Tuesday, March 31, 2009

Ceredigion - Fermanagh and South Tyrone Cymru?

Etholaeth weddol ymylol o ran y cyd bwysedd crefyddol yng Ngogledd Iwerddon ydi Fermanagh and South Tyrone. Bydd y cyfraddau pleidleisio yno yn uchel iawn - maent yn aml ymysg yr uchaf yn y DU (ac Iwerddon o ran hynny). Pleidleisiodd tua 90% yn y ddwy is etholiad enwog ar ddechrau'r 80au - mae hyn yn agos at fod yn record yn y DU.

Mae gwleidyddiaeth yr etholaeth yma - fel y cwbl o etholaethau Gogledd Iwerddon i rhyw raddau neu'i gilydd - yn cael ei yrru gan ystyriaethau llwythol. Tribal head count ydi'r term lleol am y math yma o etholiad.

Roeddwn yn digwydd edrych trwy fanylion y pleidleisio yn etholiad Ewrop 2004 (fel y bydd dyn yn ei wneud), a sylwais ar rhywbeth rhyfedd ym mhatrwm pleidleisio Ceredigion. Er i'r Lib Dems ennill etholiad cyffredinol 2005 a dod yn ail yn etholiad y Cynulliad 2007, pedwerydd oeddynt yn etholiadau Ewrop. Dyma'r ffigyrau:

Ewro 2004
Plaid Cymru - 10,756
Toriaid - 4,264
Llafur - 3,775
Lib Dems - 3,438
UKIP - 2,694

San Steffan 2005
Plaid Cymru - 12,911
Toriaid - 4,455
Llafur - 4,337
Lib Dems - 13,130

Cynulliad 2007
Plaid Cymru - 14,818
Toriaid - 2,369
Llafur - 1,530
Lib Dems - 10,863

Yr hyn sy'n drawiadol ydi bod pleidlais Plaid Cymru yn gymharol gyson, tra bod amrywiaeth enfawr ym mhleidlais y pleidiau unoliaethol. Yn yr etholiad Ewrop, lle nad ydi pleidleisio tactegol yn bwysig - mae'r Lib Dems yn bedwerydd. Yn y ddwy etholiad arall (lle mae pleidleisio tactegol yn holl bwysig) mae eu pleidlais yn codi'n sylweddol, tra bod pleidlais y ddwy brif blaid unoliaethol yn isel. Mae etholiadau Ewrop yn gyffredinol ddrwg i'r Lib Dems - ond ddim i'r graddau yma.

'Rwan, 'dydw i ddim yn adnabod Ceredigion yn dda - er i mi fod yn y coleg yn Aberystwyth am dair blyneddyn oes yr arth a'r blaidd. Y cwestiwn sydd yn croesi fy meddwl, fodd bynnag, ydi hwn - oes yna elfen o bleidleisio llwythol yn mynd rhagddo yng Ngheredigion a la Fermanagh and South Tyrone, gyda'r bleidlais mwy 'Seisnig' yn croni o gwmpas y Lib Dems mewn etholiadau San Steffan a rhai Cynulliad, a'r un mwy 'Cymreig' yn croni o gwmpas Plaid Cymru? Wedi'r cwbl mae cyd bwysedd ethnig yr etholaeth yma yn fwy clos nag ydi un y rhan fwyaf o Orllewin Cymru.

Monday, March 30, 2009

_ _ _ a son am fideo Eluned Morgan _ _ _

Mae'r geiniog wedi syrthio a fel y rhagwelwyd ar y blog yma, mae Aneurin wedi cael gwared o'r fideo - ond wedi cadw'r geiriau. Mae'n rhaid ei fod yn meddwl eu bod yn werth eu cadw.

Ond - yn ffodus 'dwi wedi cadw'r campwaith fel y gall yr oesoedd a ddel weld y glendid a fu.

O diar - mwy o broblemau ar y We i Llafur Cymru

Wedi ymddangosiad blog newydd gogleisiol o idiotaidd Hain, Morgan a Davies - Aneurin Glyndwr, ymddengys bod Llafur efo problemau bach eraill os ydi hwn a hwn i'w credu ac mae nhw i'w credu).

I dorri stori hir yn fyr mae nifer helaeth o ddelweddau pornograffaidd wedi eu postio tros gyfnod o fis neu ddau ar fforwm Wales 20:20 - rhywbeth neu'i gilydd sydd wedi ei greu gan Aelod Cynulliad Llafur Merthyr ac arweinydd nesaf posibl y Blaid Lafur yng Nghymru, ein hen gyfaill Huw Lewis.

'Rwan, 'dwi'n siwr nad oes neb yn awgrymu am funud bod Huw, na neb arall sy'n arwain y Blaid Lafur yn ymwybodol o beth oedd yn digwydd - a byddai'n anheg ceisio gwneud elw gwleidyddol ar sail hynny. Yr oll sydd wedi digwydd, mae'n debyg, ydi bod fforwm wedi ei chreu ond nad oes neb yn cadw golwg arni, a bod rhywrai wedi cymryd mantais o hynny.

Serch hynny mae'r stori ryfedd yma ynghyd ag antics Aneurin Glyndwr yn rhoi ymdrechion Llafur Cymru i wneud defnydd o'r We i wleidydda mewn rhyw fath o gyd destun - maent yn gyfangwbl, 100% ddi glem. Mae creu fforwm yn enw plaid wleidyddol ac yna'i gadael ar drugaredd y We am fisoedd hyd yn oed yn fwy idiotaidd na fideo Eluned Morgan.

Sunday, March 29, 2009

Y straeon o'r papurau Sul na wnaeth Aneurin Glyndwr eu dwyn i'n sylw

Diolch i'n cyfaill newydd, Aneirun am ddod ag un o'r amryw o straeon gwleidyddol oedd yn y papurau Sul i'n sylw.

Yn anffodus mi anghofiodd hon:



A hon:



A'r clasur yma.

'Rwan ni all neb ddadlau nad ydi blogmenai yn fodlon cynnig cymorth i hyd yn oed ei wrthwynebwyr gwleidyddol.

Pam bod Aneurin yn ymddangos 'rwan?

Mae'r ateb i hynny'n eitha hawdd - pob hyn a hyn bydd Llafur yng Nghymru yn cael rhyw banic bach eu bod yn colli gafael ar bethau ac yn cynhyrchu rhyw gyfrwng neu'i i sicrhau'r wlad bod eu gwrthwynebwyr yn bobl ofnadwy, ofnadwy o ddrwg (a la Llais Gwynedd).

Mi gawsom flas ar hynny ar ffurf y Welsh Mirror (heddwch i'w lwch) a Natwatch yn dilyn llwyddiannau Plaid Cymru yn etholiadau Ewrop a'r Cynulliad ar ddiwedd y naw degau. Mae gan Lafur etholiadau anodd ar lefel Ewrop mewn ychydig fisoedd, ac ar lefel San Steffan mewn tua blwyddyn. Y tro hwn maent yn wynebu her sylweddol o ddau gyfeiriad, ac nid un. Yn wir mae'r Toriaid yn fwy o fygythiad iddynt na'r Blaid mewn sawl ffordd y tro hwn, felly gallant ddisgwyl bod yn wrthrych llawer o'r ymysodiadau babiaidd a hysteraidd sy'n nodweddu Welsh Labour pan maent mewn twll.

O edrych ar gyfraniadau cynnar wefan, ymddengys mai etholiadau Ewrop ydi'r boen ar hyn o bryd. Ar yr olwg gyntaf mae'n anodd deall hynny - y tro o'r blaen roedd y canlyniad fel a ganlyn:

Llafur - 32.5%
Toriaid - 19.4%
Plaid Cymru - 17.4%
UKIP - 10.5%
Lib Dems - 10.5%

O dan drefn etholiadol de Hoet mae hyn yn cyfieithu i ddwy sedd i Lafur, un i Blaid Cymru ac un i'r Toriaid. Yr unig ffyrdd y gallant golli eu hail sedd ydi petai Plaid Cymru'n neu'r Toriaid yn cael mwy o bleidleisiau na nhw, neu os byddai'r Lib Dems yn sicrhau mwy na hanner eu pleidlais. (Mi allwn gymryd na fydd UKIP yn perfformio'n agos cyn gryfed y tro hwn).

Ar yr olwg gyntaf dydi hyn ddim yn edrych yn debygol, ond mae yna stori arall. Ystyrier canlyniadau etholiadau Ewrop yn 1999:

Llafur - 31.9%
Plaid Cymru - 29.6%
Toriaid - 22.8%
Lib Dems - 8.2%
UKIP - 3.1%

Roedd yna bum sedd Ewrop ar y pryd (Llaf 2, PC 2, Toriaid 1), ond petai'r patrwm hwn yn cael ei ailadrodd byddant yn agos iawn at golli un o'u seddi mewn trefn bedair sedd. Felly beth oedd y gwahaniaeth rhwng 1999 a 2004? Dau beth - roedd gwynt cryf y tu ol i Blaid Cymru bryd hynny, a roedd y nifer o bobl aeth i bleidleisio yn llawer is yn 1999 nag oedd yn 2004 (29% a 42%). Roedd y gyfradd pleidleisio yn uchel yn 2004 am bod yna etholiadau lleol ar yr un diwrnod. Fydd yna ddim etholiadau felly eleni, felly bydd y gyfradd pleidleisio yn is (ddim cyn ised a 29% efallai, ond bydd yn sylweddol is serch hynny). Mae cyfradd pleidleisio uchel yn dda i'r Blaid Lafur, mae un isel yn dda i Blaid Cymru, ac i raddau llai y Toriaid.

