Fel rydych wedi amau 'dwi'n siwr, 'dwi'n un mawr am y News of the World. Yn ol copi cyfredol y papur hwnnw mae brenhines Lloegr yn flin iawn oherwydd i'r BNP ddefnyddio llun o Churchill i hyrwyddo eu 'delwedd hiliol'.
Wel - mae'n amlwg fod Mrs Windsor yn iawn i boeni - wedi'r cwbl fyddai yna ddim un syniad hiliol neu 'wleidyddol anghywir' yn croesi meddwl y diweddar wladweinydd na fyddai?
Wel, un neu ddwy efallai - roedd Churchill o blaid gwneud y 'gwan eu meddwl' yn anffrwythlon a'u carcharu yn erbyn eu hewyllys - yn ei eiriau fo -
The unnatural and increasingly rapid growth of the Feeble-Minded and Insane classes, coupled as it is with a steady restriction among all the thrifty, energetic and superior stocks, constitutes a national and race danger which it is impossible to exaggerate
a
The improvement of the British breed is my aim in life
Doedd ganddo fo ddim llawer o gydymdeimlad efo Indiaid Cochion Gogledd America Chwaith.
I do not agree that the dog in a manger has the final right to the manger even though he may have lain there for a very long time. I do not admit that right. I do not admit for instance, that a great wrong has been done to the Red Indians of America or the black people of Australia. I do not admit that a wrong has been done to these people by the fact that a stronger race, a higher-grade race, a more worldly wise race to put it that way, has come in and taken their place.
Er nad oedd y dyn yn hoff iawn o dramorwyr, roedd ganddo ddiddordeb byw mewn nwy gwenwynig:
I do not understand this sqeamishness about the use of gas. I am strongly in favour of using poison gas against uncivilised tribes
Gyda llaw doedd hawliau merched ddim yn agos iawn at ei ei galon -
The women's suffrage movement is only the small edge of the wedge, if we allow women to vote it will mean the loss of social structure and the rise of every liberal cause under the sun. Women are well represented by their fathers, brothers, and husbands.
Rwan 'dwi'n gwybod bod rhywbeth yn anheg am farnu pobl o'r gorffennol am fod a gwerthoedd sy'n wrthyn yn y byd sydd ohoni - ond wir Dduw 'dydi hi ddim yn bosibl dadlau nad ydi hi'n briodol i ddefnyddio Churchill i hyrwyddo 'delwedd hiliol'.
Roedd hiliaeth y dyn yn ddigon i wneud i hyd yn oed y BNP wrido.
Mae'r dyfyniad ynglyn a nwy gwenwynig yn gwbl gyfeiliornus. Os y darlleni di'r llythyr gwreiddiol, mae Churchill yn cyfeirio yn benodol at "Lachrymose Gas" - h.y. Tear Gas. Nid son am ddefnyddio nwy gwenwynig oedd Churchill yn y fan hyn, ond am ddefnyddio nwy anwenwynig.
ReplyDeleteWC - I do not understand this squeamishness about the use of gas. We have definitely adopted the position at the Peace Conference of arguing in favour of the retention of gas as a permanent method of warfare. It is sheer affectation to lacerate a man with the poisonous fragment of a bursting shell and to boggle at making his eyes water by means of lachrymatory gas.
ReplyDeleteI am strongly in favour of using poisoned gas against uncivilised tribes. The moral effect should be so good that the loss of life should be reduced to a minimum. It is not necessary to use only the most deadly gasses: gasses can be used which cause great inconvenience and would spread a lively terror and yet would leave no serious permanent effects on most of those affected.
Yn anffodus, dim syndod i fi ydy'r sylwadau hyn. Dyn ceidwadol ei amser ydoedd, yn hiliol go iawn. Dwi'n dal i werthfawrogi ei gyfraniad yn y brwydr yn erbyn y Natsiaid, fel "y dyn cywir ar yr amser cywir," ond mewn gwirionedd, fe ddylen ni gwestiynu ei le fel "prif arwr" gwledydd Prydain yr 20ed ganrif.
ReplyDeletePan glywais sylwadau y BNP amdano, roeddwn i'n meddwl fod Nick Griffin yn rhannol gywir am athroniaeth Churchill. Efallai na fyddai'n ymuno â'r BNP, ond roedd ei ideoleg yn mor hiliol â hwnnw y blaid ffasistaidd hon. Ach y fi!
Everything is very open with a really clear clarification
ReplyDeleteof the issues. It was truly informative. Your site is extremely helpful.
Many thanks for sharing!
Also visit my web site - where can I find a total gym coupon
Hi my loved one! I want to say that this post is awesome,
ReplyDeletegreat written and come with almost all vital infos.
I would like to see more posts like this .
Check out my web-site Full Piece of writing