Monday, September 28, 2009
Pam bod y Toriaid yn gwneud mor sal?
Mae fy nhafod hanner yn fy moch wrth ofyn y cwestiwn - wedi'r cwbl mae Llafur mewn cyflwr enbyd, ac mae'r Toriaid mor sicr ag y gallant fod o ennill yr etholiad cyffredinol.
Ond - ag ystyried mor isel ydi canrannau Llafur - 'dydi rhai'r Toriaid ddim yn arbennig o iach. Tros y dyddiau diwethaf cafwyd sawl pol sy'n rhoi y Toriaid ar 40% neu lai. Gweler yma, yma, neu yma er enghraifft. 'Rwan 'dwi'n gwybod ei bod yn dymor cynhadleddau gwleidyddol, ond mae'r canrannau yma'n dal yn isel mewn cyd destun hanesyddol. Yr unig etholiadau cyffredinol lle cafwyd canrannau is yn y cyfnod diweddar oedd y rhai wedi trychineb 97, etholiad cyntaf 74 a thrychineb 45 ('dwi'n gweithio o fy nghof yma - efallai y bydd Guto yn fy nghywiro - ond dydw i ddim ymhell iawn o fy lle). Collodd y Toriaid pob un o'r etholiadau hynny.
Gwnaed llawer o 'fuddugoliaeth' y Toriaid yn etholiadau Ewrop yng Nghymru, ac roedd yn wir yn ganlyniad arwyddocaol. Ond - 'dydi 21% ddim yn ganran uchel i'r Toriaid yng Nghymru os ydym yn edrych yn ol tros y ganrif ddiwethaf.
Mae'r Toriaid yn debygol o ennill etholiad cyffredinol o filltir gyda chanran sy'n isel wrth safonau'r ganrif ddiwethaf - beth sydd yn mynd ymlaen?
Rhan o'r ateb ydi bod y defnydd o gyfundrefnau cyfrannol (PR) o bleidleisio mewn rhai mathau o etholiadau (Ewrop, Cynulliad, etholiadau lleol yn yr Alban) wedi cryfhau pleidiau a arferai fod yn ymylol yn yr etholiadau hynny, a bod hynny'n effeithio ar batrymau pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol.
A dyna pam bod newid y gyfundrefn bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol yn bwysig. Mae'r system bresenol yn arwain at sefyllfa lle'n bod yn cael ein rheoli'n ddi eithriad gan un o ddwy blaid sy'n chwerthinllyd o debyg i'w gilydd.
Mae'r llanast economaidd ym Mhrydain yn waeth nag yw yn y rhan fwyaf o lefydd eraill (os nad ydych yn fy nghredu, gofynwch i chi'ch hun pam bod gwerth y bunt wedi syrthio cymaint o gymharu a phob cyfundrefn ariannol hanner call arall). Rhan o'r rheswm am hyn ydi bod gennym lywodraeth sydd yn credu bod y sawl sy'n rhedeg banciau yn ymgorfforiadau o Dduwioldeb, ac na ddylid gwneud dim i reoli eu gweithdrefnnau. Mae'r gred yma'n union fel yr un mae plaid Cameron wedi ei harddel trwy'r degawdau. Mae hefyd yn gred ddagreuol o wirion.
Mae'r drefn bresenol - First Past the Post (FPTP) wedi creu cyfundrefn wleidyddol sy'n rhoi dewis i'r etholwr o faw ci neu faw cath. Mae'n bryd symud i drefn gyfrannol ym mhob etholiad - gan gynnwys rhai San Steffan.
Mae hyn i'w wneud a'r ysbryd gwrth-bleidiol, gwrth-wleidyddion sydd mor amlwg heddiw.Er cymaint yr awydd i weld Llafur newydd yn cael eu chwalu'n llwyr yn yr etholiad, mae yna bryderon hefyd am weld y Toriaid yn cael eu dychwelyd hefo mwyafrif mawr, a dyna pam dwi'n meddwl y gwelan ni bleidleisio tactegol eitha sylweddol yn digwydd i geisio cadw rhywfaint o gymantoleddd gwleidyddol yn y sefyllfa sydd ohoni. Wrth gwrs, fel ti'n deud, pe bai system gyfrannol iawn ar waith byddai pethau llawer haws! Yn bersonol, mi hoffwn i weld Cymru yn arwain y blaen hefo hyn a chyflwyno system bleidleisio STV. Byddai hyn yn rhoi mwy o rym a mwy o ddewis i etholwyr wrth ethol eu cynrychiolwyr gwleidyddol, ac fe allai annog mwy o ymgeiswyr annibynnol i sefyll fyddai hefyd yn llesol i ddatblygiad democratiaeth yng Nghymru.
ReplyDelete"Mor sal" ???
ReplyDeleteY polau piniwn diweddaraf -
Ceidwadol Llafur Dem Rhydd
38 23 23
40 25 22
40 26 23
Yn dangos y Ceidwadwyr o flaen Llafur gan o leiaf 14 pwynt. Dydy Plaid Cymru ddim yn ymddangos yn y ffigyrau yma, wrth gwrs!!!
Dydy dy ganlyniadau pôl ddim yn dangos y darlun yn llawn. Ym 1997 fe enillodd y Ceidwadwyr 161 mil o bleidleisiau a chawsant eu sgubo oddi ar fap etholiadol Cymru. Yn 2009 fe enillodd y Ceidwadwyr 18 o etholaethau Cymru gydag 15 mil yn llai o bleidleisiau. Y mae Cai yn llygad ei le mae'r Ceidwadwyr yn gwneud yn wael uffernol. Prin yw'r rhai sydd yn troi at y blaid o bleidiau eraill, prin yw'r rhai a chafodd eu dadrithio ac aros adref ym 1997 sydd wedi troi yn ôl at y blaid. Y gwir trist i'r achos democrataidd yw bod y Blaid Geidwadol am enill ar ganlyniad andros o wael oherwydd bod y Blaid Lafur am wneud yn waelach.
ReplyDelete