Felly mae Llafur yn mynd i mewn i etholiad Ewrop gyda digon i boeni amdano, etholiadau lleol gwarthus yn 2008, tebygrwydd o gyfradd pleidleisio isel, y Blaid Doriaidd efo gwynt yn ei hwyliau ar lefel 'cenedlaethol', a Phlaid Cymru mewn llywodraeth am y tro cyntaf a chyda'r etholiadau lleol mwyaf llwyddiannus yn eu hanes ond blwyddyn yn y gorffennol, a'r ddau aelod Llafur (Kinnock a Morgan) yn rhoi'r gorau iddi. Dyma sydd wrth gefn ymddangosiad Aneurin Glyndwr - ofn bod yr ail sedd yn Ewrop am gwympo.

Wna i ddim darogan y bydd Llafur yn colli eu hail sedd, ond mi wna i ddarogan y bydd pleidlais y dair Blaid fawr rhwng 20% a 33%, ac nad ydi siawns Llafur o gael dwy sedd fawr gwell na siawns y Toriaid a Phlaid Cymru.

Friday, March 27, 2009

Croeso Aneurin Glyndwr

Wel, wel, wel - ar ol bod yn poeni nad oes ganddynt bresenoldeb ar y rhithfro Cymreig mae Eluned Morgan, Peter Hain a'r anfarwol Alun Davies wedi creu blog o'r ansawdd uchaf - Aneurin Glyndwr


Er mor fyr hyd yn hyn, mae'n amlwg yn gampwaith gwybodus, deallus a soffistigedig - a does yna ddim mwy felly na'r fideo anfarwol sydd ar waelod y blog yma - sydd yn ol pob golwg yn ymdrech i lawnsio ymgyrch etholiadau Senedd Ewrop Llafur.


Does gen i ddim y geiriau i fynegi maint fy edmygedd o'r safonau cynhyrchu godidog, y sgiliau ffotoshop, y naratif deallusol ac effeithiol, geiriau soffistigedig y gan (sydd wedi eu 'sgennu gan neb llai nag Eluned ei hun), y llais soniarus, y gallu rhyfeddol i gwmpasu'r tirlun gwleidyddol cyfoes mewn ychydig eiriau _ _ _ - jyst pob dim - mae'r blydi peth yn gampwaith.

'Rwan, mae yna rhyw dderyn bach yn dweud wrthyf y bydd y fideo a'r wefan yn cael ysgariad maes o law - ond rhag i'r berl bythgofiadwy o fideo ddiflannu - a thrwy hynny amddifadu traddodiad diwylliannol Cymru o un o'i gampweithiau, 'dwi wedi ei gopio er mwyn i chi gael ei fwynhau - trosodd a throsodd a throsodd.

Os nad ydych chi'n gwrando ar gymaint ag un gair o gyngor y cewch ar y blog hwn - plis edrychwch ar y fideo - yn arbennig felly os ydych byth yn cael eich temtio am cymaint a munud i bleidleisio i blaid Eluned Morgan.

Wednesday, March 25, 2009

Pol piniwn etholiadau Ewrop yn yr Alban



Yn ol cwmni polio Progressive Scottish Opinion mae Llafur am gael etholiad Ewrop gwych yn yr Alban ym mis Mehefin.

Os byddant yn cael 41% neu fwy, neu os ydynt ar y blaen o 11% neu fwy 'dwi'n addo postio llun ohonof fy hun yn bwyta fy nhrons ar y blog yma drannoeth yr etholiad.

Tuesday, March 24, 2009

Cyngor Sir Gaerfyrddin ac ysgolion y Gwendraeth


Ymddengys bod y glymblaid Annibynnol / Llafur sy'n rheoli yn Sir Gaerfyrddin yn bwriadu cychwyn ar eu rhaglen ail strwythuro addysg uwchradd yn y Sir trwy uno dwy ysgol uwchradd Cwm Gwendraeth - Ysgol Maes yr Yrfa sy'n ysgol Gymraeg, ac Ysgol y Gwendraeth sy'n addysgu trwy gyfrwng y Saesneg. O'i weithredu byddai'n drychineb ieithyddol.

I'r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd a'r sefyllfa, Cwm Gwendraeth mae'n debyg ydi'r rhan Cymreiciaf (o ran iaith beth bynnag) o Gymru sy'n weddill y tu allan i'r Gogledd Orllewin. Mae tua dwywaith cymaint o blant yn mynd i'r ysgol Gymraeg nag i'r un Saesneg, er mai ychydig tros hanner plant Maes yr Yrfa sy'n siarad Cymraeg adref. Os byddai'r ddwy ysgol yn cael eu huno, byddai'r ganran sy'n siarad Cymraeg yn naturiol yn yr ysgol yn gostwng i ymhell o dan hanner. Mae'r ganran o blant sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf mewn ysgol yn bwysig, fel y cefais weld yn ddiweddar.

'Dwi wedi mynychu cyfres o gyfarfodydd yn ddiweddar mewn ysgol uwchradd yng Ngwynedd. 'Doedd wnelo'r cyfarfodydd ddim oll a'r ysgol - roedd hi'n digwydd bod yn lle cyfleus i drefnu cyfarfodydd.

Cyn cyrraedd yr ystafell gyfarfod roedd yn rhaid i ni groesi'r cowt yn ystod amser chwarae - ac felly gerdded trwy'r plant. Digwyddodd un o'r bobl oedd yn y cyfarfod diweddaraf son ei fod wedi aros mewn siop sglodion ar y ffordd i'r ysgol a'i chael yn llawn o blant ysgol, ond nad oedd yr un ohonynt yn cyfathrebu efo'i gilydd yn y Gymraeg - a'i fod wedi sylwi ar yr un peth wrth groesi'r cowt. Erbyn meddwl, prin yr oeddwn i wedi clywed gair o Gymraeg o gwbl yn ystod y pedwar neu bump tro yr oeddwn innau wedi croesi'r cowt - roedd profiad pawb arall yn ddigon tebyg.

Digwyddodd fy ngwraig ddal bws oedd yn mynd heibio'r ysgol ychydig ddiwrnodiau wedi'r cyfarfod hwnnw - a daeth nifer fawr o blant ar y bws wrth yr ysgol. Roedd ei phrofiad hithau'n ddigon tebyg un y gweddill ohonom.

Mae hyn yn estron i mi - 'dwi'n digwydd byw yn nhref Gymreiciaf Cymru, ac mae gen i bump o blant sydd naill ai yn yr ysgol uwchradd leol, neu sydd wedi mynychu'r ysgol yn y gorffennol cymharol agos a'r Gymraeg (a'r Gymraeg yn unig) oeddynt yn ei ddefnyddio gyda'u cyfeillion ysgol.

Rwan - mae tua hanner plant yr ysgol yr oeddwn yn son amdani yn dod o gartrefi Cymraeg. 'Roedd y bws a ddaliodd fy ngwraig yn mynd i bentref sy'n digwydd bod y tu allan i'r dalgylch swyddogol. Yn ol cyfrifiad 2001 roedd 77% o bobl y ward honno yn siarad y Gymraeg - y 38fed ward Gymreiciaf yng Nghymru (allan o 886). Canrannau'r wardiau eraill sy'n bwydo'r ysgol oedd 84%, 70%, 69%, 65%, 65% a 77%.

'Dydi'r canrannau hyn ddim yn arbennig o uchel wrth safonau Gwynedd - ond mae'n nhw'n uchel iawn wrth safonau gweddill Cymru. Dydyn nhw ddim ymysg yr isaf yng Ngwynedd chwaith o ran hynny. Nid y broblem ydi na all y plant gyfathrebu yn y Gymraeg efo'i gilydd - mae bron i pob plentyn yn yr ysgol yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf, mae'r mwyafrif ohonynt yn astudio trwy'r Gymraeg, ac mae safonau'r Gymraeg yn yr ysgol ymysg yr uchaf yng Nghymru. Y broblem yw eu bod yn dewis cyfathrebu efo'i gilydd trwy gyfrwng y Saesneg.

'Dwi'n brysio i nodi nad ydwyf yn beio'r ysgol am y sefyllfa ar y cowt - ychydig y gall ysgol - ac yn arbennig ysgol uwchradd ei wneud i reoli pa iaith mae plant yn ei siarad pan nad ydynt mewn ystafell ddosbarth - ac mae safon yr addysg Gymraeg yno'n rhagorol.

Mae cysylltiad agos rhwng y ganran sy'n ei chael yn haws i siarad Cymraeg oherwydd mai dyna eu hiaith gyntaf a iaith buarth mewn ysgol. Mae plant yn eu harddegau yn hoff iawn o unffurfiaeth - a'r tuedd yma sy'n rhannol gyfrifol am Seisnigrwydd plant yr ysgol 'dwi newydd fod yn son amdani.

'Dydi'r union ganran lle mae iaith buarth yn troi o un iaith i'r llall ddim yn union yr un peth ym mhob man, ond gallwn fod yn weddol sicr y byddai iaith buarth Maes yr Yrfa yn Seisnig iawn petai canran ei siaradwyr Cymraeg naturiol yn cwympo i tua thraean (fel y byddai'n digwydd efo'r cynllun hwn).

