Saturday, July 18, 2009

Problemau technegol?

Mi es i allan i Dre heno, a chael syndod o ddeall cymaint o bobl sydd yn cael trafferth i 'weld' blogmenai.

Mae'n ymddangos bod pobl sy'n defnyddio Explorer fel porwr yn cael bod y blog yn diffodd ei hun ychydig eiliadau wedi iddynt gael mynediad.

'Dwi'n teimlo ychydig fel y cadeirydd hwnnw yr ydym oll yn ei adnabod sy'n gofyn yn Gymraeg ar gychwyn cyfarfod pwy sydd angen offer cyfeithu yn dweud hyn - ond os ydych yn cael anhawster, defnyddiwch borwr ag eithrio Explorer.

Mi geisiaf gael rhywun sy'n deall y pethau 'ma yn well na fi i edrych ar bethau tros y dyddiau nesaf.

2 comments:

  1. mae hynny'n od...mae rhai pobol yn cael trafferth i weld fy mlog i hefyd...dwi'n gallu darllen un ti a HRF yn hollol iawn ar fy PC ond ddim ar y gliniadur.
    Mae angen teci i ddweud wrthai be ydi'r broblem.

    ReplyDelete
  2. 'Dwi'n meddwl mai problem efo Explorer ydi gwraidd y peth - mi geith yr hogyn acw gip ar bethau wedi iddo ddod adref o'i wyliau 'fory. Mae o'n deall y pethau 'ma'n well na fi.

    ReplyDelete