Friday, November 14, 2008

Weithiau mae dyn yn anobeithio

Mi ges i sgwrs y diwrnod o'r blaen yn y Black Boy gyda rhywun sydd yn byw yng Ngorllewin Caerdydd, ond sydd a barnu o'i acen gyda'i wreiddiau yn y Gogledd. Mi wnawn ei alw'n Mr X - yn rhannol am nad ydi blogmenai (fel y gwyr fy narllenwyr rheolaidd megis Nic Parry yn dda) byth, byth yn ymosod ar neb yn bersonol, ond yn bennaf oherwydd i mi anghofio gofyn iddo beth oedd ei enw.

Roedd y cyfaill yn disgrifio ei hun fel cenedlaetholwr Cymreig a rhywun oedd yn gweithio yn wirfoddol weithiau i'r Blaid yng Nghaerdydd. Ei gonsyrn o oedd bod y Blaid wedi gwneud 'smonach mawr' o'r busnes ysgolion yn Nhreganna - ward ac ardal lle mae llawer o Gymry Cymraeg yn byw yng Ngorllewin y ddinas. Y smonach oedd peidio ag ymgyrchu i gau ysgol cyfrwng Saesneg Landsdowne, a symud plant ysgol gyfrwng Gymraeg Ysgol Treganna yno.

'Rwan mae yna ddadleuon tros ddilyn y llwybr yma - mae llawer o lefydd gwag (costus) yng Ngorllewin Caerdydd, ac mae yna lawer o lefydd gwag yn Lansdowne tra bo Ysgol Treganna yn llawn at yr ymylon. Mae'r galw am addysg Gymraeg yn tyfu'n rhyfeddol o gyflym mewn rhannau o Gaerdydd - ac yn Nhreganna fwy na'r unman arall.

Awgrymwyd sawl cynllun gan y Blaid cyn yr etholiad cyngor diwethaf - y cwbl ohonynt yn ymdrechu i gadw Landsdowne yn agored tra'n cynnig atebion i Ysgol Treganna, ond nid oedd rhieni Treganna - a'r gymuned Cymraeg yn Nhreganna gyda diddordeb mewn unrhyw opsiwn nad oedd yn cau Landsdowne.

Roedd hyn yn broblem gwleidyddol i'r Blaid - mae'r Blaid angen apelio at drawsdoriad eang o bobl yng Nghaerdydd os ydynt i gamu ymlaen yno. Mae elfennau o'r gymuned Gymraeg ei hiaith yn anghytuno - maent yn ystyried mai pwrpas y Blaid ydi edrych ar ol buddiannau un sector o'r gymuned, ac un yn unig - sef eu sector nhw eu hunain, y Cymry Cymraeg eu hiaith. Nid bod y rhan fwyaf ohonynt yn trafferthu pleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - roedd yna 32,000 o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd yn 2001, tua 9,000 o bleidleisiau a gafodd y Blaid yn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno yn y ddinas. Mae llawer mwy o Gymry Cymraeg yn Nhreganna na sydd yn Fairwater i'r Gorllewin iddi na Riverside i'r Dwyrain - ond mae'r Blaid gyda chefnogaeth etholiadol cryfach o lawer yn y wardiau llai Cymreig.

Aethom ymlaen i siarad am y rhagolygon ar gyfer yr etholiadau Cynulliad yn 2011. Roedd y ddau ohonom yn meddwl bod gobaith gwirioneddol y byddai'r Blaid yn ennil. Roedd Mr X o'r farn ei bod yn bwysig cael rhywun 'iawn' i sefyll. Y person fydd yn sefyll fydd Neil McKevoy - ymgeisydd sydd fwy neu lai yn berffaith o safbwynt etholiadol - oherwydd ei gefndir mae'n apelio at bleidleiswyr Llafur, Pabyddion (elfen bwysig o boblogaeth y ddinas) a'r lleiafrifoedd ethnic. Nid oedd Mr X yn rhy siwr pwy 'iawn' oedd ar gael, ond roedd yn eithaf siwr nad oedd Neil yn 'iawn'. Yn wir, petai Eluned Morgan yn sefyll byddai'n pleidleisio i honno cyn Neil. Y gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall wrth gwrs ydi bod y Gymraeg yn famiaith i'r unoliaethwraig ac mae ei gwreiddiau yng Ngorllewin Cymru. Gwyddelod a Somaliaid ydi cyn dadau'r cenedlaetholwr. Pan mae eich gwleidyddiaeth yn un secteraidd, llwythol mae ystyriaethau fel hyn yn bwysig.

