Mae'r blogiad yma gan Betsan yn awgrymu y bydd symudiad arwyddocaol tuag at refferendwm ym Mae Caerdydd erbyn diwedd y mis.
Eisoes mae Vaughan wedi nodi bod busnes y Cynulliad yn denau iawn ar Ionawr 26 - bron iawn fel petai bwlch wedi ei adael yn fwriadol ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd.
Y ffordd dwi'n darllen hyn ydi y bydd y bleidlais hon yn cadarnhau dymuniad Aelodau'r Cynulliad i gynnal refferendwm. O ran hygrededd y syniad, mae'n hynod o bwysig bod y broses hon yn cychwyn cyn yr etholiad cyffredinol, rhagor na wedi'r etholiad, gan y gallai hynny gael ei weld fel ymateb negyddol a sbeitlyd tuag at ethol Llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Wedi dweud hynny,tydi cynnal y bleidlais eleni ddim yn gyfystyr a dweud mai eleni fydd y refferendwm ei hun! O gofio bod yr holl broses ddeddfwriaethol yn cymryd tua 9 mis beth bynnag, siawns ei bod hi'n gwneud synnwyr i aros tan Gwanwyn 2011 cyn mynd ar ofyn yr etholwyr? Mae'r swigen cyfryngol-gwleidyddol yn y Bae yn twyllo'u hunain yn rhacs os ydyn nhw'n credu bod yna awydd mawr am refferendwm ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol ar hyn o bryd . Yn y byd go iawn, hyd yn oed yma yn Y Fro Gymraeg, mae na lot fawr o waith perswadio i'w wneud o hyd. Fel reffo-sgeptig, sy'n digwydd meddwl y byddai yna fyrdd o elfennau eraill yn dod i fewn i'r hafaliad wrth i bobl benderfynu mewn pleidlais o'r fath, dwi'n credu bod angen blwyddyn go dda arno ni i gyflwyno'r holl ddadleuon yn iawn i bobl Cymru.
ReplyDeleteYn gynt na hynny, dwi'n clywed.
ReplyDelete