Ydi o 'mond fi sy'n meddwl bod rhywbeth anymunol iawn am Gordon Brown yn mynd yn emosiynol ac ati o flaen miliynau o bobl oherwydd iddo ef a'i Fusus golli babi.
Trwy ras Duw mi dyfodd ein pum plentyn ni i fod yn oedolion iach - rhywbeth anarferol o edrych yn ol tros hanes dynoliaeth, ond sefyllfa yr ydym yn ei disgwyl erbyn heddiw.
Doedd Brian, ewythr y Mrs ddim mor lwcus. Mae Brian yn hynod, hynod o allblyg (yn wahanol iawn i Gordon Brown). Os oes rhywun yn Nhreforys yn darllen hyn o lith, arferai gadw'r swyddfa bost acw.
Pan oedd yn ifanc roedd yn gweithio i gwmni olew yn Saudi Arabia. Yn ystod y cyfnod yma yn ei fywyd aeth ei blentyn blwydd oed yn sal yn anisgwyl, ac fe aeth a hi i'r ysbyty gyda'r nos pan aeth pethau o ddrwg i waeth. Dychwelodd i'r ysbyty yn y bore bach i gael fod y babi wedi marw ymhell cyn toriad y wawr. Rhoddwyd y corff iddo mewn blanced a threuliodd weddill y bore yn dreifio o gwmpas yn edrych ar ei ffenest flaen trwy ei ddagrau yn chwilio am ymgymerwr angladdau. Roedd y darn bach o gnawd dynol oedd mor annwyl iddo ar y sedd flaen wrth ei ochr.
Er gwaethaf y ffaith ei fod yn berson sydd bron yn chwerthinllyd o allblyg, sy'n rhannu pob cyfrinach efo pawb, sy'n siarad am pob math o sbwriel yn barhaus, chlywais i erioed o'r stori ganddo - rhywbeth oedd wedi ei grio i berthnasau agos yn fuan wedi'r digwyddiad yng ngwres y profiad oedd y stori a wnaeth ei ffordd i mi. 'Dwi'n amau'n gryf ei fod wedi son am y peth wrth neb mewn deg mlynedd ar hugain.
Mi gollodd nain ddau o blant pan oeddynt yn fabanod. 'Does gen i ddim cof ohoni yn rhannu ei thrallod na'n gwahodd neb arall i'w rannu - eu thrallod hi oedd o.
A dyna pam 'dwi'n teimlo ychydig yn sal gweld Gordon Brown yn sniffian wrth son am ei brofedigaeth yntau. Petai'r peth wedi digwydd i mi, nid mynd ar y teledu i siarad fyddai'r hyn y byddwn eisiau ei wneud - mi fyddwn eisiau mynd i fy ngwely i grio pob tro y byddwn yn meddwl am y peth.
Dwi'n mawr obeithio fy mod yn anghywir, ond yr argraff 'dwi'n ei chael ydi bod y dyn yn chwifio mymryn cnawd treuenus ei blentyn marw o'n blaenau i geisio ennill ein pleidleisiau, ac mae hynny'n gwneud i fi deimlo'n sal.
Pur anaml 'rwyf yn anghytuno a dy flog, ond credaf y tro yma dy fod allan o drefn. Yn gyntaf hoffwn esbonio nid oes gennyf llawer o feddwl o Gordon Brown. Yn ail, Diolch i'r drefn nid wyf wedi colli plentyn, felly dim syniad, a gobeithiaf na wnai byth ddarganfod sut y buaswn yn ymateb i'r ffasiwn drasiedi. Ond, mae pawb yn wahanol, a ffordd pawb o ddelio gyda sefyllfa yn wahannol. Os yw Gordon Brown eisiau crio o flaen y camera teledu am y drasiedi personol, mater iddo fo yw hynny, ac yn bersonol 'rwyf yn ei barchu am wneud.
ReplyDeleteGreetings! I know this is kinda off topic but I'd figured I'd ask.
ReplyDeleteWould you be interested in trading links or maybe guest authoring a blog article or vice-versa?
My blog goes over a lot of the same subjects as yours and I think we could greatly benefit
from each other. If you're interested feel free to send me an email. I look forward to hearing from you! Wonderful blog by the way!
Feel free to visit my homepage read the source
Τhаnk you for every other fantаѕtic article.
ReplyDeleteWheгe else сould anyone gеt that κinԁ of іnfo іn
suсh an ideal manner of ωriting? I've a presentation subsequent week, and I'm аt the seагсh for such informatiоn.
Feеl frеe to vіsit my site: quick cash loans