Os ydych yn byw yn rhai o bentrefi uchel (yn yr ystyr daearyddol) Arfon os oes gennych olwg da, ac os ydi hi'n anarferol o glir gallwch weld mynyddoedd Wicklow pan mae yna eira ar eu copaon. Ar adegau felly rydych yn edrych ar wlad wahanol - gwlad agos, ond gwlad efo traddodiad gwleidyddol cwbl wahanol i un Cymru. Dyma stori dau berson gyda chysylltiadau a Wiklow - Ann Develin a anwyd yno ac Erskine Childers a fagwyd yn y sir.

Anne Devlin, housekeeper (ddim yn siwr o'r gair Cymraeg) Robert Emmet, arweinydd gwrthryfel 1798.

Wedi i'r chwyldro fethu cafodd hi a'i holl deulu eu dwyn i'r ddalfa, cynigwyd arian iddi am achwyn ar gyd gynllunwyr Emmet, cafodd hefyd ei harteithio yn gorfforol a seicolegol, a'i bygwth gyda marwolaeth. Ni chafodd yr awdurdodau cymaint ag un enw ganddi. Bu ei brawd naw oed farw yn y carchar. Wedi blynyddoedd cafodd ei rhyddhau. Erbyn hynny roedd ei chylch cyfeillion, ei theulu a'r mudiad gweriniaethol wedi eu chwalu. Priododd i mewn i dlodi enbyd a chael plant. Treuliodd lawer o weddill ei bywyd ar y strydoedd.

Yn ei dyddiau olaf arferai weld rhai o gyn gyd gynllwynwyr Emmet ar y strydoedd. Yn gwahanol iddi hi roedd y bobl hynny'n gymharol gyfoethog ac yn aml byddant yn cymryd arnont nad oeddynt yn eu hadnabod. Gallai fod wedi gwerthu gwybodaeth amdanynt unrhyw bryd ac achub ei hun - ond wnaeth hi ddim. Bu farw ar y strydoedd mewn tlodi enbyd.

Yn gwahanol i Ann Devlin un o draddodiad cyfoethog Eingl Wyddelig oedd Erskine Childers, un wedi ei eni yn Lloegr. Ymladdodd tros Brydain yn rhyfel y Boer, ac aeth ymlaen i fod yn rhan o'r sefydliad Prydeinig a chael swydd flaenllaw yn Nhai'r Cyffredin. Roedd o'n ddyn nad oedd erioed rhaid iddo drafferthu am yr Iwerddon, ond mi wnaeth.

Rhoddodd y gorau i'w swydd yn gweithio i'r sefydliad Prydeinig yn 1910 i ymgymryd ag achos Iwerddon. Arhosodd yn driw i'r achos hwnnw hyd y diwedd chwerw, gwenwynig. Cymrodd ochr y sawl oedd yn gwrthod y Cytundeb Eingl Wyddelig cyntaf yn 1922. Roedd y llywodraeth Wyddelig newydd yn ei gasau a chas perffaith - gwnaed llawer o'i gefndir dosbarth uchel Seisnig, a'i acen Saesneg. Chwalwyd ei gymeriad mewn ymgyrch bropoganda.

Wedi iddo gael ei ddal, cafodd ei ddienyddio yn iard gwersyll milwrol Beggars Bush. Tra'n gorwedd yn ei arch ar yr iard cerddodd un o swyddogion byddin y wladwriaeth newydd ar draws yr iard at ei gorff a gwagio ei Mauser automatic i mewn i'w wyneb.

Ar yr ochr arall i'r mor Celtaidd roedd y sefydliad Prydeinig hefyd yn llawen. Sylw Churchill oedd No man has done more harm or done more genuine malice or endeavoured to bring a greater curse upon the common people of Ireland than this strange being, actuated by a deadly and malignant hatred for the land of his birth. Roedd yn cael ei gasau yn Lloegr oherwydd iddo droi at achos Iwerddon, ac roedd casineb tuag ato yn yr Iwerddon oherwydd ei Seisnigrwydd. Ond, fel Anne Devlin bu farw'n driw i'w Weriniaeth at y diwedd - er gwaethaf pawb a phopeth.