A fyddai hyn yn golygu colli'r iaith fel iaith gymunedol yng Nghwm Gwendraeth? Ddim o anghenrhaid - dydi'r iaith mae pobl yn ei ddefnyddio amlaf yn eu harddegau ddim o anghenrhaid yn aros am byth. Fel mae pobl yn mynd yn hyn mae dylanwadau ehangach na chyfoedion ysgol yn dod yn fwy pwysig - y man gwaith, colegau, teuluoedd ac ati. Ond yn sicr byddai'r iaith mewn sefyllfa wanach na phetai'r Cymry Cymraeg cynhenid ddim yn cael eu boddi mewn Seisnigrwydd.

Monday, March 23, 2009

Bangor a Llais Gwynedd


Ymddengys bod Llais Gwynedd eisiau cydweithio efo grwp newydd sydd wedi ei ffurfio i hybu buddiannau dinas Bangor ar draul gweddill Gwynedd.

Mae hyn yn newyddion digon diddorol. Dadl arferol Llais Gwynedd ydi bod gormod o adnoddau yn cael eu buddsoddi ar Lannau'r Fenai - ond ymddengys eu bod hefyd o'r farn nad oes digon o adnoddau'n cael eu buddsoddi ar Lannau'r Fenai.

Wna i ddim aros llawer efo'r idiotrwydd yma, ag eithrio i nodi bod y sefyllfa'n cefnogi fy nadansoddiad o Lais Gwynedd fel plaid gwrth Plaid Cymru yn annad dim arall. Mae gwrthwynebu Plaid Cymru yn ninas Bangor yn llawer pwysicach iddynt nag ydi cynnal dadl tros gynyddu adnoddau yn rhannau gwledig y sir.

Mi wnaf serch hynny ddweud gair neu ddau am ddinas Bangor a'i gwleidyddiaeth. 'Rwan, rhag i neb gam ddeall, mae'r ddinas yn annwyl iawn i mi - mae gen i gysylltiadau teuluol agos iawn efo'r ddinas, a roeddwn yn byw yno pan oeddwn yn fabi.

Serch hynny mae yna agwedd ymysg elfennau o boblogaeth Bangor bod y ddinas yn ddi freintiedig o'i chymharu a gweddill Gwynedd, ac nad ydi hi'n cael ei siar dyledus o adnoddau. 'Dwi ddim yn amau bod rhan o'r agwedd yma yn deillio o wahaniaethau diwylliannol rhwng Bangor a'r rhannau poblog o'r sir sydd yn union i'r De a'r Gorllewin iddi. Saesneg ydi iaith y rhan fwyaf o drigolion Bangor, y Gymraeg ydi iaith ei chymdogion agosaf. Mae rhai swyddi cyhoeddus yn rhai lle mae'n rhaid gallu siarad y Gymraeg i'w cael. O ganlyniad mae llai o'r swyddi cyhoeddus yma ar gael i Fangor, a mwy i rai o'r cymunedau o'i chwmpas.

Beth bynnag am wreiddiau'r agwedd yma, mae'n gwbl, gwbl gyfeiliornus. Bangor ydi'r rhan mwyaf breintiedig o'r sir o ran buddsoddiad cyhoeddus a phreifat. Mae dau o brif gyflogwyr y Gogledd - Prifysgol Gogledd Cymru ac Ysbyty Gwynedd wedi eu lleoli yno. Mae hynny ynddo'i hun yn pwmpio degau o filiynau yn flynyddol i economi Bangor a'r cylch. Ar gyrion Bangor mae datblygiad enfawr Parc Menai wedi ei leoli - parc busnes sydd wedi denu buddsoddiad cyhoeddus a phreifat anferthol. Ym Mangor y ceir unig barc manwerthu Gwynedd - os mai dyna'r term cywir am y stribedyn o siopau mawr sy'n ymestyn ar hyd y lon tua'r Gorllewin. Mae cyfran uchel iawn o'r swyddi preifat sydd wedi eu creu yng Ngwynedd tros yr ugain mlynedd diwethaf wedi bod yn ardal Bangor - a pholisiau awdurdodau cyhoeddus sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn oll.



CAST Technium ym Mharc Menai.

Mae gan Fangor bron ddwywaith cymaint o ysgolion na Chaernarfon - er nad oes gwahaniaeth mawr mewn poblogaeth. Cafwyd tri phrosiect adeiladu ysgolion mawr yng Ngwynedd yn ystod y blynyddoedd diweddar - Ysgol Pendalar ar gyfer plant ag anhawsterau dysgu dybryd yng Nghaernarfon, ac ysgolion Friars a Chae Top ym Mangor. Lleolir canolfan hamdden orau'r sir yno - ac er nad y Cyngor Sir sydd piau Maes Glas (y Brifysgol yw'r perchenog), caiff pawb ei ddefnyddio. Lleolir pydew llyncu pres mwyaf y Gogledd yno hefyd - Pwll Nofio Bangor - mae colledion y sefydliad yma'n llawer iawn uwch na chyfanswm colledion dau sefydliad gwledig sy'n debygol o gau'n fuan oherwydd diffyg cyllid - Pwll Nofio Harlech, a Chanolfan Hamdden y Bala.

Mae arweinydd cwynwyr Bangor - Nigel Pickavance - yn poeni nad oes cymaint o lewyrch ar Stryd Fawr Bangor nag a fu - ond mae hynny'n wir am bron i bob canol tref yn y DU ar hyn o bryd. Mae'n amlwg i unrhyw un sydd a'r mymryn lleiaf o wybodaeth am y Gogledd Orllewin bod llawer llai o siopau gweigion ym Mangor na sydd yn nhrefi cyfagos Caernarfon, Llangefni a Chaergybi.

Oherwydd hyn oll 'does gen i yn bersonol ddim llawer o gydymdeimlad gyda Mr Pickavance a'i ddilynwyr. Yr hyn a fydd o syndod i rai (ond nid i mi) ydi nad ydi Llais Gwynedd o'r un farn a mi

Thursday, March 19, 2009

Y cam pwysicaf y gallai'r Blaid ei gymryd i hybu'r Gymraeg

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol agos y gallai Plaid Cymru'n hawdd gael ei hun mewn llywodraeth yn lled barhaol os ydi cefnogaeth Llafur yn cwympo i'r graddau mae'r polau piniwn yn ei awgrymu - hyd yn oed os ydi'r Toriaid yn elwa mwy o'r sefyllfa yn etholiadaol na'r Blaid.

Un o ganlyniadau anochel sefyllfa felly yw rhoi'r Blaid mewn sefyllfa anhygoel o gryf wrth negydu gyda phartneriaid arfaethiedig cyn ffurfio llywodraeth. Bydd y cardiau negydu oll yn nwylo'r Blaid. Byddwn mewn sefyllfa i osod agenda genedlaetholgar yn ei lle, a sicrhau bod yr agenda honno'n cael ei dilyn.

'Dwi'n gobeithio y bydd y rhestr siopa yn un hir - a 'dwi'n gwybod beth a ddylai fod ar ben y rhestr hwnnw. Dylid mynu bod pob Cyngor Sir yng Nghymru yn gwneud asesiad trylwyr o'r galw lleol am addysg Gymraeg, a dylid defnyddio grym y Cynulliad, Estyn a'r Comisiwn Archwilio i orfodi'r cynghorau i ymateb yn ddiymdroi i'r galw hwnnw. Dyma sut y gorfodir yr agenda ail strwythuro'r gwasanaethau ysgolion ar hyn o bryd. Os ydi cynghorau megis Cyngor Merthyr yn methu yn hyn o beth, dylai'r Cynulliad gymryd rheolaeth o'r Gwasanaeth Ysgolion lleol.

Er gwaethaf (neu oherwydd) y cynnydd mewn darpariaeth Cymraeg yn y sector cyhoeddus (ac i raddau llai y sector preifat) tros y blynyddoedd diwethaf, gellir dadlau bod mwy o gyflenwad o lawer nag o alw am wasanaethau Cymraeg ym mron i pob maes - ond mae un eithriad amlwg - addysg.

Mae lle i gredu bod galw sylweddol iawn am addysg Gymraeg - efallai bod tua hanner rhieni Cymru eisiau addysg felly. O ymateb yn llawn i'r galw hwnnw byddai'r Gymraeg wedi ei hachub.



Dyma'r ffordd orau o ddigon o hybu'r Gymraeg.

Golwg, Jac Codi Baw a Gwilym Euros

Mae'n ddrwg iawn gan flogmenai ddeall bod ei gyd flogiwr Gwilym Euros Roberts wedi ei gynddeiriogi gan sylwadau anheg a wnaed amdano yn y cylchgrawn Golwg. Fel rhywun sydd wedi hen arfer at ddarllen honiadau llai na theg amdano'i hun ar y We, gallaf yn sicr gydymdeimlo. Mi fedraf hefyd rhyw hanner deall pam nad ydi Gwilym yn or hoff o Golwg, a pham ei fod yn ystyried y cylchgrawn yn rhacsyn ac yn gylchgrawn o safon isel iawn.

