Saturday, February 20, 2010
Paul Davies a'r Gymraeg
Mi fyddaf yn hoffi gwrando ar Paul Davies, Aelod Cynulliad Toriaidd Preseli / Gogledd Penfro pan mae'n siarad yn y Cynulliad. Nid oherwydd yr hyn sydd ganddo i'w ddweud wrth reswm, ond oherwydd ei fod yn aml yn defnyddio'r Gymraeg, ac yn siarad yr iaith yn dwt mewn tafodiaith hyfryd. Mae hyn yn wahanol iawn i'r rhan fwyaf o Doriaid Cymraeg eu hiaith fel Alun Cairns, a'r erchyll Rod Richards. Roedd hwnnw'n dweud 99% o'r hyn oedd ganddo i'w ddweud yn yr iaith fain, ond yn taflu ambell i air Cymraeg i mewn (fel y Llywydd di ddiwedd) - tueddiad oedd yn gwneud pethau'n waeth rhywsut.
Siom felly oedd ymweld a Thy Ddewi yr wythnos ddiwethaf a chael bod ei hysbysebion cymorthfeydd mor Seisnig a'i wefan. 'Dwi ddim eisiau ymddangos yn sinigaidd, ond gobeithio nad ydi Paul yn cael ei ddefnyddio gan y Toriaid yn y Cynulliad fel token Welsh speaker er mwyn rhoi delwedd Gymreig i'r Toriaid ar lefel cenedlaethol - delwedd nad ydynt yn ei haeddu mewn gwirionedd.
Tebyg iawn na fyddai Toriaid Penfro yn rhy hapus i weld Cymraeg ar eu deunydd cyhoeddus. A faint o ddiddordeb sydd ganddynt yn y cynulliad i glywed Paul yn siarad Cymraeg yno?
ReplyDeleteEfallai bod dim staff sy'n siarad Cymraeg ganddo.
ReplyDeleteEfallai wir!
ReplyDeleteYch chi'n siwr mai Alun Cox ych chi'n meddwl?!
ReplyDeleteNag ydw - Alun Cairns dwi'n drio ei ddweud.
ReplyDeleteMae angen tynnu sylw at bethau fel hyn. Mae'n diraddio'r Gymraeg, yn enwedig mewn ardal fel Ty Ddewi lle bo cymuned Gymraeg gynhenid o hyd (er ar ei hencil erbyn hyn, rhaid cyfaddef).
ReplyDeleteOnd diraddio'r Gymraeg hefyd oedd y Blaid dros y penwythnos, sioe a welais i ar BBC2. O'r 4 slogan Plaid Cymru ar y podiwm ac ar y welydd tu ol i'r siaradwr, roedd 3 ohonynt gyda'r Saesneg uwchben y Gymraeg. Nid yw hyn yn trin y Gymraeg yn gyfartal -yn waeth fyth mae'n amlwg ei fod yn benderfyniad ymwybodol i beidio trin y Gymraeg yn gyfartal.
Fe ddadleuwn hefyd nad gair Cymraeg mo'r gair 'Plaid' - e.e. 'Mae Plaid yn rhoi cryn bwysau ar Balesteina'r dyddiau hyn'.
Gair Saesneg ydy 'Plaid' er gwaetha ei etymoleg Cymraeg. 'Y Blaid' neu 'Plaid Cymru' sy'n Gymraeg. Ond am ryw reswm nid yw'r Blaid am eu harddel.
Y Blaid felly ydy'r unig blaid wleidyddol yng Nghymru ag enw uniaith Saesneg arni hi ei hun! Mae hyn yn dweud cryn dipyn am ei hagwedd at ei chefnogaeth graidd.
Oes modd i rai ohonoch chi yn Rhanbarth Arfon gael gair bach yng nghlust Gwenllian Lansdowne neu Adam Price ynghylch y nonsens ieithyddol (cwbl ddi-angen) yma?
Diolch Simon.
ReplyDeleteMi wna i weld beth y gellir ei wneud - gyda fy mod wedi llwyddo i ddilyn y ddadl yn iawn!
Ie, dwi'n cofio trafod hyn ar maes-e rai blynyddoedd yn ôl.
ReplyDeleteMae'r wasg Saesneg yn dweud:
"Plaid wins the election" (sy'n ddealladwy os nad yn ddelfrydol) ac mae'r wasg Gymraeg yn eu copio a dweud "Plaid yn ennill yr etholiad" sy'n golygu "A party wins the election".
Mae jest yn ang-Nghymreig.
Dwi bron yn siwr bod Bethan Jenkins wedi newid cyflwyniad ei blog. Roedd yn arfer dweud "Rwyf yn Aelod Cynulliad Plaid dros Gorllewin De Cymru," ond erbyn hyn mae'n dweud "Rwyf yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Gorllewin De Cymru," - cam i'r cyfeiriad cywir!
Yn Gymraeg ti'n dweud "Dwi'n mynd i ginio'r Blaid" neu "Dwi'n mynd i ginio Plaid Cymru" yn dibynnu pwy ti'n siarad â nhw - nid "Dwi'n mynd i ginio Plaid".
A dweud y gwir dwi'n anghytuno efo Siân a Simon o ran y defnydd o'r gair 'Plaid' - tasa rhywun yn dweud gofyn, "I bwy wyt ti'n pleidleisio" byddai'n hollol naturiol ateb "Plaid" a bydden nhw'n gwybod yn union at bwy ti'n gyfeirio, a, byddai, mi fyddai'n swnio'n naturiol i glust y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg.
ReplyDeleteDydi hynny ddim yn golygu fy mod i'n ffan o dalgrynu'r enw i 'Plaid' - ond mae o'n gweithio yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg o ran cyfeirio at Blaid Cymru, 'sgen i'm amheuaeth am hynny.