Monday, April 20, 2009

Brysia i wella Rhys

'Dwi'n deall bod yr ymgeisydd Llafur gwrth Gymreig tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhys Williams wedi rhoi'r gorau i'w ymgeisyddiaeth oherwydd stress.



Rydym eisoes wedi trafod anturiaethau Rhys sawl gwaith ar y blog hwn. Yma er enghraifft.

'Dwi'n siwr y bydd darllenwyr blogmenai yn ymuno efo mi i ddymuno gwellad buan iddo. 'Dwi'n siwr y bydd darllenwyr y blog hefyd yn gobeithio y bydd bellach yn cael yr hamdden i ddechrau mynd i'r afael efo'r problemau hynny sy'n ei yrru i'r tir afresymegol a hysteraidd o gasau grwpiau mawr o bobl yn eu cyfanrwydd, fel Mr Eugine Terra Blanche.

7 comments:

  1. Gwelais i'e gneuan yn 'Canton Health Food Store, rhai wythnosau'n ôl (Treganna'n le od i rhywun ymweld os ydynt yn casau Cymry Cymraeg).

    Aeth at y silff a nol potel o dabledi, cyn troi at fy ngwraig a dweud "I've forgotten why I started taking these!".

    Wedi i ni adael y siop esboniais i'm gwraig pwy oedd o a son am ei erthygl diweddar. "I thought he was a bit odd" meddai fy ngwraig!

    ReplyDelete
  2. Anonymous11:00 am

    o dere wir. eugene terre-blanche?

    ReplyDelete
  3. Fyswn i ddim yn gweud bo fe'n wrth-Gymraeg. Wi wedi glwad e lot ar Radio Cymru - jwst twp yw e

    ReplyDelete
  4. Cer i grafu - fo sy'n honni ei fod yn casau'r Cymry Cymraeg - 'dwi'n awgrymu ei fod felly'n pledio'n euog i'r cyhuddiad o fod yn wrth Gymreig.

    ReplyDelete
  5. Anonymous8:14 pm

    Rwy'n cytuno gyda Cer i grafu....twp yw e! Mae e'n Gymro Cymraeg ei hun!!

    ReplyDelete
  6. Roedd Caradog Evans yn Gymro hefyd.

    ReplyDelete
  7. Yn ol blog Adam Price, cyn aelod o Blaid Cymru oedd e. Ma'r boi jwst yn dwp ac yn siarad nonsens - ma'n ffilu help e!

    Alun Davies ar y llaw arall - cyn aelod arall o Blaid Cymru - dyw e ddim yn wrth Gymraeg chwaith ond ma fe jwst yn horrible - no redeeming features!!

    ReplyDelete