Wednesday, March 03, 2010
Ail drefnu addysg a Leighton Andrews - rhaid wrth dderyn glan i ganu
Mae Vaughan yn gwbl gywir i awgrymu fod safonau deublyg ar waith pan mae Leighton Andrews yn honni bod Awdurdodau Lleol yn tin droi ar fater ail strwythuro ysgolion tra'n cadw ffeil ail strwythuro yn ardal Treganna, Caerdydd yn barhaol ar waelod ei in tray.
Mae'r rheswm, eto fel mae Vaughan yn ei awgrymu, yn eithaf amlwg - mae ail strwythuro ysgolion yn wenwyn pur o safbwynt gwleidyddol yng Ngorllewin Caerdydd, ac mewn rhannau eraill o'r ddinas. 'Does yna ddim penderfyniad sydd yn mynd i blesio pawb parthed cynlluniau'r Awdurdod i gau Ysgol (Saesneg) Heol Lansdowne a symud Ysgol (Gymraeg) Treganna i'r safle.
Mae'r mater yn arbennig o sensitif i Lafur a Phlaid Cymru - y ddwy blaid sy'n cystadlu am oruwchafiaeth ar lefel llywodraeth leol yn Nhreganna. I'r sawl sy'n adnabod Gorllewin Caerdydd mae'n ymddangos yn rhyfedd bod Plaid Cymru'n domiwnyddu ar lefel leol yn wardiau cyfagos Glan yr Afon a'r Tyllgoed, ond yn methu gwneud hynny yn Nhreganna - ardal sydd yn ymddangos yn fwy addawol ar sawl cyfrif. Mae nifer wedi honni bod methiant ar ran y Blaid i fod yn ddigon pendant eu cefnogaeth i'r cynllun i gau Lansdowne wedi costio pleidleisiau Cymry Cymraeg iddynt. 'Dwi ddim yn gwybod os ydi hynny'n wir, ond mae'n eithaf pendant na wnaeth yr holl bennod les i'r Blaid, ac mae'n debygol hefyd i gefnogaeth Llafur (ac yn arbennig Ranesh Patel) i Lansdowne les iddynt hwythau yn yr etholiadau lleol.
Yn yr achos yma mae bwrdd Cyngor Caerdydd (sydd bellach yn cynnwys aelodau o'r Blaid) wedi dangos dewrder gwleidyddol ac wedi symud ar fater anodd a sensitif. 'Dydi o ddim yn adlewyrchu'n dda ar Leighton Andrews nad ydi o yn gallu dod o hyd i ddewrder gwleidyddol tebyg a dod a'r broses i fwcwl y naill ffordd neu'r llall.
Llyfdra gwleidyddol pur mae gen i ofn.
Hmm, Llafur yn llusgo'u traed ar addysg Gymraeg. Paid a sôn!
ReplyDeleteDyma'r blaid na wnaeth baratoi'n strategol ar gyfer twf addysg Gymraeg yng Nghaerdydd pan oeddynt mewn pwer yno, gan adael y cawlach sydd yno nawr i eraill fod yn ddewr a rhoi trefn arni.
Dyma'r blaid na agorodd un ysgol Gymraeg yn Abertawe am dros 30 mlynedd er fod galw.
Dyma'r blaid sydd wedi 'llusgo'u traed' dros addysg Gymraeg yng Nghaerffili rhai blynyddoedd yn ôl gan ddweud un peth yn y Senedd a'r llall ar lawr gwlad.
Oes angen dweud mwy?
Byddant nawr yn gwneud dim nes wedi etholiad San Steffan, ac yna'n gwneud dim gan fod etholiad y Cynulliad ar y gorwel. C'mon Leighton, bydd yn ddewr, gwna benderfyniad!