Bydd rhai o'r mwyaf trist yn eich plith (y sawl sy'n dilyn y blogosffer tros y penwythnos) yn ymwybodol o'r sbat bach a fu ar y We rhwng Dyfrig Jones - awdur Blog Answyddogol a chynghorydd Plaid Cymru tros Gerlan a'r enwog Gwilym Euros, aelod o fwrdd rheoli Cyngor Gwynedd, aelod o Lais Gwynedd ac awdur y blog sy'n dwyn ei enw wrth gwrs.
I dorri stori hir yn fyr awgrymodd Dyfrig bod marc 'tebygrwydd i wella' mewn arolygiad diweddar ar Adran Addysg Cyngor Gwnedd wedi ei newid o 2 (da) i 3 (ddim cystal) o ganlyniad i sgwrs rhwng un o'r arolygwyr a chynghorydd. Cymrodd Gwilym ('dwi'n meddwl) mai cyfeiriad ato fo oedd yr honiad a chadarnhaodd ei fod wedi sgwrsio ar y ffon gydag arolygydd am ugain munud, ac wedyn aeth ati i droelli yn ei ddull arferol gan weld bai ar swyddogion, cynghorwyr eraill ac ati. Gellir gweld ochr Dyfrig yma, ac un Gwilym yma. I ychwanegu ychydig at y cymhlethdod wnaeth Dyfrig ddim nodi os mai'r gradd am gydadran o'r adroddiad ta'r adroddiad yn ei chyfanrwydd oedd wedi newid.
Rwan does gen i ddim o'r syniad lleiaf os ydi'r si a wyntyllwyd gan Dyfrig yn wir, er mae'n rhaid i mi nodi fy mod wedi ei chlywed o gyfeiriad arall. 'Dwi ddim yn siwr os ydi hi'n beth doeth i drafod adroddiad sydd heb ei chyhoeddi, a 'dwi reit siwr na fyddaf yn ei thrafod hyd yn oed wedi ei chyhoeddi. Ond mae cwestiwn diddorol yn codi - a fyddai'n bosibl i un cynghorydd newid gradd mewn arolygiad?. Mae rhai o'r cyfranwyr i'r drafodaeth ar flog Gwilym (pobl sy'n swnio fel petaent yn gwneud yr un gwaith a fi) yn dweud na fyddai hynny'n bosibl. Er bod 'llwyddo' i wneud y ffasiwn beth yn ymddangos yn 'gamp' rhyfeddol ar un olwg, dwi'n anghytunoefo'r farn honno.
Mae'n eithaf sicr na fyddai arolygydd sy'n arolygu ysgol yn caniatau i dystiolaeth gan (dyweder) riant i newid gradd oni bai y byddai'r hyn a ddywedwyd ganddo yn arwain at dystiolaeth pellach. Mae arolygiadau wedi eu seilio ar dystiolaeth, a dydi honiad ddim ynddi ei hun yn dystiolaeth.
Fodd bynnag mae arolygiad Awdurdod Addysg ychydig yn wahanol. Mae'n rhaid dod i ganfyddiadau ynglyn a sut mae pethau ar adeg yr arolygiad yn ogystal a'r tebygrwydd i bethau wella. Mae ymateb gwahanol bobl i ddehongliad yr arolygydd o sut y gellid gwella ynddo'i hun yn dystiolaeth. Petai'r arolygydd o'r farn bod rhan o'r weinyddiaeth sy'n rheoli'r cyngor yn wrthwynebus mewn egwyddor i'r newidiadau mae am eu gweld, yna mae'n ddigon posibl y gallai newid ei farn am pam mor debygol fyddai'r cyngor o wella, ac felly gallai newid y radd. Petai'n ystyried bod y sawl roedd yn siarad a fo yn cynrychioli cydadran arwyddocaol o'r glymblaid sy'n rheoli'r cyngor, yn hytrach nag yn siarad fel unigolyn, yna byddai ei dystiolaeth yn arwyddocaol - yn ddigon arwyddocaol i newid canfyddiad a gradd.
Mae'n ymddangos yn anheg y gallai sylwadau gan rywun sydd heb gymryd unrhyw ran o gwbl mewn paratoi at arolygiad or bwyso sylwadau pobl sydd wedi gweithio fel Gwyddelod am fisoedd i baratoi ar ei chyfer - ond yn anffodus mae hefyd yn gam cwbl resymegol i'r arolygydd ei chymryd.
