'Dwi'n teimlo fel ymddiheuro i Robin "I live in Gerlan" Millar am fod mor feirniadol o'r llediaith rhyfedd oedd yn britho ei gardiau galw. Wrth ochr y nonsens isod (sydd wedi ei anfon i fyfyrwyr anffodus Aberystwyth) o eiddo Lib Dems Ceredigion mae Cymraeg Robin yn edrych mor gyhyrog a naturiol a Chymraeg Pantycelyn gynt.
'Does gen i ddim o'r geiriau i fynegi pam mor ddi ystyr ydi rhannau o'r llifeiriant gorffwyll yma. Mae'n dda o beth i'r Aelod Seneddol, Mark Williams gymryd y drafferth i olygu'r stwff - Duw yn unig a wyr beth oedd ynddo cyn i Mark fynd ati i'w 'gywiro'. Mae hyd yn oed enw'r blaid - Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei gam sillafu. Beth goblyn ydi ystyr mae blad chi yn cyfru, neu wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol pasio cynigion fel un gair yn cynhadledd y gwanwyn i condemnio y tori o cysylltiad rhyngrwyd, ac y bil llyodraeth economi digidol am heb rhoi digon o golwg ar marthu creadigolu a arloeseddu yn ei olygu. Oes gan unrhyw un syniad - unrhyw syniad o gwbl?
'Dwi wedi nodi yn rhywle ei bod yn well gen i weld pobl yn gwneud ymgais i 'sgwennu yn y Gymraeg hyd yn oed os nad yw'n Gymraeg naturiol, nag i beidio a gwneud ymgais o gwbl. Ar ol gweld hwn 'dwi wedi newid fy meddwl. Mae'n well i'r iaith gael ei hanwybyddu na'i mwrdro.
Da iawn am ddod a'r rhain i'r amlwg Mr Menai. Gobeithio y bydd mwy na myfyrwyr Aberystwyth yn gweld hyn - mae o wirioneddol yn sarhaus. Mae'n dangos mewn difrif faint o barch sy gan y Dems Rhydd, ac ynghynt y Ceidwadwyr, ar y Gymraeg pan mae'n dod ati.
ReplyDeleteDiawledig de.
ReplyDeleteMae pethau fel hyn yn cael eu pasio fel ymgais i cyfieithu i Gymraeg yn amlach y dyddiau yma.
'Sa'n well gen i gael rhywbeth uniaith saesneg na hyn.
Blydi hel!
ReplyDelete'Wy'n fodlon estyn rhyw fath o gymeradwyaeth i unrhyw un sy'n ymdrechu i ddefnyddio'r Gymraeg ond mae hyn tu hwnt.
Ydy marwolaeth Geriant Howells wedi golygu fod yr hen rhyddfrydwyr Cymraeg yng Ngheredigion wedi marw o'r tir hefyd. Mae Cymry Cymraeg gyda nhw ar y cyngor ac mae'n siwr fod 'na rhywun yn y blaid sydd wedi arfer a chyfieithu pethau i'r Gymraeg drostyn nhw.
Drychwch yng nghostau Mark Williams i weld faint mae e'n ei wario ar gyfieithu allanol. Swm digon sylweddol. Mae un o'r Cymry Cymraeg arferai weithio yn ei swyddfa - Lorrae Jones Southgate - bellach gyda Phlaid Cymru wrth gwrs.
ReplyDeleteLib Dems y Ffocws a'r siartiau bar ydy criw Williams, nid Rhyddfrydwyr yr hen do. Mae rhai o'r rheiny ar ol ar y cyngor, oes, ond maent yn prinhau.
Dduw mawr!
ReplyDeleteMae perthynas Mark Williams a'r Gymraeg yn un od iawn. Mae e'n dweud ei fod yn dysgu'r iaith - a hynny ers blynyddoedd lawer erbyn hyn ond does dim son fod un o'i etholwyr wedi'i glywed yn dweud dim mwy na bore da.
ReplyDeleteDyma mae e'n dweud ar ei wefan, " . . . mae’n ddysgwr Cymraeg ac roedd yn dysgu Cymraeg i’w ddosbarth yn yr ysgol gynradd." Ein AS yn Athro Cymraeg, myn brain i.
