Thursday, February 18, 2010
Y Toriaid - mewn cysylltiad efo pobl gyffredin?
Mae'n hawdd deall cynddaredd aelodau seneddol Toriaidd eu bod am orfod teithio ail ddosbarth o hyn allan - neu a bod yn fwy manwl oherwydd nad ydi'r trethdalwr am dalu iddynt deithio dosbarth cyntaf o hyn allan. Wedi'r cwbl, fel mae Sir Nicholas Winterton yn dweud, mae yna totally different type of people yn y cerbydau ail ddosbarth - hynny yw rhai mwy fel chi a fi na fel Sir Nicholas.
Efallai petai Toriaid yn cymysgu ychydig mwy efo pobl go iawn na fyddant yn gwneud camgymeriad mor ryfeddol a'r un y gwnaethant yn ddiweddar pan oeddynt yn honni bod 54% o enethod yn eu harddegau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU yn beichiogi cyn eu bod yn 18 (5.4% ydi'r gwir ganran).
Fyddai hi ond yn bosibl gwneud camgymeriad fel hwn petai rhywun yn ystyried pobl sy'n byw mewn ardaloedd di freintiedig yn aelodau o rhyw rywiogaeth wahanol. Byddai angen gwyrth ystadegol i dros hanner o unrhyw gohort dwy neu dair blynedd fod yn feichiog ar yr un pryd. Byddai'n anhebygol iawn o ddigwydd petai pawb o fewn y cohort yn gwneud ei gorau glas i feichiogi.
Ond wedyn os nad ydym hyd yn oed eisiau rhannu cerbyd tren efo pobl o gefndiroedd gwahanol i ni'n hunain, mae'n debygol ein bod yn dod i edrych arnynt fel aelodau o rywiogaeth arall - rhywbeth rhwng cwningod ag aelodau o'r ddynol ryw yn yr achos yma.
hmmmm, mae hwn yn swnio gormod fel sbin Llafur.
ReplyDeletePetai wedi defnyddio'r geiriau 'customer' yn lle 'people' fydde ddim problem. A fyddai'n well gen ti fod dy AS ddim yn gweithio o gwbl ar y tren. Petai ti'n etholwr iddo ac wedi sgwennu llythyr yn cwyno am gymydog treisgar neu safon athrawon ysgol dy blant, a fydde ti am i dy AS fod mewn caraje lle mae mwy tebygol fod pobl eraill yn gallu gweld dy lythyr a fod yr AS yn cael ei ddisbtyrbio gan bobl eraill?
Fel ddydodd ffrind i mi sydd yn gweithio yn y wasg yn lloegr,
ReplyDelete"Ddim y ffaith bod tim y wasg geidwadol mor anhrefnus i peidio sylwi ar y gwall sydd yn fy mhoeni, ond fod nhw'n meddwl fod hon yn ffigwr credadwy am y ddifreintiedig!"
Duw a helpa ni ar ol mis Mai 'ma.