Wednesday, November 18, 2009

Cyfres Hywel Williams


'Dwi'n hoffi Hywel Williams (yr hanesydd yn yr achos hwn - er fy mod yn hoff o'r AS hefyd). Mae'n ddeallus, mae'n mynegi ei hun yn hynod effeithiol a 'does yna ddim arlliw o rai o ragrithiau'r traddodiad rhyddfrydig Cymreig ar ei gyfyl.

'Dwi wedi gweld y ddwy benod gyntaf o'i gyfres newydd ar S4C, ac mae gen i deimladau cymysg braidd. Thesis canolog y ddwy (ac mae'n debyg gen i mai mwy o'r un peth fyddwn yn ei gael am weddill y gyfres) ydi bod ein 'obsesiwn' cenedlaethol efo diwylliant a iaith yn llesteirio ar ein gallu i ddatblygu fel cenedl.

Edrych ar grefydd oedd y rhaglen ddiwethaf, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn dilyn y rhesymeg yn iawn. Ei ddadl oedd bod y ffaith bod anghydffurfiaeth wedi ei gysylltu mor agos at yr iaith ac un agwedd gul ar ddiwylliant gwleidyddol y wlad wedi arwain at ei dranc. Roedd yn cymharu hyn gyda ffawd yr Eglwys Babyddol yn Sbaen wedi iddi gysylltu ei hun yn rhy agos at unbeniaeth Franco. 'Dydi'r gymhariaeth ddim yn un briodol yn fy marn i - ac mae hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod Hywel yn ceisio gwneud defnydd amhriodol o syniad sydd a pheth gwirionedd iddo trwy hawlio ei fod yn fwy canolog nag ydyw mewn gwirionedd.

Mi fedra i dderbyn bod y ffaith bod iaith y capeli yn Gymraeg yn broblem mewn ardaloedd lle nad oedd yr iaith yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r un nesaf. Ond mae dirywiad bron mor sylweddol wedi bod mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei throsglwyddo'n effeithiol. 'Dwi wedi rhyw gynnig un rheswm am y dirywiad yma - sef bod anghydffurfiaeth Gymreig wedi colli ei threfn fewnol oherwydd bod y syniadaeth o ganiatau unigolion ddehongli'r Beibl ar ei liwt eu hunain yn aneffeithiol mewn Byd lle mae yna pob math o ddylanwadau diwylliannol amrywiol ar yr unigolion hynny. Mewn Byd cymhleth mae'n rhaid i grefydd fod yn ddidactic neu edwino. 'Dwi ddim yn credu i Hywel Williams ddod yn agos i ddangos bod ei thesis yn gywir mewn perthynas a chrefydd.

Mae gen i ychydig mwy o gydymdeimlad efo ei ddadl yn y rhaglen cyntaf - sef bod yr 'obsesiwn' ieithyddol / ddiwylliannol wedi atal cenedlaetholdeb Cymreig rhag datblygu a magu nerth. Mae'n sicr yn wir bod cyfaddawdu ar faterion diwylliannol gan y wladwriaeth Brydeinig wedi'n bodloni yn y gorffennol i raddau llawer mwy nag y dylent. Mae hefyd yn wir bod bodolaeth yr iaith wedi creu faultline mewn cymdeithas Gymreig sydd wedi cael ei defnyddio gan elfennau Prydeinig i atal y wlad rhag datblygu'n ddemocrataidd. Mi'r ydym fel Cymry Cymraeg yn llawer rhy barod i ddiffinio ein hunain yn nhermau'r iaith yr ydym yn ei siarad yn hytrach na'r genedl yr ydym yn perthyn iddi.

Ond mae ochr arall i'r geiniog yma. Mae cenedlaetholdeb cyfansoddiadol, sific yn llawer cryfach yn yr Iwerddon a'r Alban nag yw yng Nghymru, ac mae yna resymau am hynny sy'n ddim oll i wneud a'r iaith. Yn achos yr Alban roedd yna rai o'r strwythurau yr ydym yn eu cysylltu gyda gwladwriaethau yn bodoli trwy gydol eu hanes. Mae gwladwriaeth sydd a'i hamlinelliad wedi ei ddiffinio gan rai o nodweddion gwladwriaeth yn haws o lawer i uniaethu a hi nag un sydd heb llawer o strwythurau cenedlaethol.

