'Dwi'n gwybod fy mod yn ailadrodd fy hun - ond mae'n werth mynd am dro i flog yr Hogyn o Rachub i gael cip ar ei ddarogan gwleidyddol. 'Does yna neb - yn y blogosffer nag yn y cyfryngau prif lif yn gwneud joban fwy trylwyr.
'Dwi wedi dwyn copi o'r map gwleidyddol mae wedi ei gynhyrchu i ddangos sut mae'n gweld pethau, ag yntau bellach wedi edrych ar hanner y seddi Cymreig.
'Dwi ddim yn gwybod ymhle mae'n yfed pan mae yng Nghaerdydd, ond os digwydd i chi ei weld yn y Sior pan mae adref, prynwch beint iddo. Mae'n llawn haeddu un am yr holl waith.
Diddorol iawn.
ReplyDeleteGan drio roi brens y ddai ohonoch at ei gilydd, oes yna seddi yn y darogan sy'n bet dda? O ran ennill arian dwi'n feddwl.
hy. dwi'n siwr bod y ddau ohonoch yn gwybod mwy am hyn na'r bwcis a dy fod di Mr Menai yn un sy'n crybwyll betio ar wleidyddiaeth yn aml.
Gwir iawn, er mi wnai setlo am jinsan 'fyd.
ReplyDeleteLliw melyn yn Nhrefaldwyn? Na! Dyw hyd yn oed yr Hogyn o Rachub heb diwnio i fewn i'r hyn sy'n digwydd yno. Mae Lembit Opik a'i ffwlbri ar y ffordd allan a Glyn Davies ar i fyny. Dim dwywaith amdani. Hyd yn oed Heledd Fychan wedi camddehongli'r sefyllfa. Wedi'r cyfan, dyw'r bobol ifanc ddim y pleidleisio gymaint a'r rhai hyn. LO yn llawn haeddu cael ei ddisodli hefyd. Lembo o'r radd flaenaf
ReplyDeleteMae gen i nifer o fets i lawr, ond mae'r ods wedi newid. Efallai y caf olwg ar yr hyn sydd ar gael ychydig yn nes at yr etholiad.
ReplyDeleteYdy Trefanldwyn yn bet dda te?
ReplyDeleteOs ti'n meddwl bod y Tori am ennill ydi - ond dwi'n tueddu i gytuno efo HoR mai Lembit fydd yn mynd a hi.
ReplyDeleteYn bersonol, dwi'n meddwl ei bod yn debycach y bydd Plaid yn cipio Llanelli neu Lafur yn dal eu gafael ar Ynys Môn na'r Ceidwadwyr yn ennill yn Sir Drefaldwyn. Cawn weld, wrth gwrs, ond tueddaf i feddwl bod gogwydd o 13% y tu hwnt i Glyn Davies.
ReplyDeleteOnd does dim byd tu hwnt i'r Lembo...Pwy a wyr beth arall ddaw o du y Ffwl gwirion! Cytuno gydag Anon. Dyw'r wasg yng Nghymru heb diwnio i fewn i'r sefyllfa ym Mhowys. Gall, fe all Glyn Davies droi pethau o gwmpas yn yr etholaeth hon. A phob lwc iddo. Hen hen bryd.
ReplyDelete