Friday, December 19, 2008
Erthygl Arwel Elis Owen yn Barn
Anaml y bydd unrhyw beth yn Barn yn fy ngwylltio (ers i Simon Brooks fynd o leiaf), ond roedd erthygl Arwel Elis Owen ar y ffilm Hunger ymhlith yr ymarferiadau mwyaf idiotaidd 'dwi wedi ei weld ers tro byd.
Fel arfer gydag Arwel, mae yna wybodaeth sydd yn ffeithiol anghywir yn y darn. Ceir awgrym bod yr arweinydd cynnar gweriniaethol, Wolf Tone, yn ymprydiwr newyn. Mi laddodd Tone ei hun – ond trwy hollti ei un o rwydweiliau ei wddf y noson cyn ei ddienddio – nid trwy lwgu ei hun i farwolaeth. Dianc oddi wrth y rhaff oedd - nid protestio. Nid Terence McSweeney oedd yr ymprydiwr newyn ‘nesaf’ i farw. Yn 1920 y bu farw McSweeney, bu Thomas Ashe farw o ganlyniad i ympryd newyn ym 1917. Mae’r datganiad nad oedd fawr ddim cysylltiad rhwng y carcharorion a’r byd y tu allan hefyd yn ffeithiol anghywir. Roedd cysylltiadau dyddiol rhwng arweinyddiaeth y mudiad Gwereniaethol y tu mewn a’r tu allan i’r carchar. Mae’r syniad bod Thatcher ac Adams wedi arwyddo cytundeb yn wirioneddol ddigri yn ei ddineweitrwydd. Mae'r awgrym bod Gerry Adams a Bobby Sands yn rhan o'r brotest pan oedd yn Cage 11 hefyd yn gamarweiniol - nid oedd angen i garcharorion Cage 11 brotestio i gael statws gwleidyddol oherwydd bod y statws hwnnw eisioes ganddynt. Wedi cael ei ail arestio a chael ei anfon i'r H Blocks aeth Sands ar y brotest.
Nid y man gamgymeriadau sy’n fy mhoeni – mae’r rheiny yn nodweddu gwaith newyddiadurol Arwel ar Iwerddon mae gen i ofn. Ail bobi hen fethiannau’r BBC pan oedd Arwel yn gweithio i’r corff hwnnw yng Ngogledd Iwerddon ar ffurf erthygl ydi’r peth gwirioneddol chwydlyd.
Cyfnod yr ymprydiau newyn oedd un o'r penodau mwyaf llwfr yn hanes y BBC. Eu prif rol yn ystod y cyfnod oedd gweithredu fel parot i naratif llywodraeth Prydeinig y dydd. Y naratif hwnnw yn syml oedd bod yr ymprydwyr yn cael eu defnyddio gan yr IRA ar y tu allan am bod y rheiny eisiau cefnogaeth i’w hymgyrch dreisgar – felly cefnogaeth i’r ymprydwyr = cefnogaeth i drais. Roedd y naratif idiotaidd yma yn gwthio pob math o bobl nad oedd ganddynt y diddordeb lleiaf mewn trais i gyfeiriad mudiadau treisgar Gwereniaethol.
Roedd y canfyddiad yma’n wirioneddol drychinebus – ac arweiniodd at roi degawd ychwanegol o fywyd i ryfel oedd yn rhedeg allan o stem yn ogystal a rhoi cychwyn i broses a arweiniodd at ddifa cenedlaetholdeb cymhedrol cyfansoddiadol yn y Gogledd. Mae i’r BBC – a’r sawl oedd yn gweithio iddi ar y pryd – ran bwysig mewn creu’r amodau a ganiataodd i hyn ddigwydd. Mae’r dyfyniad o sylwadau idiotaidd Thatcher am yr Eglwys Babyddol Wyddelig – yr unig gorff sefydliadol i ddod allan o’r holl drychineb gyda mymryn o hygrededd yn wirioneddol anymunol. Oni bai i'r sefydliad hwnnw weithredu yn gall a chyfrifol o dan amgylchiadau gwirioneddol ddirdynnol(yn gwbl wahanol i’r BBC) byddai’r holl beth wedi llusgo ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, a byddai’r canlyniadau wedi bod hyd yn oed yn waeth.
Mae Arwel yn gwneud yr honiad (bod yr ymprydwyr yn cael eu defnyddio gan yr IRA a chenhedlaeth newydd o arweinwyr Gweriniaethol - hy Adams) fel petai yn rhyw ganfyddiad treiddgar ar ei ran ei hun yn hytrach na mantra a ailadroddwyd hyd at syrffed gan ohebwyr llwfr a diog ar orchymyn llywodraeth Mrs Thatcher yn ystod y cyfnod. Mae’r ffordd mae’n gwneud yr honiad yn ddryslyd gan ei fod yn ceisio gludo dau fersiwn gwahanol o’r naratif gwirion yma at ei gilydd – y fersiwn gwreiddiol ac un mwy diweddar.
Honiad y llywodraeth a’r BBC ar y pryd oedd bod yr IRA yn ‘defnyddio’r’ deg dyn, ac mae Arwel yn gwneud yr honiad hwnnw yn ei ddarn. Doedd yna ddim tystiolaeth bod hyn yn wir ar y pryd – ac mae cryn dipyn o dystiolaeth ar gael bellach nad oedd gwirionedd i’r honiad. Mae’n debyg bod y mudiad Gweriniaethol ar y tu allan yn awyddus i atal yr ympryd ac i leihau’r tyndra yn y Maze. Un o’r rhesymau am hyn oedd bod ympryd y flwyddyn flaenorol wedi torri i lawr, a bod cynnal honno - a methu wedi bod yn niweidiol i’r mudiad yn ehangach.
