Friday, August 07, 2009
Llwyddiant yr Eisteddfod
'Dwi wedi clywed llawer tros y blynyddoedd yn rhyfeddu at lwyddiant tymor hir yr Eisteddfod Genedlaethol - ac erbyn meddwl mae'n beth rhyfeddol i gymuned gymharol fechan (hy y Gymru Gymraeg) lwyddo i gynnal gwyl fawr iawn yn llwyddiannus flwyddyn ar ol blwyddyn - ac yn llwyddo i ddenu canran mor uchel o'i haelodau ei hun.
'Dydw i fawr o 'Steddfodwr mae gen i ofn - ond mi fyddaf yn gwneud pwynt o fynd am ddiwrnod o leiaf pob blwyddyn. 'Dwi byth bron yn mynd i mewn i'r Pafiliwn - oni bai bod y ferch yn dawnsio yno - mae'n hoffi dawnsio disgo. Mi fyddaf yn rhoi fy mhen yn y stondinau, ond fawr mwy - anaml y byddaf yn prynu llawer.
Yr unig reswm 'dwi'n mynd ydi oherwydd ei fod yn gyfle i gyfarfod a phobl 'dwi wedi hen golli cysylltiad a nhw, ond oedd yn rhan o fy mywyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar rhyw amser neu'i gilydd yn y gorffennol. 'Dwi'n rhyw feddwl bod llawer o bobl eraill yn mynd am yr un rheswm.
Petai'r gymuned sy'n siarad Cymraeg yn llawer mwy - yn bum miliwn efallai, yn hytrach nag yn hanner miliwn, mae'n debyg na fyddai rhywun yn gweld ei gydnabod yn aml ar y maes - mi fyddai'r 'pwll' o bobl yn rhy fawr. Petai'n llai o lawer - yn hanner can mil efallai, ni fyddai angen digwyddiad blynyddol i gadw pobl at ei gilydd - byddai gennym lai o lawer o bobl yr ydym yn eu hadnabod sy'n siarad yr iaith.
'Dwi'n siwr bod sawl rheswm am lwyddiant y brifwyl - traddodiad, trefniadaeth ac ati - ond tybed os mai un o'r rhesymau hynny ydi bod y Gymry Gymraeg yn ddigon mawr - ond heb fod yn rhy fawr - i roi'r cymhelliad pwerus i bobl fynd - sef eu bod yn debygol o weld llawer o bobl na fyddant byth yn eu gweld onibai am y 'Steddfod.
Wi'n cytuno'n llwyr. Mae'r un peth yn wir am y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Dyna un o'r uchafbwyntiau i fi - sef gweld Cymry Cymraeg dw i heb eu gweld ers blynydde.
ReplyDelete