Dwy stori ydi'r rhain o ganoedd - miloedd - y gellid eu hadrodd am bobl oedd yn fodlon aberthu'r cwbl tros y Weriniaeth - a gweledigaeth o Weriniaeth gynhwysol gyda'i gwreiddiau ideolegol yn y newidiadau gwleidyddol strwythurol anferth a ddigwyddodd yn niwedd y ddeunawfed ganrif.

A beth sydd gennym ni? Pobl fel Mr X sy'n pleidleisio tros bleidiau unoliaethol am resymau llwythol. Grwp o bobl megis Cymry Cymraeg Treganna sy'n fodlon canibaleiddio ysgol rhywun arall er mwyn eu lles eu hunain, 'Cenedlaetholwyr' sy'n troi at bleidiau sefydliadol Prydeinig yn fuan wedi methu cael eu dewis i sefyll am rhyw swydd etholedig neu'i gilydd tros blaid sefydliadol Gymreig. Pobl sydd wedi gwneud gyrfa o bortreadu eu hunain fel cenedlaetholwyr rhonc - cenedlaetholwyr gwell cenedlaetholwyr na llawer ohonom yn troi at bleidiau rhanbarthol sydd yn eu hanfod yn wrth genedlaetholgar. Pleidiau megis Llais Gwynedd. Cymry Cymraeg dosbarth canol breintiedig sy'n meddwl mai prif bwrpas cenedlaetholdeb Cymreig ydi amddiffyn eu buddiannau nhw eu hunain.

Y cwestiwn sy'n codi wrth gwrs ydi pam? Pam bod y cysyniad o wladwriaeth Wyddelig yn ddigon pwerus i wneud i lawer iawn o bobl ddangos ymroddiad llwyr iddo, tra bod y cysyniad o wladwriaeth Gymreig mor wan nes bod hyd yn oed cefnogwyr mwyaf selog y cysyniad yn aml yn cael eu colli i Brydeindod a gwleidyddiaeth rhanbarthol gwrth genedlaetholgar pan ddont ar draws man fygythiadau i'w man fuddiannau llwythol a phersonol nhw eu hunain?

Does yna ddim un ateb wrth gwrs, ond mae perthynas hanesyddol y Cymry a'r wladwriaeth Brydeinig yn agos at wraidd y drwg. Mae dylanwad y Chwyldro Diwydiannol ar gymdeithas a felly gwleidyddiaeth Cymru hefyd yn arwyddocaol - mi'r rydan ni yn fwy tebyg i Saeson yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn seicolegol nag ydi'r Gwyddelod, ac oherwydd hynny 'dydi'r cysyniad o wladwriaeth Gymreig ddim mor atyniadol hyd yn oed i genedlaetholwyr - heb son am y rhan fwyaf o'r boblogaeth nad ydynt yn genedlaetholwyr.

Felly ydi gwladwriaeth Gymreig yn bosibl? Dyna fyddai dyn yn gobeithio - ond tra nad ydym yn ei chael yn bosibl i roi man raniadau o'r neilltu - fel y llwyddodd Anne Develin i ddi ystyru gwahaniaethau dosbarth ac Erskine Childers i ddi ystyru gwahaniaethau ethnig, addysgol a chrefyddol - nid oes yna fawr o obaith.

13 comments:

  1. Anonymous11:05 pm

    Dwi wedi mwynhau darllen eich blog, a llongyfarchiadau gyda'i lwyddiant. Ond, dwi yn sylwi eich bod chi yn ffocysu ar faterion sydd yn ymwneud â Chymru.

    Baswn i'n ddiolchgar os buasech chi'n tynnu sylw aelodau a chyfranwyr at ein prosiect newydd. Mae'n gais di-elw i geisio creu fforwm ar gyfer Cymru gyfan lle mae barn pawb ynglŷn ag unrhyw beth Cymraeg neu sydd yn digwydd yng Nghymru yn gyfartal, lle gallent trafod heb sylwadau sarhaus a bygythiol. Nid ydym yn ffafrio unrhyw safbwynt gwleidyddol na'n rhoi lan gyda unrhyw anghwrteisi ( hyn yn beth cyffredin yn anffodus y dyddiau yma)

    Rydym yn croesawu pobl o bedwar ban byd, does dim gwahaniaeth ar eu ethnigrwydd, safbwyntiau crefyddol, crefydd neu rhyw. Os mae rhywbeth dechau ganddynt i ddweud, a'i fynegi wrth ystyried a pharchu eraill bydd wastad croeso ar Walesfforwm iddynt.

