Mi fyddaf yn cael fy hun yn gorfod gwneud y blogiad yma o bryd i'w gilydd.
Polisi cymedroli blogmenai ydi bod pob sylw sy'n cael ei adael ar dudalen sylwadau'r blog yn cael ei gyhoeddi oni bai bod posibilrwydd ei fod yn enllibus, yn fygythiol neu'n gwneud defnydd o iaith aflednais.
Dydw i erioed wedi derbyn sylwadau aflednais na llawer o rai bygythiol, ond mi fyddaf yn derbyn rhai a allai fod yn enllibus o bryd i'w gilydd. 'Dydw i ddim yn dwrna - ond os oes posibilrwydd bod rhyw sylw neu'i gilydd yn enllibus dydw i ddim am ei gyhoeddi oherwydd mai fi, fel perchenog y blog sydd yn gyfrifol amdano yn y diwedd, a 'dwi ddim eisiau cael fy hun mewn llys barn diolch yn fawr.
'Dwi'n gwybod nad ydi'r blog yma at ddant pawb, ond 'dwi'n ofalus iawn nad ydw i'n enllibio neb. 'Dwi hefyd yn ofalus nad oes neb arall yn enllibio yma.
Polisi sydd yn llad ymateb Cai.
ReplyDeletePoen yn din yw ymateb i dy byst am chwarter i bump y bore ond heb canfod ymateb tan hanner 'di tri'r pnawn.
Yr unig sylw enllibus (o bosib) i mi ei ddileu o'r sylwadau o fy mlogiau oedd un amdanot ti! Yn anffodus, oherwydd yr oeddwn oddi cartref ar y pryd, fe wnaeth y sylw sefyll am dridiau cyn ei ddileu - er gwaethaf hynny nid ydwyf yn credu i'r sylw gwneud niwed mawr i ti!
Mae'r holl lol yma o genedlaetholwyr Cymreig yn bygwth Cyfraith Lloegr ar ei gilydd yn gwneud i'r naill ochr a'r llall i edrych yn bathetig.
Yn hytrach na chymedroli dy sylwadau,cynigia dy hun fel reffari ar gyfer ffeit ar Maes Caernarfon pnawn Sadwrn nesa i setlo pethau, unwaith ac am byth, rhwng Gwil a Dyfed!

Os ti'n hapus mentro, hei lwc i ti. Hwyrach dy fod di am fentro, dwi ddim.
ReplyDeleteMae yna sylwadau enllibus yn cael eu gadael yma weithiau - 'dwi ddim yn gwybod os ydi'r sawl sydd yn eu gadael yn genedlaetholwyr Cymreig neu beidio.
Er mwyn y record, pan adawyd sylwadau digon annifyr a chelwyddog amdanaf fi ar dy flog di, roeddynt yn sefyll yna am wythnos, ond wnes i ddim dy fygwth di mewn unrhyw ffordd o gwbl.
Gyda llaw, dydi'r maes ddim beth oedd o mae gen i ofn. 'Dwi heb weld ffeit yna ers blynyddoedd.
ReplyDelete