'Dwi'n pwysleisio nad oes gen i unrhyw rewm i feddwl bod y si a gyfeirwyd ati gan Dyfrig yn wir, ond os ydi hi, dylai'r cynghorydd a gafodd y sgwrs efo'r arolygydd anghofio am unrhyw obeithion sydd ganddo i fod yn wr gwadd parti 'Dolig Adran Addysg Gwynedd eleni, nag yn wir yn ystod y mileniwm hwn. Na'r un nesaf.
Mae hefyd yn werth i mi ddweud y gallai'r stori uchod fod yn un darn arall o dystiolaeth i gefnogi dadl rwyf wedi ei gwneud sawl gwaith. 'Dydi 'system Bwrdd' Cyngor Gwynedd o rannu grym gyda phawb ddim yn ffit i bwrpas. Mae'n gweithio pan mae grwpiau'n cyd dynnu, ond dydi o ddim yn gweithio pan mae un neu fwy o'r grwpiau yn wrthnysig ac yn ystyried y cyngor yn gorfforiaethol yn 'elyn'.
I raddau mae ymateb Gwilym i Dyfrig yn dangos hyn yn eithaf da.
Mae'n son am 'gwestiynau treiddgar' (beth bynnag mae hynny'n ei olygu i Gwilym), ac mae'n briodol i gynghorydd wneud hynny os oes diffygion yn cael eu harolygu mewn adroddiad. Ond byddai cynghorydd sydd a'r Adran yn agos at ei galon yn gofyn y cwestiynau hynny yn y lle priodol, yn hytrach na son amdanynt mewn modd anelwig yn yr un gwynt ag ensyniadau cyfangwbl ddi dystiolaeth ynglyn ag arweinyddiaeth gwleidyddol a rheolaethol yr adran.
Dydi'r trefn Bwrdd ddim yn ffit i bwrpas.
Mae'r drafodaeth ynglyn a'r system Bwrdd yn un ddifyr. Mae gen innau fy amheuon, ond dwi'n tybio bod y rheini yn deillio o sefyllfa bresennol Gwynedd. Petawn i'n Gynghorydd Plaid Cymru yn Sir Gar, dwi'n tybio byddai fy safbwyt i'n wahanol iawn.
ReplyDeleteUn broblem yw y byddai symyd i system Gabinet yn hynod o drafferthus. Byddai'n rhaid cael cydsyniad Dr Brian Gibbons yn y Cynulliad, ac fe fyddai angen cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai'n para o leiaf blwyddyn. Fy marn bersonol yw bod gan Gyngor Gwynedd well pethau i'w trafod ar hyn o bryd.
Ond mae Cyngor Gwynedd yn dysfunctional ar hyn o bryd - a'r ffaith bod rhan o'r weinyddiaeth yn gweld y corff maent yn ei weinyddu fel gelyn ydi'r broblem. Mae'r bennod ddiweddaraf yn un esiampl ymysg hwda - mae saga'r cyflogau a saga'r toriadau (mwy am hyn maes o law) yn ddwy esiampl ddiweddar.
ReplyDeleteByddai'n werth y drafferth Dyfrig bach.
Hogia bach stopiwch falu awyr!!!...Darllenwch cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd 'da chi cyn siarad ar eich cyfer!
ReplyDeleteMae oleiaf 80% o materion yn hedfan drwyr Bwrdd bron gydag unfrydedd.
Methiant o ran y prif grwp i gyfaddawdu a chydweithio ar yr 20% arall sydd yn arwain at unrhyw ffwdan...tasem ni yn medru cytuno i anghytuno neu cyfarfod yn rhywle yn y canol o bryd i'w gilydd yna dwi ddim yn rhagweld problem...Trueni fyddai wedyn sa gennych chi o'ch dau ddim byd i'w drafod na fydda'?
Ar mater tipyn yn ysgafnach, gan ei bod hi'n agosau at tymor ewyllus da, be ydi'ch hoff gan Nadoligaidd chi? Os 'da chi'n hogia da, roi hi ar fy mlog cyn i Sion Corn gyrraedd fel offeren Nadolig i'r ddau ohonoch ;-))Ho!Ho!Ho!
'Dwi'n eithaf hoff o Tywysog Tangnefedd, Dafydd Iwan a dweud y gwir.
ReplyDeleteI was born on Christmas Day - St. Etienne (gyda Tim Burgess)
ReplyDeleteDyfrig - Tune!..ar y blog yfory...Cai, di fersiwn yna gan Defi John ddim ar YouTube..tria eto?
ReplyDeleteDydi hi ddim yn ymwneud efo 'Dolig yn benodol, ond mae'r amser yma yn un da i gofio am blant llai ffodus nag eraill mewn gwledydd llai ffodus na Chymru.
ReplyDeleteTria Luchin gan Victor Jara.