O dan yr amgylchiadau, mae felly braidd yn anffodus bod Gwilym yn fodlon dyfynu Golwg pan mae'r cylchgrawn yn gwneud sylwadau anffafriol am bobl eraill. Er enghraifft gwnaed sylw cwbl ddi sail am gynghorydd o Fangor yn Golwg ym mis Rhagfyr, ac aeth Gwilym ati i ddyfynu'r honiad yma. Cyfeiriodd drachefn at yr honiad yn y wasg ac ar ei flog yn ystod yr wythnos neu ddwy diwethaf.

Nid Golwg ydi'r unig bapur sy'n gwneud honiadau di sail. Adroddodd rhecsyn lleol cwmni Trinity Mirror - Y Caernarfon & Denbigh bod un o gynghorwyr Plaid Cymru wedi ymddiswyddo o'r Blaid honno ym mis Rhagfyr. Nid oedd unrhyw wirionedd yn yr honiad.

Cyfeiriodd Gwilym at y stori yn ei flog.

Hyd y gwn i nid yw wedi trafferthu cywiro'r cam argraff a adawyd ganddo.

Tuesday, March 17, 2009

Gwleidyddiaeth yr Anterliwt yng Ngwynedd

Mae'r blog hwn wedi edrych ar y berthynas rhwng Llais Gwynedd a'r dull o wleidydda a adwaenir yn Saesneg fel populism yn y gorffennol.

Wna i ddim ceisio diffinio'r term - i'r sawl sydd a diddordeb ceir ymdriniaeth yma. Mi fyddwn yn nodi fodd bynnag nad wyf yn hoff o'r math yma o wleidydda - oherwydd ei fod yn ffurf simplistig ar wleidyddiaeth, ac mae'n annog rhesymu gwleidyddol arwynebol a diog. Mae hefyd yn tueddu i greu dull o wleidydda anymunol sy'n diafoli gwrthwynebwyr gwleidyddol.

Rydw i wedi son am rai o gyfraniadau diweddar Gwilym Euros ar ei flog yn ddiweddar, a chan obeithio na fyddaf yn cael fy nghyhuddo o fod yn gas efo Gwilym, 'dwi'n mynd i edrych ar ddau gyfraniad arall diweddar ganddo er mwyn dangos pam nad wyf yn or hoff o'r traddodiad arbennig yma.

Wele'r cyfraniad cyntaf. Awgrymu mae Gwilym yma bod Plaid Cymru yn rhagrithiol oherwydd nad ydynt yn gefnogol i gynllun ad drefnu ysgolion uwchradd yng Nghaerfyrddin, tra eu bod yn gefnogol i gynllun ad drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd. 'Dydi Gwilym ddim yn manylu'n union pwy sy'n rhagrithiol - y Blaid yng Ngwynedd, y Blaid yng Ngheredigion neu'r Blaid yn gorfforiaethol.

Beth bynnag am hynny, mae'r awgrym yn amlwg yn gwbl afresymegol. Mae awgrymu y dylai plaid gefnogi pob cynllun ail strwythuro yng Nghymru oherwydd ei bod yn cefnogi un cynllun, neu wrthwynebu pob un, oherwydd ei bod yn gwrthwynebu un, yn ymylu ar fod yn chwerthinllyd o ddi reswm. Yn amlwg mae'n rhaid i pob cynllun unigol gael ei ystyried ar ei ben ei hun. 'Dydi hi ddim yn bosibl eu hystyried nhw i gyd ac wedyn dod i gasgliad cyfansawdd.

'Rwan mae rhesymu Gwilym yn hynod o simplistaidd yma. 'Dydi hyn ddim yn golygu bod Gwilym ei hun yn simplistaidd wrth gwrs - i'r gwrthwyneb. Yr hyn sydd wedi digwydd ydi bod Gwilym wedi cael ei hun mewn sefyllfa lle mae'n rhesymu mewn cyd destun gwleidyddol simplistaidd. Diffinir y rhesymeg sydd y tu ol i benderfyniadau gwleidyddol gwrthwynebwyr mewn termau o'u drygioni - rhagrith yn yr achos yma. 'Dydi'r traddodiad populist ddim yn annog y rhai sy'n ei arddel i geisio rhesymu mewn ffordd soffistigedig wrth geisio canfod cymhelliad gwleidyddol gwrthwynebwyr gwleidyddol. Syml ydi pob dim - ac mae pob dim yn rhan o ddeialectic da / drwg.

Yr ail gyfraniad 'dwi am edrych arno ydi hwn. Ymateb mae Gwilym yma ('dwi'n meddwl) i gyfraniad cynharach gen i ar fy mlog i.

Rwan er nad ydw i'n cytuno efo rhai o fanylion Gwilym parthed genedigaeth Llais Gwynedd, a'u hynt ers hynny - 'dwi ddim am fynd ar ol pob sgwarnog. 'Dwi yn meddwl ei bod braidd yn anheg awgrymu nad ydw i'n meddwl ei bod yn briodol i Lais Gwynedd ymddwyn fel gwrthblaid -'dydi hynny ddim yn wir. Y cysyniad o fod yn wrthblaid gwrthnysig iawn a llywodraethu ar yr un pryd ydi fy mhroblem i.

Ta waeth, 'dwi'n crwydro - rhesymu simplistaidd sy'n cael ei esgor gan dirwedd gwleidyddol Llais Gwynedd ydi thema'r darn yma - ac fe awn ni ar ol hynny.

Mae'n ddiddorol bod Gwilym yn arenwi'r pwynt pan drodd aelodau Plaid Cymru yn bobl ddiafolaidd mewn termau metaffisegol. Rydym wedi gwerthu ein heneidiau i'r Diafol trwy gymryd rhan yng nghlymblaid Cymru'n Un. 'Dydi Gwilym ddim yn dweud wrthym os byddai mynd i glymblaid gyda'r Toriaid hefyd yn fater pechadurus - ond cymraf ei fod.

O sefyll yn ol am ennyd a meddwl yn hytrach na syrthio i'r demtasiwn o ddiafoli gwrthwynebwyr gallai Gwilym weld bod goblygiadau pell gyrhaeddol i unig blaid genedlaetholgar Cymru ddilyn yr egwyddor yma, a pheidio ystyried mynd i lywodraeth, oni bai bod ganddi fwyafrif llwyr. Mae'n hynod o anodd ennill mwyafrif llwyr o dan y drefn etholiadol sydd ohoni, ac nid oes unrhyw le i gredu y gallai'r Blaid ennill mwyafrif felly yn y dyfodol agos - nag yn y dyfodol canolig o ran hynny. Felly byddai agwedd o'r fath yn sicrhau mai mater i bleidiau unoliaethol yn unig fyddai llywodraethu Cymru. Agenda unoliaethol di gymysg fyddai felly yn cael ei ddilyn efallai am ddegawdau yn y Cynulliad. Byddai gweithredu yn y ffordd yma yn frad cenedlaethol yn fy marn i.

Y mater olaf hoffwn ei godi o'r cyfraniad ydi'r ffaith ei fod yn beio Plaid Cymru oherwydd bod setliad ariannol llywodraeth leol yn isel eleni ar y sail ein bod mewn llywodraeth yng Nghaerdydd. 'Rwan, mae'n hysbys i bawb am wn i bod y setliad gwael a gafodd llywodraeth leol yn dilyn yn uniongyrchol o setliad gwael a gafodd y Cynulliad gan San Steffan. Nid oes gan y Cynulliad ffordd o godi ei gyllid ei hun - mae'n cael ei ariannu gan grant blynyddol o San Steffan. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw rol yn y broses o bennu maint y grant hwnnw. Mae Gwilym yn gwybod hyn - ond yn y tirwedd deallusol (os mai dyna'r gair) mae cynrychioli'r diffyg adnoddau fel ymdrech faleisus ar ran y Blaid i amddifadu pobl o wasanaethau yn gwneud mwy o synnwyr.

A dyna yn ei hanfod ydi'r broblem gyda gwleidyddiaeth Llais Gwynedd - anterliwt syml o ymgiprys rhwng daioni a drygioni a geir - a rhaid i pob dim ffitio i'r cyfyngiadau hynny - ta waeth pam mor amhriodol, simplistaidd a weithiau gogleisiol y casgliad.

Sunday, March 15, 2009

Y Blaid wrth Plaid Cymru

Mae yna stori o gwmpas i un o ymgeiswyr Llais Gwynedd ddisgrifio ei gwleidyddiaeth fel Dim Plaid Cymru wedi i un o'i darpar etholwyr ofyn iddi tros beth roedd yn sefyll.

'Dwi ddim yn gwybod os ydi'r stori yn wir, ond os ydi hi neu beidio mae'n ddisgrifiad da o'r hyn ydi Llais Gwynedd - plaid / grwp sy'n denu pob math o bobl o pob math o gefndiroedd, sydd a dim oll yn gyffredin rhyngddynt ag eithrio casineb afresymegol tuag at Blaid Cymru. Mae'r blog hwn wedi dadlau hynny'n gyson.

Mae'n debyg gen i mai'r dystiolaeth orau tros hyn ar y We ydi blog un o gynghorwyr Llais Gwynedd, Mr Gwilym Euros Roberts.

Mae blog Gwilym yn un digon eclectic - mae'n cynnwys gwybodaeth digon diddorol am fywyd pob dydd Gwilym, ei ddiddordebau ac ati. Mae hefyd yn flog rhannol wleidyddol, ac mae'r rhannau hynny yn rhoi cip diddorol ar ddehongliad Gwilym, a Llais Gwynedd am wn i o wleidyddiaeth Gwynedd.

