Tuesday, December 22, 2009
Pam bod Cameron yn mentro?
Felly mae'r ddadl fawr, neu'n hytrach y dadleuon mawr i fynd rhagddynt - rheiny rhwng dri o arweinyddion y prif bleidiau unoliaethol ym Mhrydain. Ymddengys nad oes yna neb arall yn cael cymryd rhan.
Mae nifer wedi gofyn pam y dylai Camero - sydd ar y blaen yn hawdd yn y polau gymryd y risg o roi ei droed ynddi a niweidio ei obeithion o ennill? Mae'r ateb yn ddigon syml yn y bon - mae'r polau piniwn sy'n dangos bod plaid Cameron ar y blaen hefyd yn dangos bod pleidlais y pleidiau amgen (cenedlaetholwyr Cymreig ac Albanaidd, UKIP, y Blaid Werdd ac ati) ar lefelau llawer uwch o lawer nag ydynt wedi bod yn y misoedd cyn etholiad cyffredinol erioed o'r blaen.
Bydd y tri sbloets fawr ar y teledu (bydd un dadl ar Sky, un ar ITV a'r llall ar y Bib) yn cael eu cynnal ar dirwedd gwleidyddol mae'r pleidiau mawr yn gyfforddus a fo, a bydd y materion sy'n bwysig i'r pleidiau amgen yn cael ei israddio neu ei anwybyddu'n llwyr. Bydd yr agenda etholiadol yn cael ei osod yn dwt lle mae'r prif bleidiau eisiau iddo fod - a hynny yn ystod yr ymgyrch.
Bydd hyn yn siwr o ddod chanrannau'r pleidiau amgen i lawr a bydd hynny'n siwtio Cameron i'r dim. Wedi'r cwbl mae unrhyw beth sy'n bygwth y status quo etholiadol yn cymaint o fygythiad tymor canolig a hir i'r Toriaid nag ydyw i Lafur a'r Lib Dems. Mae'r status quo yn gyfforddus i'r pleidiau mawr unoliaethol, ac maent yn fodlon gwneud yr hyn sydd ei angen i amddiffyn hwnnw. Gallent ddibynnu ar gefnogaeth lwyr y cyfryngau prif lif - wedi'r cwbl maent hwythau wedi bod, yn eu gwahanol ffyrdd, yn sugno o deth yr hwch sefydliadol ers degawdau.
Mae'r syniad yn wrth ddemocrataidd. Dylai'r pleidiau amgen herio'r penderfyniad yn y llysoedd, hyd yn oed os oes rhaid i rhai ohonynt (am resymau ariannol) ddal eu trwynau a gwneud hynny ar y cyd.
Cai: Ti wedi taro'r hoelen ar ei phen yn fan hyn. Mae'r dadleuon arfaethedig yn fwy na jest ymgais i ail-sefydlu monopoli syniadol y pleidiau mawr - maen nhw hefyd yn ymgais gan y darlledwyr mawr hwythau i ail-feddiannu'r agenda yn wyneb y bygythiad cynyddol oddiwrth y blogfyd sy'n brysur newid y rhyngwyneb rhwng gwleidyddiaeth, newyddion a barn yng Ngwledydd Prydain. Yr un yw'r gwas a'i feistr yn wir.
ReplyDeleteDwi'n poeni y gall y Prydaineiddio a'r drysu anorfod ynghylch pwerau a ddaw yn sgil y trafodaethau hyn niweidio'r achos cenedlaethol yng Nghymru nid jest yn yr etholiad cyffredinol ond hefyd y tu hwnt i hynny, yn y cyfnod yn arwain i fyny at refferendwm. Fel ti'n deud mi ddylai PC ystyried cais ar y cyd i'r llysoedd gyda'r pleidiau llai eraill. Ond dwi hefyd yn mawr obeithio fod gan Plaid Cymru cynllun B a Chynllun C os na fydd yr apel hwnnw'n llwyddiannus.Mae yna ormod yn y fantol i jest adael i'r coloneiddio meddyliol hyn ddigwydd yn ddi-brotest.
Ti'n gwbl gywir Aled, mi wneith hyn symud yr agenda yng Nghymru ar lwybr mwy Prydeinig am gyfnod - ac mi fydd hyn yn broblem o safbwynt refferendwm.
ReplyDeleteFe fyddwn yn frwd dros gael Ieuan Wyn yn rhan o'r drafodaeth.
ReplyDeleteYn wir, wn i ddim sut y byddai modd i gynnwys IWJ fod yn ddim byd ond llesol i'r ymgyrch Geidwadol yma yng Nghymru.
Guto: Da gweld dy fod ti'n cydnabod annigonolrwydd y trafodaethau fel ag y mae nhw ar hyn o bryd. Ond siawns mai Elfyn Llwyd( arweinydd seneddol PC) fyddai'n cynrychioli Plaid Cymru nid Ieuan Wyn Jones gan mai etholiad cyffredinol sydd dan sylw fan hyn? Fyddai hynny ddim mor llesol i achos y Toriaid yng Nghymru!!
ReplyDelete