai eirlysiau allan o hyd ac yn ystod y tymor wyna.
Fel esiampl o uchel strategaeth etholiadol mae'r cam yma yn feistrolgar. Prif broblem etholiadol Llais Gwynedd ydi nad ydynt ond yn apelio at grwp cyfyng o bobl ar hyn o bryd, sef pobl nad ydynt yn hoffi Plaid Cymru a sy'n digwydd byw yng Ngwynedd. Trwy alw am i'r haf gael ei ymestyn tros y rhan fwyaf o'r flwyddyn bydd Llais Gwynedd yn ehangu ei apel etholiadol i bob grwp cymdeithasol a chymdeithasegol ym Mhrydain ag eithrio'r bobl hynny sy'n gweithio yn y diwydiant sgio yn yr Alban.
Clyfar iawn wir.
"pobl nad ydynt yn hoffi Plaid Cymru a sy'n digwydd byw yng Ngwynedd"
ReplyDeleteY broblem ydi bod mwy o'r rhain na ti'n feddwl!