Cyn edrych ar y dehongliad hwnnw, efallai y dyliwn betruso am ennyd i edrych ar y drefn yng Ngwynedd go iawn. Ceir pump grwp gwleidyddol ar Gyngor Gwynedd - Plaid Cymru, Llais Gwynedd, Annibynwyr, Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur. Yn gwahanol i'r mwyafrif llethol o gynghorau Cymru mae'r cyngor yn cael ei reoli gan Fwrdd aml bleidiol - fe rennir y grym rhwng pawb - ac i'r graddau hynny mae pob grwp yn rheoli'r cyngor. Hyd y gwn i dim ond Powys sydd a threfn debyg.

Yn y rhan fwyaf o gynghorau mae'r grwp mwyaf, neu'r cyfuniad mwyaf yn hawlio'r grym i gyd trwy ddull Cabinet. Felly, yng Ngheredigion er enghraifft nid oes gan Blaid Cymru unrhyw rym o gwbl er mai nhw ydi'r grwp mwyaf o ddigon. Gan bod y Lib Dems a'r Annibynwyr gyda mymryn mwy o aelodau na sydd gan y Blaid maent mewn sefyllfa i reoli'r Cabinet, ac felly'r Cyngor yn ei gyfanrwydd.

Yn y tirwedd gwleidyddol a bortreadir ym mlog Gwilym fodd bynnag mae'n fyd cwbl gwahanol. Ceir dau grwp - Plaid Cymru, a Llais Gwynedd. Mae aelodau Plaid Cymru yn bobl anhygoel o ddrwg sy'n treulio pob awr yn cynllwynio sut i wneud gwahanol ddrygioni. Maent hefyd yn taflu cathod bach ar y tan, yn dwyn pres o blat y casgliad pan maent yn y Capel ac yn gwisgo mygydau anghynes er mwyn dychryn plant bach. Mae aelodau'r grwp arall, Llais Gwynedd ar y llaw arall yn saint modern - pobl sy'n ffeind efo plant ac anifeiliaid, sy'n mynd i gryn drafferth i helpu'r henoed groesi'r ffordd, pobl sy'n treulio eu holl amser yn meddwl am ffyrdd o hyrwyddo daioni. Mae yna drydydd grwp - ond plant Annwn ydi'r rheiny - yn union fel Plaid Cymru. Fe'u gelwir yn Swyddogion.

Y drwg efo'r tirwedd yma ydi ei fod yn bodoli yn nychymyg aelodau Llais Gwynedd yn hytrach nag yn y byd go iawn. Dyna pam mae blogiau fel hwn ar ad drefnu ysgolion cynradd yng Ngwynedd mor ofnadwy o rhyfedd. Nodaf isod ddwy fersiwn o'r sefyllfa parthed ad drefnu - un blog Gwilym Euros - a'r un sy'n digwydd yn y Byd go iawn.

Fersiwn Gwilym: Mae'r swyddogion anhygoel o ddrwg a'r Pleidwyr anhygoel o ddrwg yn cynllwynio i gau 25 ysgol oherwydd eu bod nhw'n bobl anhygoel o ddrwg. Mae Llais Gwynedd yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gadw'r 25 ysgol yn agored oherwydd eu bod nhw'n bobl anhygoel o dda. Mae pawb arall yn rhyfeddu yn geg agored at ddrygioni'r Pleidwyr a'r swyddogion ac yn dotio at ddaioni Gwilym a Llais Gwynedd. Maent hefyd yn ymgynghori gyda Gwilym, ac yn dweud wrtho mor ddigalon mae'r holl ddrygioni a ddaw o gyfeiriad Plaid Cymru yn gwneud iddynt deimlo.

Fersiwn go iawn: Mae adroddiad wedi ei gynhyrchu gan grwp sy'n cynnwys pob un o'r grwpiau ar Gyngor Gwynedd - Plaid Cymru, Annibynwyr, Llafur, Lib Dems a Llais Gwynedd. Ymateb ydi'r adroddiad i bwysau sy'n cael ei roi ar y Cyngor i ad drefnu gan ESTYN, y Comisiwn Archwilio a'r Cynulliad. Mae'r un pwysau yn cael ei roi ar gynghorau ar hyd a lled Prydain. Mae yna nifer o bethau yn yr adroddiad sy'n dderbyniol i bron i bawb, ac mae yna bethau sy'n debygol o fod yn gynhenus, gan gynnwys rhai pethau sy'n achosi gofid i mi.

Beth bynnag, cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo yn unfrydol gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Gwynedd - pleidleisiodd y tri aelod Llais Gwynedd o blaid cymeradwyo'r adroddiad. Pan ddaeth y mater ger bron y Bwrdd pleidleisiodd pedwar o'r pump grwp o blaid cymeradwyo'r adroddiad, ond pleidleisiodd y ddau aelod LlG (gan gynnwys Gwilym) yn erbyn cymeradwyo'r adroddiad oherwydd eu bod yn ofni y gallai arwain at gau rhai ysgolion.

Felly y gwir sefyllfa ydi bod pob grwp ag eithrio Llais Gwynedd wedi cymeradwyo'r adroddiad, tra bod Llais Gwynedd yn ymddangos yn rhanedig ar y mater. Mae hyn ymhell, bell o'r stori fach syml o ddrygioni a daioni a bortreadir ym mlog Gwilym.

Mae gan Gwilym flog diweddar arall sydd mewn gwirionedd yn gopi o lythyr a anfonwyd ganddo ef ei hun yn ateb llythyrau a anfonwyd i'r wasg gan gyn gynghorydd Plaid Cymru o'r enw Maldwyn Lewis. Mae sylwadau Gwilym yn gwneud rhyw fath o synwyr i mi, gan fy mod wedi gweld llythyrau gwreiddiol Maldwyn Lewis - ond i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr ei flog sydd yn ol pob tebyg ddim yn darllen Golwg na'r Caernarfon & Denbigh, mae'n rhaid ei fod yn anodd i'w ddeall. Efallai y byddai wedi bod yn ddoethach i Gwilym gopio llythyrau Maldwyn Lewis hefyd, er mwyn rhoi rhyw fath o gyd destun i'w gyfraniad ei hun.

Ta waeth, yr hyn aeth a fy sylw oedd y sylwadau hyn gan Gwilym:

Ganol Rhagfyr, mi adroddodd Golwg am aelod o Blaid Cymru yn fy ngalw i yn “f***ing idiot” wrth i mi gyflwyno cynnig arbedodd £1.4m i'r Cyngor wrth ail-strwythuro'r uwch reolaeth y Cyngor. Nid oes unrhyw aelod o Lais Gwynedd wedi siarad mewn modd mor ffiaidd a gwenwynig gyda swyddog na chyd aelod o'r Cyngor ac fyddwn i yn fawr obeithio na fyddai neb o fewn y grwp byth gwneud chwaith!

Cyfeirio mae Gwilym at stori a ymddangosodd yn Golwg. Mae Gwilym eisoes wedi ymateb i'r erthygl ar ei flog, ac wedi ei disgrifio fel un o'r erthyglau gwaethaf iddo erioed ei darllen. Mae hi hefyd yn un o'r erthyglau gwaethaf yr ydw i erioed wedi ei darllen. Ynghanol pob math o lol anealladwy, mae awdur yr erthygl yn honni i'r Cynghorydd Eddie Dogan o Fangor ddisgrifio Gwilym fel fucking idiot.

A bod yn deg efo Gwilym, yn ei gyfeiriad gwreiddiol mae'n cymryd yr honiad gyda phinsiad go dda o halen. Roedd hynny'n beth doeth i'w wneud gan na chlywodd Eddie ei hun yn gwneud y sylw, na Gwilym, na neb oedd yn eistedd yn agos at Eddie, na neb o'r grwpiau eraill, na'r un o'r swyddogion, na neb oedd yn yr oriel ag eithrio gohebydd Golwg. 'Does yna ddim arwydd o'r sylw ar y tap a wnaed o'r cyfarfod chwaith. Hynny yw, gallwn fod yn 99% sicr mai ffrwyth dychymyg gohebydd Golwg oedd y peth i gyd. Deallaf bod Golwg wedi ymddiheuro am yr honiad i Eddie.

Y rheswm mae Gwilym yn atgyfodi'r stori ydi nid am ei fod yn ei chredu, ond oherwydd ei bod yn gweddu i'r naratif presenol sydd ganddo fo a Llais Gwynedd o ddrygioni di ben draw Plaid Cymru a swyddogion Cyngor Gwynedd, a daioni anhygoel Llais Gwynedd.

Daw hyn a ni'n ol at drefn rheoli Cyngor Gwynedd. Fel y dywedais, mae'n drefn sy'n rhannu grym - ac i'r graddau yna mae'n drefn anarferol. 'Dydw i erioed wedi hoffi'r drefn hon - ond gallaf weld dadleuon o'i phlaid lle mae lled gonsensws i gyd weithio oddi mewn i'r cyngor.

'Does yna ddim cyd destun felly ar hyn o bryd. Mae un o'r grwpiau yn cymryd cymaint o rym ag y gallent ei gael, ond yn gwrthod cymryd y gyfriflodeb sy'n mynd gyda hynny. Maent yn gweld busnes y Cyngor mewn termau plentynaidd o simplistaidd, ac yn tanseilio'r cyngor ar sail y naratif simplistaidd sy'n mynd gydag hynny. Maent yn piso allan o'r babell, ac yn piso i mewn i'r babell ar yr un pryd (ag addasu sylwadau enwog John Major).

