O lle maen nhw'n cael y pres dywedwch?
Ers y Nadolig mae yna bedair taflen gyffredinol (yn hytrach na'r rhai sydd wedi eu hanelu yn benodol at ffermwyr, myfyrwyr ac ati) wedi eu hanfon trwy'r post at etholwyr anffodus Ceredigion. Roedd y tair cyntaf wedi eu hargraffu yn Llundain, Didcot a Bryste, er i'r olaf gael ei hargraffu yn yr etholaeth.
Mae'r ffaith mai trwy law'r Post Brenhinol y bydd y deunydd yn cyrraedd yn adrodd cyfrolau am gyflwr y Lib Dems ar lawr gwlad yn yr etholaeth. Mae anfon gohebiaeth trwy'r dull hwn yn ychwanegu'n sylweddol iawn at y costau - mae'n debyg i pob taflen gostio pedair i chwe mil o bunnoedd i'w dosbarthu. Ond os nad oes gan blaid lawer o actifyddion lleol, dyma'r unig ffordd o ddosbarthu. 'Dwi ddim yn meddwl i Blaid Cymru yn Arfon erioed ddosbarthu dim trwy'r post ond am yr un darn o ohebiaeth y gellir ei hanfon yn rhad ac am ddim yn ystod ymgyrch etholiadol.
Ac nid dyna'r cwbl, maent hefyd yn ffonio pawb - gan gynnwys gwraig a mam ymgeisydd y Blaid, Penri James. 'Dydi'r galwadau ffon ddim yn dod o ganolfan leol (na thrwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs), maent yn dod o Gaerdydd. A chymryd eu bod yn ffonio pawb (yn ol pob golwg) mae'r ymarferiad yma'n ddrud hefyd.
Felly hyd yn hyn ymddengys nad ydi ymgyrch 'leol' y Lib Dems yn lleol iawn yng Ngheredigion, actifyddion yn ffonio o Gaerdydd a deunydd gwleidyddol yn cael ei gynhyrchu yn Lloegr a'i ddosbarthu gan y Post Brenhinol.
Defnydd o bres mawr gan bobl o'r tu allan i Geredigion i berswadio pobl Ceredigion i bleidleisio tros ymgeisydd o'r tu allan i Geredigion sy'n perthyn i blaid sydd a'r sir ymhell, bell o fod yn flaenoriaeth iddi.
Trist braidd.
Yr un fath yn Wrecsam, twr o daflenni glossy yn cael ei danfon gan y Post Brenhinol. Ryda ni fel cangen y Blaid yn mynd i ddosbarthu dros 25,000 o gylchlythyrau a hyn i gyd gan actifyddion.
ReplyDeleteA'r holl beth wedi talu gan Michael Brown mae'n siwr! warth.
ReplyDeleteGwarthus, yn erbyn pob un o'i ffug-egwyddorion.
ReplyDelete