Mae'n bryd i MW fod yn fwy gonest am ei gefndir. Mi wnai roi £50 i ymgyrch y Dem Rhyds os welai frawddeg yn un o'i daflenni sy'n dweud mai yn Hertfordshire y cafodd ei fagu ac mai yn Nyfnaint a Chernyw y bu'n athro cyn symyd i 'ddysgu Cymraeg' i blantos Llangors yn 2000. Mor wahanol i'r honiad 'local campaigner for over 25 years' Ha ha ha.
Roderic Bowen, Geraint Howells ac yna hyn.
ReplyDeleteMae'n anodd gwybod os i chwerthin ta chrio.
Beth am flog Penri James:
ReplyDeletehttp://penrijamesceredigion.blogspot.com/2010/03/wwwpenrijamescom.html
Ymgeisydd y Blaid yng Ngheredigion yn cadw blog sy'n 99% uniaith Saesneg.
Ella nad ydi Penri ddim yn gallu sgwennu Cymraeg chwaith.
I fod yn deg â Penri mae ei wefan newydd yn gyfan gwbl dwyieithog - er nad ydi hynny'n esgusodi Saesneg llwyr ei flog. Ar y llaw arall, mae POB datganiad i'r wasg ar wefan Gymraeg Mark Williams (http://www.markwilliamsmp.org.uk/cy/index.html) mewn Saesneg.
ReplyDeleteDwi'n meddwl i Gymreigrwydd y Rhyddfrydwyr yng Nghymru farw ar ôl ffurfio'r Democratiaid Rhyddfrydol i bob pwrpas. Heblaw am ambell un o'r to hyn mae'r blaid yn gwbl Seisnig.
Be am ebost uniaith Saesneg Cymru X?
ReplyDeleteAnon 5.46pm
ReplyDeleteMae pob e-bost gan CymruX yn Aber yn cael ei gyfieithu (yn unol a rheolau'r Undeb), yntau drwy ei ddanfon i adran gyfieithu'r Undeb neu drwy ei gyfieithu i'r Saesneg gan un o swyddogion y gymdeithas.
Dydy ceisio taflu rhyw ergyd wan ar dy ran Mark W yn gwneud dim i guddio'r ffaith bod taflen diwethaf y DemRhydd yn Aberystwyth yn dwyn gwarth arnynt yn eu hagwedd tuag at y Gymraeg. Dwi wedi siarad efo llwyth o fyfyrwyr ac maent wedi dweud bod y fath ddifaterwch ynglyn a fersiwn Gymraeg y daflen wedi mynd o dan eu crwyn. Teimlaf bod hyn yn adlewyrchu mai plaid Prydeinig a Seisnig yw'r DemRhydd, gan drin Ceredigion a Chymru fel ail-gartref iddi am y 4/5 mlynedd rhwng etholiadau.
Yn wir, mae siaradwyr Cymraeg a myfyrwyr Cymraeg Ceredigion (canran o grwp targed y daflen) yn haeddu ymddiheuriad gan Mark Williams ei hun a'r DemRhydd am y fath amharch a ddangoswyd tuag at ein hiaith yn ystod y dyddiau diwethaf.
Oedd yna camgymeriadau Saesneg yn taflen Hywel Williams. Bath am ddangos nhw ar Flog Menai?
ReplyDeletePam goblyn fyddwn i eisiau mynd trwy lenyddiaeth etholiadol yn chwilio am frychau iaith Saesneg?
ReplyDeletehttp://www.facebook.com/group.php?gid=104690582902593&ref=nf
ReplyDeletehttp://www.facebook.com/group.php?gid=104690582902593&ref=nf
ReplyDeleteWel dyma fuss."DUW DUW MAE RHYWBETH WEDI CAEL EI SILLAFU YN ANGHYWIR YN CYMRAEG - DIWEDD Y BYD!!" Tyfwch lan.
ReplyDeleteBeth sy'n bwysig yw neges y parti, nid y manylion bach. Bydd y Lib Dems lot yn well na Plaid Cymru, sy'n sillafu popeth yn gywir. A wes unrhywun wedi darllen blog Penri Jones?? OFNADWY. Mae fe ffili ysgrifennu yn Saesneg chwaith - siomedig! Bydd Plaid Cymru yn mwrdro Cymru. Mae rhaid rhoi stop i'r cenedlaetholdeb 'ma, a derbyn bod rhaid cael help Westminster er mwyn talu am bywyd yng Nghymru.