'Dydi'r drefn o reoli'r Cyngor trwy Fwrdd Rheoli ddim yn ffit i bwrpas. Mae'n hen bryd symud i drefn Gabinet.

Friday, March 13, 2009

Golwg arall ar ddemograffeg Gogledd Iwerddon

Mae David H Jones yn gwneud y sylwadau canlynol ynglyn a fy mlog diwethaf, a chan bod ei bwyntiau yn rhai diddorol, a chan bod y blog gwreiddiol yn fyr iawn mi ymatebaf ar dudalen flaen y blog yn hytrach nag ar y dudalen sylwadau.

blog difyr - fel arfer. Mae hefyd yn wir fod y gyfradd geni yn uwch yn GI nawr nag mae hi wedi bod ers 1991
http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7939546.stm
gan fod menwyod sydd wedi osgoi dechrau teulu yn eu 20au nawr yn eu 30au canol / hwyr. Y dybiaeth fell gan fod y Catholigion yn fwy niferus yn yr oedran 30 ac iau, fod y mwyafrif o'r plant yma am fod yn Gatholigion hefyd. Roedd rhyw gred efallai ymysg Unoliaethwyr y byddai'r cwymp yn y cyfradd geni yn yr 1990au yn lleihau twf yn y gymuned Gatholig. Dydy hynny ddim yn edrych mor wir nawr.

Fy unig gwestiwn Menai yw hyn. Gallaf ddeall fod Catholigion yn pleidleisio ar lefel 'gymunedol/sectyddol' syfrdannol o gyson ond oes tystiolaeth y byddant yr un mor driw mewn refferendwm ar uno gyda'r Weriniaeth?

Dwi'n meddwl hefyd y byddai'n anodd iawn i'r Gogledd ymuno a'r De yn unig ar sail pleidlais o dyweder 51% o blaid a 49% yn erbyn. Bydd angen mwyafrif llawer mwy a chymuned unoliaethol llawer gwanach/cyfforddus gyda'r syniad o Iwerddon unedig, i wireddu'r freuddwyd honno.


Mae'n wir bod y gyfradd geni wedi cynyddu'n ddiweddar, ac mae'n debyg mai Pabyddion sydd yn gyfrifol am hyn - ond fyddwn ni ddim yn siwr tan mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn cael ei gyhoeddi (neu tan mae'r babanod yn ddigon hen i fynd i'r ysgol). Mae'r gyfran o'r boblogaeth Babyddol sydd o oedran epilio wedi cynhyrchu mwy o blant na'r Protestaniaid ers cryn gyfnod bellach - er ei bod yn llai o ran maint na'r un Brotestanaidd. Bellach mae'n debyg bod y gyfran yma o'r boblogaeth yn fwy ymysg Pabyddion, ac mae felly'n dilyn bod cyfraddau geni'n codi.

Roedd rhywfaint o le i gredu ar ddiwedd y naw degau bod cyfradd geni Pabyddion yn syrthio yn gynt na'r un Brotestaniaid, ond nid yw'r rhagdybiaeth yma wedi ei wireddu. Gellir dangos hyn trwy gyfeirio at y graffiau hyn yr wyf wedi bod yn ddigon digywilydd i'w dwyn o'r blog arbennig o dda - Ulster's Doomed.







Mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn gwbl glir ynglyn a statws cyfansoddiadiol Gogledd Iwerddon. Pan mae'n ymddangos i'r Ysgrifennydd Gwladol Tros Ogledd Iwerddon bod mwyafrif yn ffafrio ail uno'r wlad, yna mae'n rheidrwydd arno i alw refferendwm. Mae 50% + 1 yn ddigon i wireddu'r penderfyniad. 'Does yna ddim opsiynau eraill megis ail leoli'r ffin, neu greu endid annibynnol.

'Rwan mae'r cwestiwn os y byddai mwy o Babyddion yn pleidleisio tros y status quo na sydd o Brotestaniaid yn pleidleisio tros Iwerddon unedig yn un da iawn. Mae polau piniwn yn tueddu i awgrymu bod lleiafrif sylweddol (efallai 25% neu fwy) o Babyddion o blaid y status quo - ond - ac mae'n ond mawr - dydi polau piniwn yng Ngogledd Iwerddon ddim yn ddibenadwy. Maent yn ddi eithriad yn gor gyfrifo nerth etholiadol y canol gwleidyddol, ac yn tan gyfrifo nerth yr eithafion.

Er enghraifft yr ymchwil mwyaf cyson ydi un y Northern Ireland Life & Times Survey. Mae'r ymchwil yma yn dangos bod lleiafrif sylweddol o Babyddion yng Ngogledd Iwerddon yn fodlon aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Ond - roedd yr ymchwil diweddaraf i gael ei gyhoeddi (2007) hefyd yn dangos mai 14% oedd cefnogaeth Sinn Fein. Cynhalwyd etholiadau Stormont y flwyddyn honno, ac roedd cefnogaeth SF tua dwywaith hynny. Mae hyn yn dan gyfrifo arwyddocaol iawn - llawer mwy felly na mewn unrhyw bol piniwn neu ymchwil Prydeinig neu Wyddelig arall. Mae'n rhesymol felly tybio bod gor gyfrifo sylweddol o Babyddion unoliaethol.

Mae yna fater arall y dylid ei ystyried hefyd - mae patrymau pleidleisio Gogledd Iwerddon yn cael eu gyrru gan ystyriaethau llwythol. Pan mae'r etholiad yn bwysig, mae'r pwysau llwythol i bleidleisio mewn ffordd arbennig yn cynyddu. Er enghraifft, roedd cred na allai'r ymprydiwr newyn, Bobby Sands ennill mewn is etholaeth yn etholaeth ymylol Fermanagh South Tyrone yn 1981 oherwydd na fyddai cyfran arwyddocaol o'r boblogaeth Babyddol yn fodlon pleidleisio i derfysgwr. Dyma'r canlyniad:

Bobby Sands (Anti-H-Block/Armagh Political Prisoner) 30,493 (51.2%)
Harry West (Ulster Unionist Party) 29,046 (49.8%)

Anti-H-Block/Armagh Political Prisoner majority: 1,446; electorate 72,283; spoilt votes: 3,280; votes cast: 86.9%

Mae cyfradd bleidleisio o 87% yn brin iawn ym Mhrydain, ac mae'r etholiad arbennig yma yn dysteb i rym y reddf lwythol mewn gwleidyddiaeth etholiadol yng Ngogledd Iwerddon.

Thursday, March 12, 2009

Pam na fydd y trais yn parhau yng Ngogledd Iwerddon (o ochr y Cenedlaetholwyr o leiaf)?

Mae Gogledd Iwerddon wedi bod yn y newyddion eto am y rhesymau anghywir gyda dau filwr a heddwas yn cael eu llofruddio. Ond ym marn blogmenai 'does yna ddim llawer o berygl i ni fynd yn ol i'r hen ddyddiau.



Mae nifer o resymau am hyn - 'does ganddyn nhw ddim y gefnogaeth na'r arweinyddiaeth oedd gan y Provos yn ystod eu rhyfel nhw. Ond mae yna reswm arall pwysicach o lawer hefyd, a gellir dod o hyd i hwnnw mewn lle anisgwyl iawn - yng nghyfrifiad blynyddol gwasanaeth ysgolion Gogledd Iwerddon.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i bwrpas y cyfraniad hwn ydi'r trydydd linc i lawr y dudalen - yr un sy'n manylu ar grefydd plant ysgol. Efallai y dyliwn betruso yma i nodi bod perthynas rhyfeddol o agos rhwng patrymau pleidleisio a chefndir crefyddol yng Ngogledd Iwerddon - mae mwyafrif llethol pobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar, tra bod Protestaniaid yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol.

Yn ol y cyfrifiad mae 40.7% o'r plant yn Brotestaniaid tra bod 50.9% yn Babyddion. Mae'r ganran o Babyddion yn uwch nag y bu erioed, tra bod y ganran o Brotestaniaid yn is nag y bu erioed. O edrych ar gyfrifiad 2001 mae'n deg casglu bod pob cohort blynyddol o bobl sy'n ieuengach na 30 gyda mwyafrif Pabyddol, ac mae'r mwyafrif hwnnw yn mynd yn fwy fel mae'r cohort yn mynd yn ieuengach. Ar y llaw arall mae tua dau dreuan o'r henoed yn Brotestaniaid.

Mae'r newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn y patrymau pleidleisio. Mae'r bwlch rhwng y ganran sy'n pleidleisio i'r pleidiau cenedlaetholgar a'r rhai unoliaethol yn is nag y buont erioed - ac mae'r bwlch yn cau yn gyson.

Mewn geiriau eraill mae'r angen i ymladd tros Iwerddon unedig yn cael ei erydu o flwyddyn i flwyddyn. Y cwbl sy'n rhaid i Genedlaetholwyr ei wneud ydi disgwyl.

Mae'r stori'n dra gwahanol i Unoliaethwyr a'r grwpiau terfysgol teyrngarol wrth gwrs - a 'dydi'r rheiny heb ddi arfogi eto.

Tuesday, March 10, 2009

Allai Llafur fynd o dan ugain yn yr Etholiad Cyffredinol?

