Tuesday, September 22, 2009

Carchar Caernarfon

O wel, dyna'r cyfle prin os nad unigryw yna i greu saith gant o swyddi yng Ngogledd Orllewin Cymru wedi mynd.

Oes yna unrhyw un yn deall pam?

Ymddengys nad ydi'r safle yn addas. Roedd o'n addas ychydig fisoedd yn ol - 'dydi'r safle heb newid yn ystod yr amser hwnnw - felly beth yn union sydd wedi newid oni bai am y gweinidog sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad?

2 comments:

  1. Dim byd llai na sgandal! Angen atebion i lawer iawn o gwestiynau...newyddion drwg i Gaernarfon, newyddion drwg i Wynedd a newyddion drwg i garcharorion Cymraeg o fewn y system gyfiawnder.

    ReplyDelete
  2. Guto Bebb11:04 pm

    Ydi, mae'r newyddion yn siom ond syndod? Yn ol un datblygwr y bu i mi weithio gyda hwy yn ddiweddar fe fyddai costau gwaredu'r tir yn £30m. Ai bwriad cyllideb Adran Cyfiawnder y Llywodraeth ydi gwaredu tir 'ta codi carchar?

    Yr hyn sydd wedi newid ers Chwefror yw'r angen i leihau cyllidebau adrannau llywodraeth o 9% a hynny o dderbyn ffigyrau Llafur. Mewn sefyllfa o'r fath tydi ychwanegu £30m at gostau carchar ddim yn synhwyrol yng ngolwg cyfrifyddion San Steffan.

    Efallai hefyd fod diffyg seddi Llafur yn yr ardal wedi cyfrannu at y diffyg brwdfrydedd. Ai Alun a Dyfrdwy neu Delyn fydd y dewis newydd?

    Serch hynny, newyddion drwg a siomedig o ran yr egwyddor o garchar yn y gogledd ar angen am swyddi yng ngogledd Cymru.

    ReplyDelete