Yn achos Iwerddon roedd ffactor arall bwysig - Pabyddiaeth y rhan fwyaf o'i phoblogaeth. Oherwydd hynny roedd llawer o Wyddelod wedi arfer edrych y tu hwnt i Loegr ac i dir mawr Ewrop am ganrifoedd. Roedd yn ddigon naturiol felly i Wyddelod gymryd at syniadaeth y Chwyldro Ffrengig wedi 1798 - a daeth y digwyddiadau hynny i ddylanwadu'n sylweddol ar natur eu cenedlaetholdeb. Roedd hefyd yn darparu syniadaeth ynglyn a gwladwriaeth y gellid ei dynnu oddi ar y peg (a benthyg idiom Saesneg). Roedd y Weriniaeth Wyddelig yn bodoli yng nghalon pobl oedd yn coleddu delfrydau un ffrwd o genedlaetholdeb Gwyddelig ymhell, bell cyn i'r Weriniaeth ddod i fodolaeth. Roedd syniadaeth eglur y Chwyldro Ffrengig yn ei diffinio ym meddyliau pobl.

'Dydi hyn oll erioed wedi bod ar gael i ni. Rydym ni wedi gorfod dod o hyd i bethau sydd ddim yn ymwneud a strwythurau cenedlaethol a sydd ddim yn ymwneud a syniadaeth ehangach nag un wedi ei gwreiddio yn ein Byd bach ein hunain. Dyma pam bod iaith a diwylliant mor bwysig i'n hunaniaeth cenedlaethol ni - doedd yna ddim llawer o ddim byd arall y gallwn gydio ynddo - roedd ein syniadaethau cenedlaethol ni wedi eu llygru gan syniadaethau ein cymydog agosaf - ac wedi ei hualu iddynt. Gyda llaw mae ein hymlyniad rhyfeddol i'r tim rygbi cenedlaethol hefyd yn deillio o'r ffaith nad ydym wedi bod a llawer o ffyrdd eraill o ddiffinio ein hunaniaeth.

Rwan, mae gan Hywel bwynt - mae pwysigrwydd iaith a diwylliant i ni yn gallu gwneud agweddau eraill ar fywyd cenedlaethol yn fwy cymhleth nag ydynt mewn gwledydd eraill. Mae'n gywir hefyd nad ydi cenedlaetholdeb Cymreig yn ddigon gwrthnysig, a'n bod ni fel pobl yn rhy barod o lawer i ymdoddi - i goleddu syniadaethau estron er mwyn cael bywydau haws. 'Dwi'n cytuno 100% bod rhaid i ni fagu ffurf ar genedlaetholdeb sydd yn ehangach o ran syniadaeth, sydd a'r syniad o wladwriaeth greiddiol iddo.

Ond mae iaith a diwylliant hefyd yn greiddiol i'r rhesymau pam bod ein hunaniaeth wedi goroesi. Doedd ein hamgylchiadau ddim yn caniatau i ni ddatblygu syniadaeth genedlaetholgar aeddfed am y rhan fwyaf o'n hanes - er bod pethau'n newid erbyn heddiw. Mae dadlau bod iaith a diwylliant yn llestair i bob agwedd o'n bywyd cenedlaethol (os mai dyna fydd yn ei ddadlau yng ngweddill y gyfres) yn achos o or symleiddio gan ddyn sy'n gwybod yn well.

3 comments:

  1. Dwi'n mwynhau'r gyfres ac hyd yn hyn, yn bersonol, yn cytuno gyda'r rhan fwyaf o'r hyn y mae'n ei ddweud.

    Dylem gofio, fodd bynnag, er bod gennym obsesiwn gyda'n hiaith a'n diwylliant (a dwi'n credu bod hynny'n beth teg i'w ddweud), diolch byth am hynny; heb yr obsesiwn hwnnw byddai'r ddau beth wedi hen fynd.

    ReplyDelete
  2. hefin mathias12:26 pm

    Rwyn cytuno yn fras â'ch sylwadau. Mae'r gyfres yn cynnig chwa o awyr iach. Dyma'r gyfres feddylgar gyntaf rydym wedi ei gael ers cyfres Gwyn Alff a Wynford Vaughan Thomas yn 1984- "When was Wales?", cyfnod o ryw 25 mlynedd!

