Mae Kim yn gadael San Steffan ar ol etholiad 2010, ac felly'n gadael ymgeisyddiaeth Llafur yn sedd saff Pontypridd yn wag.
Mae'n rhaid bod Alun Puw yn dragwyddol ddiolchgar iddo am aros hyd iddo ennill ymgeisyddiaeth Llafur yn Arfon cyn gwneud y datganiad.
Cai, dwi yn un o'ch dilynwyr fyddlon ac yn hollol ddiymateb i'r post ddiwethaf, ar ol datganiad gareth thomas baswn ni yn licio gweld y blogosffer cymraeg yn ymateb i'r newyddion am g. thomas yn dod "allan". Mae hyn yn un o'r storion mwyaf pwysig ym maes LHDT cymraeg y ddegawd heb os ac oni bai, y ffaith bod chwarewyr rygbi (mor dylanwadol a uchel ei barch) gyda y ddewder i ddod allan yn syndod i mi(hydnod i ni sydd wedi gwybod am GT ers oesoedd maith), ac er i Nigel Owens ddod allan yn ddiweddar. Fydd o ddim yn syndod i mi os fydda hyn yn cael ei ysgubo o dan y carped gan y "media" cymreig. A ydych i yn cytuno a fi (fel cyd-cenedlaetholwr a aelod o PC) bod hyn yn siawns dda i ni taclo y homoffobia sydd dal i fodoli (yn anffodus) yn rhengoedd ol PC? Dwi ddim yn trio gwneud pwynt idealogol yma ond phwynt mwy pragmataidd i unioni bywyd modern hoyw a fywyd cefn gwlad (gwynedd yn enwedig). Diolch RH.
ReplyDeleteCai, dwi yn un o'ch dilynwyr fyddlon ac yn hollol ddiymateb i'r post ddiwethaf, ar ol datganiad gareth thomas baswn ni yn licio gweld y blogosffer cymraeg yn ymateb i'r newyddion am g. thomas yn dod "allan". Mae hyn yn un o'r storion mwyaf pwysig ym maes LHDT cymraeg y ddegawd heb os ac oni bai, y ffaith bod chwarewyr rygbi (mor dylanwadol a uchel ei barch) gyda y ddewder i ddod allan yn syndod i mi(hydnod i ni sydd wedi gwybod am GT ers oesoedd maith), ac er i Nigel Owens ddod allan yn ddiweddar. Fydd o ddim yn syndod i mi os fydda hyn yn cael ei ysgubo o dan y carped gan y "media" cymreig. A ydych i yn cytuno a fi (fel cyd-cenedlaetholwr a aelod o PC) bod hyn yn siawns dda i ni taclo y homoffobia sydd dal i fodoli (yn anffodus) yn rhengoedd ol PC? Dwi ddim yn trio gwneud pwynt idealogol yma ond phwynt mwy pragmataidd i unioni bywyd modern hoyw a fywyd cefn gwlad (gwynedd yn enwedig). Diolch RH.
ReplyDeleteDiolch Rhys
ReplyDeleteFel ti'n dweud fydd y newydd am Gareth Thomas ddim yn syndod mawr i lawer o bobl. Mi glywais i honiadau am rywioldeb Gareth gyntaf flynyddoedd maith yn ol tra'n gwylio gem rygbi roedd yn cymryd rhan ynddi.Go brin y byddai yna gwestiwn i chwaraewr rygbi hoyw fod yn agored am ei rywioldeb bryd hynny.
Mae'n galonogol bod pethau wedi newid erbyn heddiw, a bod pobl ym myd rygbi hyd yn oed yn dechrau teimlo eu bod yn gallu bod yn agored am eu rhywioldeb.
Fydda i ddim yn sgwennu'n aml iawn ar faterion 'cymdeithasol' ond efallai y byddai'n syniad i mi geisio gwneud hynny rhywbryd tros y gwyliau. Mae'r cyferbyniad rhwng agweddau trefol a gwledig at faterion cymdeithasol yn ddiddorol, ond yn un nad yw'n syml yn yr oes sydd ohoni chwaith.