    Mae ein staff i gyd yn gwirfoddolwyr, a bydd y cymedrolwyr yn cadw safonau uchel wrth gymedroli'r safle heb unrhyw beias gwleidyddol sail eu penderfyniadau.

    Os rydych yn credu bydd hyn o unrhyw ddiddordeb i eich aelodau, a wnewch chi gyfeirio nhw at

    WalesFforwm.com . Bydd Croeso Cynnes iddynt.

    ReplyDelete
  2. Dydi Neil McEnvoy ddim yn ystyried ei hun yn genedlaetholwr - go iawn rwan mae o wedi dweud wrtha i unwaith. Er bod yn rhaid i PC denu cefnogaeth o bob rhan o gymdeithas i gipio unrhyw sedd yng Nghaerdydd, Gorllewin Caerdydd dan sylw, dydi cael rhywun yn sefyll yn enw plaid genedlaetholgar sy'n dweud nad yw'n genedlaetholwr ddim yn ffordd dda o ennill pleidleisiau Cymry Cymraeg, yn enwedig mewn rhan o'r ddinas lle maen nhw'n llai o leiafrif na'r unman arall.

    ReplyDelete
  3. This comment has been removed by a blog administrator.

    ReplyDelete
  4. Gweler http://independent-wales.blogspot.com/2007/02/wales-cannot-afford-not-to-have-self.html

    Gweler hefyd http://british-nats-watch.blogspot.com/2008/03/eluned-morgan-british-nationalist.html

    Un o bwyntiau'r y cyfraniad ydi nad oes lle cryf iawn i gredu bod llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd yn genedlaetholwyr yng ngwir ystyr y term hwnnw.

    ReplyDelete
  5. Onid ydi rhywun yn bod yn "llwythol" os ydyn nhw'n cefnogi eu plaid wleidyddol doed-a-ddelo, heb ystyried yr egwyddorion mae'r blaid honno yn sefyll drosti? Hynny yw, onid bod yn llwythol ydi cefnogi Plaid Cymru yng Nghaerdydd, os ydych chi'n credu bod eu polisi nhw ar addysg yn mynd yn groes i'ch egwyddorion craidd?
    Ti'n dweud bod rhai Cymry Cymraeg yn credu mai gwaith Plaid Cymru yw gwarchod un "sector or gymuned", fel petai ei safbwynt egwyddorol ar hyrwyddo'r Gymraeg yn rhyw ymgais hunanol i ddiogelu buddiant personol. Dwi'n credu yn gryf bod cyfrifoldeb ar Blaid Cymru i roi buddianau'r iaith Gymraeg uwchlaw popeth arall - ac mae hynny yn cynnwys blaenoriaethu parhad y Gymraeg dros ennill etholiadau. Dyna, i mi, yw ystyr bod yn genedlaetholwr.

    ReplyDelete
  6. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  7. Mae cyfraniad Dyfrig yn gwneud i mi grafu fy mhen - a dweud y lleiaf.

    Mae 'llwythol' yn awgrymu cysylltiad ethnig - at hynny 'dwi'n cyfeirio. 'Dydi hynny ddim yr un peth a chefnogaeth gwleidyddol i blaid benodol.

    Efallai mai dy gred di ydi mai ystyr cenedlaetholdeb ydi edrych ar ol iaith yn annad dim arall - ond diffiniad personol ac anarferol iawn ydi hwnnw.

    'Does yna ddim cwestiwn nad oedd Plaid Cymru am gael ysgol newydd Gymraeg yn Nhreganna - cael un newydd oedd y bwriad - ond dim o anghenrhaid yn Landsdowne. Erbyn heddiw y tebygrwydd yw y bydd Landsdowne yn symud a Treganna yn mynd i Dreganna - cyfaddawd teg yn fy marn bach i.

