Friday, May 15, 2009

Pwy fydd yn ail yn yr etholiadau Ewropiaidd tros Brydain?

Ymddengys bod pol diweddar (Prydeinig)yn rhoi UKIP, y Lib Dems a Llafur ar 19% yn etholiadau Ewrop. I mi mae hyn yn awgrymu'n gryf mai'r Lib Dems fydd yn ail ar lefel Prydeinig. Dyma pam:

Mae gan Lafur hanes o berfformio'n sal mewn etholiadau Ewrop. Er enghraifft roedd y polau (am etholiadau San Steffan), yn awgrymu bod Llafur ar 36% yn 2004. 22% oedd eu pleidlais yn etholiadau Ewrop. Mae hyn yn awgrymu'n gryf i mi y bydd pleidlais Llafur yn sylweddol is na 20% - efallai y bydd yn is na 15%. Byddai hyn yn drychineb etholiadol ar raddfa epig a hanesyddol.

Problem wahanol iawn sydd gan UKIP - problem y syndrome Sinn Fein. Mae polau piniwn yng Ngogledd Iwerddon yn enwog am fod yn gyson anghywir. Mae bron i bob pol yn y Gogledd yn rhoi'r SDLP o flaen Sinn Fein - ond pan mae diwrnod yr etholiad yn dod a phan mae bocsus Gorllewin a Gogledd Belfast a phentrefi a man drefi Tyrone, Fermanagh ac Armagh yn cael eu gwagio mae pleidlais y Shinners yn sylweddol uwch nag un y Stoops.

Mae'r rheswm am hyn yn eithaf amlwg. 'Dydi pobl ddim yn hoffi dweud eu bod yn cefnogi plaid sydd yn cael ei hystyried yn gwbl esgymyn gan y cyfryngau torfol, ond pan maent ar eu pennau eu hunain yn y bwth pleidleisio efo dim gyda nhw ag eithrio eu cydwybod eu hunain, 'dydi barn y sefydliad cyfrygol ddim yn cyfri am ffeuen. Yn yr un ffordd 'dydi pobl ddim am ddweud wrth ddieithryn ar y ffon eu bod yn cefnogi'r BNP - felly maent yn honni eu bod yn cefnogi'r blaid Adain Dde, wrth sefydliadol mwy parchus. Byddwn yn fodlon betio y bydd y BNP yn cael pleidlais uwch o lawer na'r 3% mae'r polau yn ei roi iddynt - ac y bydd UKIP yn caelcael llai nag 19%.

Yn anffodus bydd yn etholiad Ewrop 2009 yn un dda i'r BNP.

No comments:

Post a Comment