Bydd datganiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma ynglyn a lleoliad carchar newydd i Gymru.
Gall blogmenai ddatgelu (cyn yr asiantaethau newyddion swyddogol) mai yng Nghaernarfon y bydd y datblygiad newydd.
Bydd yn dod a llawer o swyddi o ansawdd lled uchel i'r ardal. Bydd hefyd yn fater cynhenus yn wleidyddol.
Rydym yn byw mewn amseroedd diddorol.
Os y mae wir angen carchar yng Ngogledd Cymru, a oes lle mwy priodol i'w leoli nag wrth y Cofis?
ReplyDelete(jôôôc! - mae'n newyddion da i'r ardal dwi'n meddwl)
Mae'r adeilad Llys y Goron anferth newydd wedi ei leoli tafliad carreg (yn llythrennol) o stad Maes Barcer.
ReplyDeleteNewyddion gwych,swyddi da i bobol leol a ddaw a miliynnau i'r economi dros ardal eang!
ReplyDeleteOes angen gofyn aelodau pa blaid ar fwrdd cyngor Gwynedd bleidleisiodd yn erbyn y cynllun?
Ia, cywir mae lwnatics Llais Gwynedd ar flaen y gad unwaith eto!
Rheswm-nid yw wedi ei leoli ym Mlaenau,wedyn dydyn nhw im isho fo'n unlle yng Ngwynedd