Saturday, January 24, 2009

Deddf Iaith Newydd - nid oes ond ei hangen oherwydd ein difaterwch ni

Mae manylion yr hyn mae llywodraeth y Cynulliad am ei weld yn y Ddeddf Iaith newydd wedi eu cyhoeddi ddoe. Mae'n ddiddorol oherwydd ei fod yn gryfach na'r hyn a ddisgwylwyd gan lawer. O'i weithredu yn ei gyfanrwydd (ac efallai na fydd hynny'n digwydd erbyn diwedd y broses) byddai'n anghyfreithiol i gwmniau telegyfathrebu, ynni ac efallai'r arch farchnadoedd i beidio darparu rhyw lun ar wasanaeth ddwyieithog. Byddai'r un gofynion ar y sector gyhoeddus wrth gwrs.

Nid yw hyn wrth fodd y CBI - maent yn cwyno'n groch bod treueniaid megis Vodaphone am orfod dod o hyd i'r pres i gynnal llinell gymorth Gymraeg a hithau mor ddrwg o fusnesau. Gwerth Vodaphone ar y farchnad stoc ydi £1,677,000,000.

Yn amlwg mae'n ddigon rhesymol rhoi gorfodaeth ar y cwmniau gwirioneddol anferth yma roi cydnabyddiaeth i'r Gymraeg - ond mae gan CBI un pwynt dilys. Maent yn dadlau y byddai mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn cael ei ddarparu petai mwy o alw amdano, a bod y galw hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd mae pobl yn siopa a masnachu. Mae hyn yn wir.

'Dydw i erioed wedi gweld ffigyrau, ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf bod y darpariaeth cwmniau megis Dwr Cymru neu BT yn uwch na'r galw. Felly hefyd y rhan fwyaf o'r sector gyhoeddus. Pe byddai defnydd mynych yn cael ei wneud o'r hyn sydd ar gael, byddai cwmniau eraill yn ymateb ac yn datblygu eu darpariaeth.

Tra'n croesawu'r Ddeddf - mae'n drist nodi nad oes ond ei hangen am nad ydym ni'r Cymry Cymraeg yn creu galw ein hunain yn ein masnachu pob dydd.

12 comments:

  1. "Y Gymraeg ym Mhopeth a Phopeth yn Gymraeg" oedd slogan Cymdeithas yr Iaith slawer dydd, a slogan da iawn hefyd.

    Ychydig yn ôl roedd gan Ifor ap Glyn raglen; "Popeth yn Gymraeg". Nid oedd yn thaglen berffaith bob tro, ond roedd y syniad yn un da.

    Pe tasai'r Cymry Cymraeg yn gwneud un peth syml, fyddai'r iaith ddim yn marw. A'r peth syml hwnnw yw:

    defnyddio'r Gymraeg

    bob dydd ym mhob man gyda phob un


    yn enwedig yn y "Fro Gymraeg".

    Sawl tro buoch chi mewn bar yng Nghaernarfon neu Bwllheli (neu Gaerfyrddin neu Gil-y-cwm) oedd yn llawn o Gymry Cymraeg, ac yn mynd at y bar a gofyn am eich cwrw yn Saesneg? Pam!? Tasai pump neu chwech o bobl yn mynnu defnyddio'r Gymraeg i brynu eu chwerw neu eu gwin coch byddai'r gweinydd yn dysgu geirfa wap.

    A'r un rhesymeg sydd y tu ôl i un rhan bwysig iawn o'r ateb i sefyllfa ddifrifol wael yr iaith yng Nghymru.

    Popeth yn Gymraeg. Nid mynnu eu bod nhw'n rhoi popeth i ni ond ein bod ni'n dechru parchu'r iaith digon i'w defnyddio hi!

    Beth amdani? Pwy sy' na sy'n wirioneddol o ddifrif ynghylch eisiau gweld dyfodol i'r iaith... pwy sy' na sydd o ddifrif i'r fath raddau nes eu bod nhw'n fodlon... eu defnyddio hi!!??

    Ydy, mae'n anodd weithiau, yn seicolegol ac yn ymarferol, ond pa frwydr werth ei hennill sy'n hawdd?

    ReplyDelete
  2. Yn bersonol mi fydda i yn defnyddio'r Gymraeg yn gyntaf mewn bar neu siop yng Nghaernarfon neu Bwllheli o leiaf - ac mi fyd.dwn i'n meddwl bod mwyafrif trigolion y trefi yma'n gwneud hynny hefyd.

    Ond mae'r pwynt yn un digon teg - y ffordd orau i wella darpariaeth Gymraeg ydi trwy greu galw masnachol amdano - a'r ffordd i wneu hynny ydi trwy fynnu defnyddio'r iaith wrth wneud busnes.

    ReplyDelete
  3. Nid "y Gymraeg yn gyntaf" ond "y Gymraeg ffwl stop" sydd ei eisiau. Neu, o leiaf, "Y Gymraeg yn gyntaf, y Gymraeg yn ail a thrydedd ac yna, efallai, os yw'r cnawd yn wan, bach (iawn) o Saesneg cyn troi eto at y Gymraeg."

    Dyna oedd pwynt rhaglenni Ifor ap Glyn - bod modd cyfathrebu yn y Gymraeg, heb droi i'r Saesneg, hyd yn oed â'r "di-Gymraeg".

    Os ydyn ni'n iwsio'r Gymraeg yn gyntaf (drwy ddweud rhywbeth fel "esgusodwch fi, ydych chi'n siarad Cymraeg?" ond wedyn yn troi bob tro ar unwaith i'r Saesneg, does dim galw ar y di-Gymraeg i newid eu hagweddau ieithyddol o gwbl (a'r un peth am y cwmniau, etc.).

