Fyddwn i ddim yn betio gormod ar etholiad eleni. Yn ol pol piniwn Ipsos Mori sydd i'w gyhoeddi fory mae'r Toriaid ar 44%, Llafur ar 30% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 17%. Golyga hyn i Lafur syrthio 5% i'r Toriaid godi 5% a'r Democratiaid Rhyddfrydol i godi 2% mewn mis.
Daw hyn ddyddiau wedi dau bol arall Com Res a You Gov sy'n dweud stori digon tebyg. 'Dydi Llafur ddim yn ol ym mhydew'r haf eto - pe bai etholiad wedi ei gynnal bryd hynny byddant wedi eu gadael gyda llai o seddi nag unrhyw etholiad ers dau ddegau'r ganrif ddiwethaf - ond maent ar y ffordd yn ol.
'Dydi tyrcwn byth yn dewis 'Dolig cynnar, ac ni fydd Brown yn mynd at yr etholwyr tan bod rhaid iddo.
Dwi'n cydweld gant y cant a dydy sefyllfa Llafur ddim yn mynd i wella yn y polau piniwn ar ol y fiasco ariannol ddoe. Mae pobol wedi sylweddoli fod yr hen Gordon ddim cystal am reolaeth ariannol ac roedda nhw'n meddwl. Hefyd mae Ken Clarke yn ol yn yr wrthblaid...big hitter go iawn ag achosi lot o broblemau i'r llywodraeth.
ReplyDelete