Canlyniadau ail bol Cymru gyfan YouGov ydi:
Toriaid 32% (21.4)
Llafur35% (42.7)
Lib Dems 13% (18.4)
Plaid Cymru 13% (12.6)
O wireddu'r ffigyrau yma byddai Llafur yn wynebu canlyniad sal iawn yng Nghymru - colli Arfon ac Ynys Mon i Blaid Cymru, Penybont, Gwyr, Bro Morgannwg, Gorllewin Casnewydd, Gorllewin Caerfyrddin / Penfro, Bro Morgannwg, Aberconwy a Gogledd Caerdydd i'r Toriaid.
Byddai'r Lib Dems hefyd yn colli dwy o'u pedair sedd - Brycheiniog a Maesyfed i'r Toriaid a Cheredigion i Blaid Cymru.
Er nad ydw i'n arbennig o hoff o'r Lib Dems - 2 o 4 buasai'n cael eu colli!
ReplyDeleteA cweit - Lembit - mi newidiaf y peth.
ReplyDeletemae canlyniadau plaid cymru yn sal gall neb o blogiau plaid cymru gweld hwna!!!! yn etholiadau ewrop dyle plaid wedi buddugo o llafur yn colli gymaint o pleidleiswyr ond ceidwadyr yr de a elwodd, mae'n rhaid i plaid a ieuan edrych ar ei hun yn y drych ac ateb y cwestiwn beth sy'n mynd ymlaen fan hyn mae'r pol hwn eto yn dangos bod plaid eto ddim yn wneud unrhyw tir maen rhaid i rhywbeth rhoi yr arweinydd neu arall
ReplyDelete