    Ond mae angen i nifer go helaeth ddechrau gwneud hyn ar yr un pryd.

    Gyda ffrindiau neu aelodau'r teulu wrth gwrs bydd hyn yn anodd.

    ReplyDelete
  4. Er mod i'n deall pwynt Szczeb, dwi ddim yn adnabod y darlun mae'n ei baentio. Mewn nifer o drefi Cymreig, mae'r Cymry Cymraeg wedi arfer peidio a gofyn am wasanaeth yn y Gymraeg. Ond yn Y Fro Gymraeg, mae'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn yn disgwyl gwasanaeth Cymraeg mewn busnesau bychain. Os yw yfwyr trefi megis Pwllheli neu Gaernarfon yn archebu eu peintiau yn Saesneg, mi fyswn i'n tybio eu bod nhw'n yfwyr cyson yn y tafarndau hynny, yn adnabod y staff, ac yn gwybod eu bod nhw'n ddi-Gymraeg.
    Dwi'n byw ym Methesda, a phan dwi'n mynd allan i brynnu torth, neu am beint, mae'r Cymry Cymraeg bron yn ddi-eithriad yn siarad a'r bobl tu ol i'r cownter yn Gymraeg.
    Ond mae'r agwedd yma yn deillio o rhyw fath o gyswllt cymunedol rhwng y busnesau bychain a'r cwsmer. Lle mae Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o ofyn gyntaf yn Saesneg ydi mewn llefydd megis Archfarchnadoedd, lle nad ydyn nhw'n adnabod y sawl sydd tu ol i'r cownter - a lle mae nifer fawr o'r staff yn ddi-Gymraeg. Nid rhamanteiddio'r siop fach ydw i yn y fan hyn, dim ond adrodd yr hyn dwi'n ei weld o ddydd i ddydd. Yn gyffredinol, dwi'n eithaf hoff o archfachnadoedd, a dwi'n barod iawn i'w hamddiffyn yn erbyn sawl cyhuddiad. Ond mae unrhyw un sydd wedi bod i mewn i Morrisson's Caernarfon neu Tesco Bangor yn gwybod nad cyflogi Cymry Cymraeg yw un o'u cryfderau.

    ReplyDelete
  5. Ie - mae'ch sylwadau, Dyfrig, yn amlygu'r pwynt -a'r broblem.

    Nid mynychu siopau bychain a siarad Cymraeg â'r rheiny sy'n siarad Cymraeg yw'r pwynt. Fydd hynny ddim yn newid dim. Mae rhaid inni siarad Cymraeg gyda'r di-Gymraeg achos os nad ydyn nhw'n teimlo'r awydd i ddysgu'r iaith bydd hi'n ben ar ein cymunedau Cymraeg... ac ar yr iaith.

    Yr ateb rhwydd - rhy rhwydd - yw siarad Cymraeg yn ein cylchoedd bychain yn unig. Beth ddywedodd Saunders - "dulliau chwyldro". Dydy chwyldro ddim yn hawdd.

    ReplyDelete
  6. Dw i ddim yn anghytuno 100% gyda ti Menai Blog, a rhaid canmol BT a HSBC er enghraifft am ddarparu gwasanaeth Cymraeg o ddewis.

    Er fod biliau BT yn ddrytach, a'r llog a'r gynilon gyda HSBC yn is nag eu cystadleuwyr, dw i wedi gwneud y penderfynid i fynd gyda nhw.

    Baswn i ddim yn disgwyl i bob siaradwr Cymraeg wneud yr unpeth a fi. I ryw raddau, dwi'n cael fy nghosbi'n arianol am fod eisiau gwasaneth Cymraeg.

    ReplyDelete
  7. Anonymous3:30 am

    Hello, i think that i saw you vіsіted mу webѕite ѕo i came to “return thе favoг”.
    I am attempting to find things to еnhance my webѕite!
    I suppoѕe іts ok tο use a few of your idеas!
    !
    My page ... sensepil hair removal

    ReplyDelete
  8. Anonymous6:54 pm

    Wе are a gгouр оf volunteers and
    openіng a new scheme in our community. Your
    ѕite offeгed uѕ with ѵаluable information to
    worκ on. Υou havе ԁone a foгmidаble job anԁ our entire cοmmunіtу will be thankful
    tο you.

    Ѕtoρ by my web-site ... Blucig
    my page :: www.genderwiki.de

    ReplyDelete
  9. Anonymous5:42 am

    Sіmply want tο sаy youг аrtіclе is аs аѕtoniѕhing.
    The clearnesѕ in уour pοst is simply coоl and i
    can assume you're an expert on this subject. Well with your permission let me to grab your feed to keep up to date with forthcoming post. Thanks a million and please continue the rewarding work.

    Feel free to visit my web-site ... Highly recommended Internet page
    My site > eifelboard.net

    ReplyDelete
  10. Anonymous4:53 pm

    Τhis poѕt is really а pleaѕant one it helps new internеt
    νiewers, who are wishіng for blogging.

    Feel free to visit my web-site: http://www.sfgate.com/business/prweb/article/V2-Cigs-Review-Authentic-Smoking-Experience-or-4075176.php
    My web site :: Schule.Bbs-Haarentor.de

    ReplyDelete
  11. Anonymous5:19 am

    Wow, amazing blog layоut! Hοw long have уou been
    blogging for? you made blogging lοoκ
    eаsy. The oνеrall look of yοur web
    site is grеat, let alone the content!

    Ηave a look at my weblog - V2 Cigs Review

    ReplyDelete
  12. Anonymous7:54 pm

    We offeг a number of nicotine options гanging frοm Robust to
    Mіld. We even offeг a zero-nicotine choice.


    Нeгe is my blog post; meego-fr.org

    ReplyDelete