Vaughan sy'n codi'r cwestiwn ar ei flog.

Ugain yn unig a enilliodd Llafur yn etholiad trychinebus 1983. Ymddengys nad ydynt wedi ennill llai na hynny ers oes yr arth a'r blaidd.

Awgrymu mae Vaughan y gallai'r Toriaid ennill Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Bro Morgannwg, Aberconwy, De a Dyffryn Clwyd, Delyn a Maldwyn i ychwanegu at y dair sydd ganddynt ar hyn o bryd. Oddi wrth y Lib Dems y byddai'r Toriaid yn cymryd Maldwyn wrth gwrs. 'Dwi ddim yn siwr pam nad yw'n ychwanegu Brycheiniog a Maesyfed felly - ond dyna fo - mater arall ydi hwnnw.

Yna mae'n cymryd y gallai Ynys Môn, Arfon, Dwyfor Meirionydd, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin, Llanelli, Canol Caerdydd, Brycheiniog a Maesyfed a Blaenau Gwent fod yn nwylo Plaid Cymru, Annibynnol neu'r Lib Dems - a dyna fo - mae Llafur i lawr i ugain.

Yna mae'n nodi bod Pen-y-bont, Gorllewin Caerdydd a Gorllewin Casnewydd), wedi syrthio i'r Ceidwadwyr yn y gorffennol a bod Plaid Cymru wedi ennill Rhondda ac Islwyn ar Cynulliad a bod mai prif darged y Democratiaid Rhyddfrydol yw Gorllewin Abertawe. Byddai colli rhai o'r rhain yn ogystal a'r seddi uchod yn wir yn torri'r record.

Hoffwn ychwanegu ambell i bosibilrwydd arall, ar egwyddor tipyn yn gwahanol - perfformiadau gwan gan Lafur yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007. Mae'n wir bod etholiadau Cynulliad a rhai San Steffan yn greaduriaid gwahanol - ond roedd Llafur yn gryfach yn y polau Prydeinig yn 07, ac mae etholiadau Cynulliad yn ffordd dda o weld gwendid. Gall gogwydd trwm yma gael ei adlewyrchu yn etholiadau San Steffan.

De Caerdydd a Phenarth - er mai hon ydi'r unig sedd yng Nghaerdydd nad yw erioed wedi syrthio i'r Toriaid - mae'r datblygiadau yn y Bae wedi newid natur cymdeithasegol yr etholaeth. Roedd perfformiad Llafur yn waeth yma nag yng Ngorllewin Caerdydd yn ystod etholiadau'r Cynulliad.

Gwyr - cymharol fach oedd mwyafrif Edwina Hart. 'Dydi 34.2% ddim yn berfformiad cryf.

Wrecsam - 'Dydi'r 29% a gafodd Llafur yn yr etholiadau Cynulliad ddim yn llenwi dyn efo hyder eu bod am wneud yn dda.

Dwyrain Casnewydd - Llai na thraean a gafodd Llafur yma - roeddynt yn hynod lwcus bod y bleidlais Doriaidd / Lib Dem wedi hollti'n gyfartal.

'Rwan 'dydw i ddim yn meddwl y bydd Llafur yn colli'r holl seddi yma - ac ni fyddant yn colli'r oll o'r rhai mae Vaughan yn eu henwi. Ond, mae mwy o seddi yn y fantol na sydd wedi bod ers y rhan gorau o ganrif.

Friday, March 06, 2009

Ydi Dicw'n byw yn yr un wlad a'r gweddill ohonom?

Wele'r map o Gymru gyda (am wn i) y rhannau o'r wlad sydd yn debygol yn ol politicshome i syrthio i'r Toriaid yn ol Barn. Gweler y cyfraniad diwethaf ar y blog hwn.



Yn anffodus nid yw'n bosibl i fap gwleidyddol Cymru edrych fel hyn ar ol yr etholiad cyffredinol oherwydd nad yw'n fap cywir o etholaethau Cymru.

Dyma'r map cywir:



Dydi'r map sydd yn Barn ddim yn cymryd i ystyriaeth bod ad drefnu sylweddol wedi digwydd yn y Gogledd Orllewin - Dydi Meirion Dwyfor nac Arfon ddim yn bodoli yn ol Dicw. Felly mae'r darn glas yn Aberconwy yn rhy fach o lawer. Am rhyw reswm nid yw Gorllewin Clwyd yn las o gwbl, er ei bod eisoes yn sedd Doriaidd. Mae dwy etholaeth yn Sir Benfro yn ol y map- ond mae De Penfro ar ei phen ei hun - sydd yn sicr ddim yn wir - dylai Gorllewin Caerfyrddin fod ynghlwm. Felly dylai'r darn glas ymestyn yr holl ffordd i dref Caerfyrddin. Mae De Clwyd yn ol yn nwylo Llafur - er gwaethaf darogan yr erthygl mai'r Toriaid sydd piau hi. Mae Llandudno fel petai'n saff yn nwylo Llafur.'Dwi'n siwr bod aml i gamgymeriad arall.

Beth bynnag, dyna fo, pwy ddiawl ydw i, i amau mapiau Dicw. Efallai mai fi sy'n byw mewn rhith Gymru, ac mai Dicw sy'n byw yn yr un go iawn.

ON - 'dwi'n gobeithio bod fy narllenwyr yn gwerthfawrogi fy mod yn mentro ennyn llid y Goron trwy ddod a'r map uchod i'w sylw.

Wednesday, March 04, 2009

Llwyddiant i'r Toriaid - newyddion da i Blaid Cymru?

Yn y rhifyn cyfredol o Barn mae Dicw'n ymdrin ag arolwg barn anferthol PoliticsHome fis Medi diwethaf o seddi ymylol tros y DU.

Os ydi'r arolwg hwnnw'n gywir, bydd map gwleidyddol Cymru'n cael ei drawsnewid wedi'r etholiad cyffredinol nesaf gyda Llafur yn cael eu sgubo o bron i pob sedd ag eithrio rhai'r cymoedd, a'r Toriaid gyda mwy o seddi na Llafur.

'Dwi ddim yn disgwyl i bethau fynd mor bell a hynny. 'Dwi'n ddigon hapus efo'r pwt o waith darogan y gwnes i yn ddiweddar.

Serch hynny, mi fydd yna newid arwyddocaol - sef y bydd nerth etholiadol Llafur wedi ei leihau'n sylweddol. Os erys y sefyllfa yna, ac os caiff ei gyfieithu i etholiadau'r Cynulliad (ac mae hynny'n sicr o ddigwydd i rhyw raddau neu'i gilydd) yna yn fy marn bach i bydd newid pell gyrhaeddol arall yng ngwleidyddiaeth Cymru, bydd Plaid Cymru mewn grym fwy neu lai yn barhaol.

Real politik gwleidyddiaeth y Pleidiau unoliaethol yn y Cynulliad ydi na all Llafur a'r Toriaid glymbleidio. Byddai hynny'n chwalu'r cyswllt rhwng gwleidyddiaeth Cymru ag un Prydain, a gallai fod yn farwol i'r achos unoliaethol yng Nghymru. Mae pob cyfuniad arall yn bosibl.

'Rwan, os ydi Llafur yn sylweddol wanach nag ydyw ar hyn o bryd, 'dydi'r cyfuniad Llafur / Dem Rhydd ddim am fod mor debygol o lawer iawn, iawn, oherwydd bod Plaid Cymru cymaint o flaen y Dem Rhydds ar lefel Cynulliad. Ond mae Llafur / PC yn bosibl, a Llaf / PC Dem Rhydd a PC / Tori a Tori / PC / Dem Rhydd.

Beth sy'n gyffredin rhwng yr holl gyfuniadau yna?

Ar lefel Cynulliad mae gan y Blaid fwy i'w ennill o wendid Llafur na neb arall - hyd yn oed os ydi'r Toriaid yn elwa mwy yn etholiadol o'r gwendid hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'r Blaid wedi dangos yn y gorffennol ei bod yn effeithiol iawn am ddwyn pleidleisiau Llafur mewn etholiadau Cynulliad.

Sunday, March 01, 2009

Cyngor Gwynedd, toriadau a gwleidydda cyfrifol

Mae Hen Rech Flin yn cwyno nad oedd fy nghyfraniad diwethaf i'r blog yn amddiffyniad da o benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau cartref henoed Bryn Llywelyn yn Llan Ffestiniog. Mae hynny'n ddigon gwir - beirniadaeth ar ymgais HRF i gysylltu'r penderfyniad a brad cenedlaethol oedd. Serch hynny, gan fod HRF yn codi'r peth, mi wnaf ychydig o sylwadau ynglyn a'r toriadau yn gyffredinol.

Wna i ddim trafod sefyllfa Bryn Llywelyn yn benodol - dydw i ddim yn gwybod digon am fanylion trafodaethau'r Cyngor Sir. Serch hynny 'dwi'n copio'r sylwadau a adawodd Dyfrig Jones ar flog Hen Rech Flin (heb ofyn ei ganiatad gyda llaw - 'dwi'n gwybod y bydd yn maddau i mi - mae wedi maddau llawer gwaeth yn y gorffennol.

