Mi fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n dilyn blogiau gwleidyddol Cymreig yn ymwybodol o ychwanegiad cymharol ddiweddar i'r teulu dedwydd - blog y Druid.
Mae'r Derwydd yn rhyw gymryd arno ei fod yn ymladdwr annibynnol tros Ynys Mon, ond dydi o ddim yn cymryd rhyw lawer o ddarllen i weld mai blog sy'n cefnogi'r Blaid Geidwadol yw mewn gwirionedd. Ceir cymysgedd o ymysodiadau ar Blaid Cymru a'r Blaid Lafur tra'n gor fynegi cyfle'r Blaid Geidwadol (trwy ychwanegu holl bleidleisiau Peter Rogers at holl bleidlesiau'r Toriaid, ychwanegu 10% a gweddio am fwy) mewn etholaeth sy'n eithaf anobeithiol iddynt. Mae'r ymysodiadau ar Lafur a'r Blaid yn amrywio o'r rhesymol i'r hysteraidd. Mae yna ambell i ymysodiad ar y Lib Dems hefyd. Ymddengys bod y ffaith i'w hymgeisydd gael ei fagu Llanelwy a'i fod wedi gweithio mewn bar yn y gorffennol yn broblem sylweddol.
Nodwedd arall o'r blog ydi'r defnydd o gobyligwc ystadegol i gefnogi ei wahanol ddamcaniaethau. Mae'r cyfaill yn hoff iawn o bolau piniwn, ond dydi o ddim yn eu deall yn dda. Mae ymdrech heddiw yn esiampl dda.
Dadlau mae'r Derwydd nad oes gan y Blaid unrhyw obaith o gwbl o fod mewn sefyllfa i ddal cydbwysedd grym yn y senedd nesaf. Mae ei ddefnydd o ystadegau a pholau piniwn yn ddethol a bod yn garedig. Craidd ystadegol ei ddadl ydi polau piniwn sydd wedi dyddio. Mae'n defynnu 'polau piniwn am fis hyd at Mawrth 4' tros Brydain ac yn defnyddio gwefan Martin Baxter i fynegi hynny ar ffurf seddi Cymreig, ac yn darogan, ar sail hynny, mai'r cyfanswm y gall y Blaid ei ennill ydi pump, ac na allant ond cael dylanwad ar bethau os ydi'r Toriaid un yn brin o fwafrif llwyr. Felly 1% ydi'r tebygolrwydd y byddem mewn sefyllfa i fargeinio. Mae hyn yn nonsens o'r radd eithaf.
Yn ol y Derwydd mae'r polau yn dweud y bydd y Toriaid yn cael 38%, Llafur 29% a'r Lib Dems 19%. Roedd hynny'n wir fis diwethaf, ond mae'r ffigyrau yn cael eu gwyrdroi gan dri phol Angus Reid - cwmni sydd erioed wedi ei brofi ym Mhrydain a sydd yn rhoi Llafur yn llawer, llawer is na mae'r cwmniau confensiynol yn ei awgrymu.
Dydi polau'r mis hwn (sydd ddim yn cynnwys un gan AngusReid) ddim yn cefnogi dadl y Derwydd, felly mae'n eu hanwybyddu. 'Dwi'n eu rhestru isod.
CONSERVATIVES | 39% | 38 |
LABOUR | 34% | 33 |
LIB DEMS | 16% |
CONSERVATIVES | 37% | 33.2 |
LABOUR | 30% | 36.2 |
LIB DEMS | 16% |
CON 36%
LAB 34%
LD 18%
CON 40%
LAB 31%
LD 18%
CON 38%
LAB 33%
LD 17%
CON 39%
LAB 31%
LD 19%
CON 38%
LAB 32%
LD 17%
CON 38%
LAB 32%
LD 19%
CON 38%
LAB 33%
LD 16%
CON 39%
LAB 32%
LD 17%
Mi fyddai canlyniadau rhai o'r polau hyn yn caniatau i'r SNP a'r Blaid roi Llafur mewn gym ar eu pennau eu hunain - heb i'r Lib Dems orfod bod yn rhan o bethau o gwbl (yn wir ni fyddai angen yr SNP ar y blaid pe gwireddid un o'r polau). Byddai'r cwbl ag eithrio dau yn arwain at senedd grog - rhai efo Llafur ar y blaen, a rhai efo'r Ceidwadwyr ar y blaen. Mewn geiriau eraill mae'n defnyddio polau sydd wedi dyddio (rhai ohonynt cymaint a chwech wythnos oed) a sydd a phroblem o bol hollol wahanol i'r lleill yn cael ei gyfri dair gwaith, er bod rhai mwy diweddar a lla phroblematig ar gael. Mae'r rheswm am hyn yn amlwg - byddai ystyried polau cyfredol wedi dryllio ei ddadl.
Mae cam ddefnydd o ffigyrau yn nodwedd o'r blog. Yn hwn er enghraifft mae wedi cynhyrfu'n lan oherwydd bod is set o 234 o bobl mewn pol mwy o lawer yn awgymu i bleidlais y Blaid syrthio o 17% i 10% mewn mis yng Ngogledd Cymru. Yn wir mae'n meddwl ei fod yn gwybod pam - oherwydd addewid y Blaid i godi pensiynau. 'Dydi o ddim yn egluro pam mai pobl Gogledd Cymru yn unig sy'n gwrthwynebu'r syniad. 'Dydi o ddim yn egluro chwaith nad ydi is set mor fach yn ystadegol ddibynadwy o gwbl - mae'r symudiad yn y pol oddi mewn i margin of error sampl mor fach, a 'dydi o ddim chwaith yn egluro nad oes gennym unrhyw syniad os ydi polio Cymreig YouGov yn ddibynadwy gan nad ydyw wedi ei brofi yn erbyn etholiad go iawn (yn wahanol i'w polau Prydeinig). Ond mi fyddai gwneud hynny yn difetha ei stori, felly 'dydi o ddim yn trafferthu.
Rwan, mae blogmenai hefyd ymhell o fod yn ddi duedd - dwi'n ei gwneud yn gwbl eglur mai blog sy'n gyffredinol gefnogol i Blaid Cymru ydi hwn, ond 'dydw i ddim yn gwneud defnydd dethol o ystadegau i geisio cynnal dadl na allwn ei chynnal ar ei phen ei hun. Ar wahan i'r tueddiad i gam ddefnyddio ffigyrau, 'does yna ddim rheswm yn y Byd pam na all y Derwydd fod yn un ochrog o blaid y Toriaid wrth gwrs, ond yr hyn fedra i ddim ei ddeall ydi pam na wnaiff gyfaddef ei fod yn cefnogi'r Toriaid? Oes ganddo gywilydd o'i blaid?
'Dwi di meddwl hyn am y Derwydd ers cryn amser. Mi roddais y gorau, a dweud y gwir, i ddarllen ei flog oherwydd ei dori-eidddra, a dod o hyd i a thanysgrifio i Blogmenai ar yr un pryd.
ReplyDeleteDa gen i glywed.
ReplyDeleteSut wyt ti'n cadw ers tro?
wel, wel, mae rhaid i fi darllen y blog yma mwy aml o hyn ymlaen - rydw i newy' sylwi ar y post yma rwan. I ddarllenwyr y blog 'ma, os ydych chi eisiau gwybod syt ydw i yn ateb y honiadau yma, edrychwch yn fyma: http://druidsrevenge.blogspot.com/2010/03/blogmenai-hung-parliaments-and.html
ReplyDeleteDiolch Dderwydd.
ReplyDelete