    Mae angen ail-asesu hanes Cymru. Mae angen chwalu'r muthau sydd gennym fel cenedl - myth y werin, y myth mai'r 20fed gsnrif oedd oes aur y dosbarth gweithiol ac yn y blaen.

    Mae Williams yn cynnig darlun pryfoclyd. Rhaid cofio cyn cychwyn mai nid academic ydyw (fel Gwyn Alff). Newyddiadurwr adain dde ydyw; yn fwy na hynny, Tori adain dde eithaf ydyw. Ef, rwyn credu, oedd "press officer" John Redwood adeg ei ymgais seithug am arweinyddiaeth y Toriaid yn 1995. Felly, mae angen rhoi rhybudd doctor ar ei raglen.

    Ychydig o bwyntiau i ddechrau:
    1. Mae Cymraeg Williams yn go giami yn fy marn i- Cymraeg annaturiol a "stilted" ar y naw. Rwyn siwr y byddai rhaglen Saesneg ei chyfrwng ganddo yn goeth ac yn llifo megis mêl. Mae hyn ynddo'i hun yn dangos y math o ddosbarth canol sydd gennym yng Nghymru. Dyma fachgen a fagwyd yn fab i weinidog Cymraeg ac eto sydd a Saesneg yn iaith gyntaf iddo. Afraid iddo dderbyn ei addysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg, cyn i addysg cyfrwng Cymraeg ymddangos. Ond cwestiwn diddorol: a oes gennym unrhyw ddeallusyn sydd yn gynnyrch addysg Gymraeg a fyddai'n medru cynhyrchu rhaglen o'r un swmp ymenyddol ag un Williams?
    2. Crefydd:
    Rhaglen bigog ond hynod simplistig. Mae tranc crefydd yn faes sydd wedi ei ddiystyru gan haneswyr Cymru; (mae'r sefyllfa yn Lloegr lawn lawn cynddrwg;) ac eto hwn yw datblygiad hanesyddol pwysicaf hanes Cymru yn ystod cwrs yr 20fed ganrif. Mae dadansoddiad Williams yn simplistig ar y naw. Nid diwylliant a laddodd crefydd, ond, yn syml iawn, addysg seciwlar gwladol. Wedi'r cyfan, sail y system addysg yw amheuaeth, sgeptigaeth a'r dull gwyddonol o ddehongli; ac fe ddaeth i fodolaeth adeg y cyfryw gyfnod pan oedd gwyddoniaeth ar fin camu i'w gorseddfainc academaidd, sef chwarter ola'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. (dyma sydd Ymgais oedd rhyddfrydiaeth ddiwinyddol i bapuro dros y craciau a grewyd gan gynnydd gwyddoniaeth Ac wrth gwrs, mae hyn yn ffenomenon byd-eang.
    Economi a Dosbarth
    Diddorol. Ond eto rhyw led gyffwrdd a'r maes y mae. Fe ellid gofyn cwestiwn eithaf miniog: ydy'r Cymry Cymraeg yn perthyn i ddosbarth canol penodedig? A oes ffasiwn beth a dosbarth canol Cymreig? A ellid dadlau mai estyniad o Middle England yw'r "dosbarth canol Cymreig". Cwestiwn pellach: a oes ffasiwn beth ag economi Gymreig?
    Rwyf yn cytuno yn llwyr â'r gosodiad bod y Cymry Cymraeg yn ddiog oherwydd bod ein byd ni yn saff. Ond dydyn ni ddim hanner mor ddiog â dosbarth canol Lloeg; a dydyn ni ddim mor gul a mewnblyg â nhw ac yn sicr dydyn ni ddim mor snobyddlyd â nhw. Yr hyn sy'n od yw mai'r dosbarth canol Seisnig siwr o fod yw'r model dosbarth canol sydd gan Willians ar ein cyfer ni, gan ei fod yn troi yn eu plith nhw yn barhaol.
    Edrychaf ymlaen at weddill y gyfres. Gyda llaw, mae ganddo ddau lyfr penigamp yn Seaneg, y naill ar ddyddiau llywodraeth Major, "The Guilty Men", a'r llall "The Power Elites in Britain"

    ReplyDelete
  3. Diolch Hefin - mae yna llond trol o stwff i gnoi cil arno yna.

    ReplyDelete