Gyda phob parch, Alwyn, dwi ddim yn credu dy fod yn ymdrin a'r drafodaeth yma yn deg. Does neb yn awgrymu nad yw'r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig ar y funud ym Mryn Llewelyn yn wasanaeth da iawn. Ond rhaid ystyried addasrwydd yr adeilad, a'r math o ddarpariaeth fydd ei angen yn y dyfodol. Y gwir yw bod 'na 13 o w'lau yn Bryn Llewelyn, ac fe fydd y ddarpariaeth yna yn diflannu gyda chau'r cartref. Ond mae'r Cyngor yn adeiladu estyniad modern i gartref Bryn Blodau - sydd filltir i fyny'r ffordd - a fydd yn golygu ychwanegu 10 gwely at y ddarpariaeth bresennol. Ac fe fydd y 10 ystafell yma yn ystafelloedd wedi eu hadeiladu yn arbennig ar gyfer anghenion trigolion cartref henoed, yn hytrach na bod yn ystafelloedd mewn heb blasdy, wedi ei addasu ar gyfer defnydd gan yr henoed. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor yn codi 40 o dai gofal ychwanegol yn Blaenau, fydd - yn y dyfodol - yn cynnig cyfle i'r henoed dderbyn gofal proffesiynnol, ond o fewn cyd-destun lle maent yn dal eu gafael ar eu hannibynniaeth. Ac mae pob arolwg yn dangos mai dyna'r math o ofal y bydd pobl yn gofyn amdano yn y dyfodol.
O ran y staff, mae'r Cyngor wedi ei gwneud hi'n glir na fydd yr un aelod o staff yn cael ei ddi-swyddo, ac y bydd pob un yn cael cynnig swyddi gofal newydd. Felly fe fydd yr ymarfer da sydd i'w ganfod yn Bryn Llewelyn yn aros o fewn Gwynedd - a gobeithio yn aros ym Mlaenau, gan gyfrannu at y ddarpariaeth newydd sydd yn cael ei sefydlu.
Dwi'n gwybod y bydd y broses o symyd o Bryn Llewelyn yn un anodd i nifer o'r trigolion, a bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn gwneud popeth sydd yn bosib i leihau'r anghyfleustra. Ond erys y ffaith bod 'na broblemau sylfaenol gyda adeilad Bryn Llewelyn. Petai'r Cyngor wedi mabwysiadu gwelliant Linda Jones ddoe - a oedd yn galw am newid defnydd y cartref - fe fyddai gwaith sylweddol wedi gorfod cael ei wneud ar yr adeilad, ac yn ol pob tebyg, fe fyddai'r trigolion wedi gorfod gadael Bryn Llewelyn dros dro, beth bynnag.
Wrth gwrs, fyddai dim modd i ti wybod hyn oll o wrando ar y cyfryngau, gan mai dim ond ochr negyddol y stori sydd yn cael ei hadrodd. Ond y gwir yw bod Cyngor Gwynedd yn gwella y ddarpariaeth i'r henoed yn ardal Ffestiniog, ac yn sicrhau bod gan y fro arbennig honno ddarpariaeth sydd yn addas ar gyfer anghenion yr 21ain ganrif.


Wna i ddim ychwanegu at sylwadau Dyfrig - ag eithrio i nodi eu bod yn hynod gyflawn a thrylwyr. Mi ddyliwn i ychwanegu, er mwyn tegwch, bod Gwilym wedi tynnu fy sylw at ymateb ganddo ar flog arall i rhai o'r pwyntiau mae Dyfrig yn eu gwneud. Wna i ddim dyfynnu'r sylwadau yn llawn - mae'n ddigon cael Dyfrig yn dominyddu fy mlog, heb gael Gwilym yn gwneud hynny hefyd!

Eto, heb fynd i drafod sefyllfaoedd penodol, mi hoffwn wneud sylw neu ddau ynglyn a sefyllfa ariannol y Cyngor. Mae'r sefyllfa yn ymylu at fod yn argyfyngys - mae disgwyl i Gyngor Gwynedd dorri ar wariant eleni, y flwyddyn nesaf ac ym mhob blwyddyn y gallwn eu rhagweld. Nid yw hyn yn cael ei yrru gan benderfyniadau'r Cyngor ei hun - fe'i gyrrir gan y ffaith bod setliad ariannol y Cynulliad yn waeth nag oedd yn y gorffennol. Gyrrir hynny yn ei dro gan y ffaith bod yr adnoddau mae'r Cynulliad yn eu derbyn gan San Steffan yn eu tro yn cael eu lleihau. 'Dydi Cyngor Gwynedd ddim ar ei ben ei hun yn gorfod gwneud rhywbeth o'r picil yma - mae'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru mewn sefyllfa digon tebyg.


'Rwan, os ydi'r adnoddau sydd ar gael i gyngor yn cael eu tocio o flwyddyn i flwyddyn, nid yw'n bosibl cadw'r ddarpariaeth fel ag y mae, nag yn wir ei gynyddu. Petai cyngor yn dilyn trywydd felly byddai dau beth yn digwydd:

(1) Byddai ansawdd gwasanaethau yn dirywio'n fisol - ni fyddai yna adnoddau ar gael i'w cynnal ar yr un lefel a maent yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

(2) O fewn cyfnod o rai blynyddoedd byddai'n rhaid torri'n sylweddol ar wasanaethau - a byddai'r toriadau hynny'n digwydd mewn modd na ellid ei reoli'n hawdd - toriadau brys fyddent a fyddai'n cael eu gorfodi ar y Cyngor. O leiaf mae rheolaeth ar y toriadau presenol.

'Dydw i ddim yn dadlau bod pob toriad mewn gwasanaethau yn briodol wrth gwrs. Mae'n ddigon posibl bod rhai o'r dewisiadau yn rhai gwael o gymharu a thoriadau eraill posibl. Ond, nid yw'n bosibl dadlau - yn gyfrifol ac yn gall - na ddylid gwneud toriadau o gwbl.

Dyma'r cyd destun sy'n gwneud toriadau o rhyw fath yn anorfod. Mae Gwilym Euros yn ei flog yn gweld cyd destun arall pwysicach - cyd destun o ddiffygion moesol a phersonol ymysg y sawl sy'n pleidleisio tros y toriadau - maent yn griw o unigolion anghynes, diegwyddor, diasgwrn cefn a dan din. O - ac mae Dyfrig Jones yn goc oen hefyd. Mae testun cudd i hyn wrth gwrs - pan rydym yn dweud bod ein gwrthwynebwyr yn anfoesol, rydym hefyd yn awgrymu ein bod ni ein hunain yn foesol - felly mae Gwilym yn awgrymu ei fod o ei hun yn fynwesol, yn egwyddorol, yn ddewr ac yn onest. Digon posibl ei fod, 'dydw i ddim yn ei adnabod yn dda yn bersonol - ond 'dydi hynny ddim yn golygu nad oes pobl ar ochr arall y ddadl wleidyddol sydd a mymryn o hygrededd a moesoldeb yn perthyn iddynt hefyd.

'Rwan, y peth mwyaf caredig y gallaf ei ddweud am y math yma o beth ydi nad yw yn ffordd arbennig o soffistigedig o resymu'n wleidyddol. Mae dehongli gweithredoedd gwleidyddol gwrthwynebwyr yn nhermau eu hanfoesoldeb nhw yn nodwedd o wleidydda'r Dde eithafol. Er enghraifft, mae'r BNP yn hel pob sgandal ym mywydau personol eu gwrthwynebwyr ac yn eu cyhoeddi. Ceir ymysodiadau ar gymhellion personol tybiedig gwleidyddion yn hytrach na'u cymhellion gwleidyddol.

Dangoswyd y tueddiad hwn hefyd yn anffodus gan un neu ddau o ymgeiswyr Llais Gwynedd yn yr ymgyrch ar gyfer etholiadau lleol 2008, lle'r oedd rhai o'u gwrthwynebwyr yn cael eu diafoli.

'Dydw i ddim am eiliad yn awgrymu bod Gwilym na neb arall yn Llais Gwynedd yn rhannu gwleidyddiaeth y Dde eithafol wrth gwrs - i'r gwrthwyneb, 'dwi'n gwybod nad ydynt. Ond mae'r arfer o symleiddio gwleidyddiaeth i anterliwt lle ceir gornest rhwng daioni a drygioni yn nodwedd o wleidyddiaeth populist ('dwi ddim yn siwr o'r Gair Cymraeg yma mae gen i ofn).

Mae meddylfryd y traddodiad gwleidyddol yma yn dyladwadu ar Lais Gwynedd, mudiadau asgell Dde yn Ewrop a Phrydain, a rhai mudiadau y gellid eu disgrifio fel rhai adain Chwith yn Ne America. Yn wir roedd rhai elfennau ohono yn ymgyrchoedd John McCain a Barak Obama. Mae'r traddodiad yn ei hanfod yn un afresymegol, ac mae'n creu anhrefn gwleidyddol yn ei sgil.

'Rwan, mae'r blynyddoedd nesaf am fod yn rhai anodd i lywodraeth leol yng Ngwynedd, ac yng ngweddill Cymru - ac mae penderfyniadau anodd am orfod cael eu gwneud gan rhywun neu'i gilydd. Mae gwleidydda trwy honni bod cynrychiolwyr cyhoeddus cyfrifol, ymroddedig a chydwybodol yn cymryd penderfyniadau anodd oherwydd eu bod yn gywion Uffern yn llusgo gwleidyddiaeth Gwynedd i'r gwter - unwaith eto.