Mae tystiolaeth ddogfennol sylweddol i gefnogi hyn. Er enghraifft mae llythyr gan Sands i Gyngor y Fyddin (oedd yn arweinydd yr IRA yn y Maze ar y pryd) yn ymddiheuro am fethu atal terfysg yn H5 ychydig ddyddiau cyn i’r datganiad i’r wasg bod yr ail ympryd i fynd rhagddi ar gael hyd heddiw. Mae ymateb ganddo i gais ffurfiol gan Gyngor y Fyddin i beidio a mynd ymlaen a’r ympryd ychydig ddyddiau cyn ei chyhoeddi hefyd ar gael – Comerade we received your comm – 30.1.81. We have listened carefully to what you said _ _ _ _ . But however distressing it may be, we regret that our decision to hunger strike remains the same.
Yn rhyfedd iawn mae Arwel yn rhyw led gyfeirio at hyn, gan nodi bod Adams a Sinn Fein yn erbyn yr ympryd. Mae hefyd yn awgrymu bod cynnig ar y bwrdd pan oedd Sands yn ei gell – un nad oedd yn ymwybodol ohono. ‘Dydw i erioed wedi clywed am y cynnig yma, a ‘dydw i ddim yn meddwl bod neb arall wedi chwaith. Mae’r cynnig yn ffrwyth dychymyg Arwel.
Neu efallai nad yw yn ffrwyth ei ddychymyg – yn rhywle arall yn yr erthygl ddryslyd mae Arwel yn honni y gellid bod ‘telerau newydd wedi eu cynnig i Adams mewn da bryd i achub bywydau o leiaf pump o’r deg newynnwr a fu farw yn haf 1981’. Hwyrach bod Arwel yn ei ffordd ddryslyd ei hun yn meddwl am gynnig nad oes amheuaeth iddo gael ei wneud gryn gyfnod wedi i Sands farw (yn niwedd mis Gorffennaf 81 – roedd Sands wedi marw ar y pumed o Fai).
Cafodd y ‘telerau newydd’ chwadl Arwel eu trosglwyddo i’r ymprydwyr ar Orffennaf 29, 1981 yn y Maze gan Adams. Gwrthodwyd y telerau hynny gan pob un o’r ymprydwyr. Cytunodd Adams hefyd ar y diwrnod cynt mewn cyfarfod gyda’r Tad Dennis Faul a rhai o deuluoedd yr ymprydwyr i ofyn i’r IRA roi gorchymyn i’r ymprydwyr oedd yn dal yn fyw i roi’r gorau i’r brotest. ‘Doedd yna ddim pwynt mewn gwneud hyn gan y byddai’r ymprydwyr yn sicr o wrthod ufuddhau’r gorchymyn, ond gwnaed y cais beth bynnag.
Neu efallai bod Arwel yn meddwl am honiad sydd wedi ei wneud mewn llyfr cymharol ddiweddar (dydw i ddim yn gwybod oherwydd nad ydi Arwel yn trafferthu dweud at beth mae'n gyfeirio) gan ddyn o'r enw Richard O'Rawe. Dadl O'Rawe ydi bod cynnig anffurfiol wedi ei wneud i'r arweinyddiaeth ar y tu allan na chafodd ei drosglwyddo i'r carcharorion - ond mae i hwnnw ei broblemau - mae yna nifer o ffeithiau sy'n hawdd dangos nad ydynt yn wir yn y llyfr, a does yna neb arall oedd yn agos at bethau ar y pryd yn derbyn y fersiwn, gan gynnwys teuluoedd yr ymprydwyr, nag arch elyn Adams, Ruairí Ó Brádaigh. Ond dydi hyd yn oed hwnnw ddim yn cefnogi honiadau Arwel - yn ol y fersiwn yma gwnaed y cynnig wedi marwolaeth y pedwerydd ymprydiwr - misoedd wedi marwolaeth Sands. – efallai bod Arwel yn meddwl ei bod yn bosibl atgyfodi Sands trwy ddod i gytundeb ychydig fisoedd wedi iddo farw. Roedd 6 (nid 5) o’r ymprydwyr nad oeddynt eto wedi marw yn dal yn fyw ar y pryd.
Rwan dyna fi wedi cael dweud fy nweud. Mae gan Barn pob hawl i ofyn i Arwel am erthygl, ac mae gan y BBC hawl i'w ddisgrifio fel arbenigwr ar Ogledd Iwerddon
- fel y byddant yn ei wneud yn aml. Ond y gwir syml ydi hyn - roedd Arwel yn rhan o ymgyrch bropoganda'r BBC oedd yn hyrwyddo polisiau gorffwyll llywodraeth Thatcher yn Iwerddon yn yr wyth degau cynnar - a'i brif feirniadaeth o'r ffilm ydi'r ffaith nad yw'n ail adrodd y propoganda di dystiolaeth roedd y BBC ac Arwel ei hun yn ei ailadrodd yn ddi ddiwedd ar y pryd.
No comments:
Post a Comment