    ReplyDelete
  8. Gall llwythol gael ei ddefnyddio mewn cyd-destun heblaw un ethnig, yn enwedig mewn gwleidyddiaeth. I mi, gall rhywun fod a perthynas lwythol a phlaid - hynny yw, mae nhw'n dod o "deulu Llafur" neu o "deulu Plaid Cymru", ac mae'r syniad o ddilyn plaid arall - o adael y llwyth - yn gwbl amhosibl.
    Dwi ddim yn pasio barn ar gynlluniau addysg Cyngor Caerdydd y naill ffordd na'r llall. Fel aelod o Gyngor Gwynedd, dwi wedi cael llond bol o bobl o'r tu allan i'r sir yn pasio barn ar ein cynlluniau addysg ni, a dwi'n parchu'r ffaith mai mater i bobl Caerdydd yw hyn. Serch hynny, dwi yn credu bod modd i rhywun fod yn genedlaetholwr didwyll, a gwrthwynebu polisiau Plaid Cymru. Mae 'na hanes hir ac anrhydeddus o genedlaetholwyr yn perthyn i bleidiau eraill yng Nghymru, a dwi'n siwr y byddai Eluned Morgan yn dadlau ei bod hi'n rhan o'r traddodiad hwn.
    Os ydi Mr X yn wirioneddol anghytuno a pholisi Plaid Cymru ar ysgol Gymraeg Treganna, ac os ydi o'n wirioneddol gredu bod Eluned Morgan yn cynyrchioli math o genedlaetholdeb sydd at ei ddant, yna mae'n berffaith resymol ei fod yn ystyried pleidleisio drosti hi. Y peth llwythol i'w wneud fyddai aros yn driw i Blaid Cymru, er ei fod yn anghytuno gyda ei pholisiau.

    ReplyDelete
  9. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  10. Yn ol yr hyn dwi'n deall Dyfrig nid oedd y Blaid Lafur am gynnig dim i Ysgol Treganna.

    Ar lefel llywodraeth leol y Blaid Lafur ydi'r blaid mwyaf gwrth Gymreig (yn yr ystyr ieithyddol) yng Nghaerdydd - ac yn aml i fan arall yng Nghymru hefyd.

    ar y llaw arall mae'r glymblaid yn cynnig ysgol iddynt - adeilad Landsdowne erbyn hyn - yn union fel oedd Mr X ei eisiau yn y lle cyntaf.

    Ond mae'n well gan Mr X ymgeisydd y Blaid Lafur tros un Plaid Cymru.

    Pam tybed?

    ReplyDelete
  11. Dwi'n meddwl mai pwynt Dyfrig ydi nad ydi PC Caerdydd yn ystyried yr iaith yn rhan hanfodol o'i bodolaeth yno (neu felly mae'n ymddangos) - ac os felly does disgwyl i genedlaetholwyr pleidleisio drosynt. Wnes i ddim.

    Ymddengys i mi nad ydi cenedlaetholdeb ei hun yn rhan graidd o syniadaeth y Blaid yng Nghaerdydd - efallai fy mod yn anghywir.

    Gan ddweud hynny prin ydi'r cenedlaetholwyr sydd am bleidleisio i Eluned Morgan a'i thebyg - dwi'm yn amau y byddai hi'n cymryd sarhad o gael ei hystyried yn genedlaetholwr.

    ReplyDelete
  12. Alla i ddim ateb "pam" oherwydd nid y fi yw Mr X. Yr unig beth dwi'n ei ddweud yw bod Mr X mewn sefyllfa lle mae'n anghytuno a pholisi Plaid Cymru a Llafur ar Ysgol Treganna, ond mae'n awgrymu y gallai bleidleisio dros Lafur yn etholiadau'r Cynulliad, oherwydd bod yn well ganddo'r ymgeisydd Llafur.
    Ti'n cyhuddo Mr X o gefnogi Eluned Morgan dros Neil McEvoy am resymau senoffobaidd, "secteraidd, llwythol". Dwi'n credu bod hynny yn bod yn anheg a Mr X. Dwi ddim yn cytuno a'i ddewis, yn bersonol. Fydd hi ddim yn syndod i ti ddeallt bod aelod etholedig o Blaid Cymru yn credu y dylai trigolion Gorllewin Caerdydd bleidleisio i Blaid Cymru - mewn etholiadau lleol, Cymreig a Phrydeinig. Ond dwi ddim yn credu bod hi'n ddoeth na'n ddymunol collfarnu'r cenedlaetholwyr hynny sydd yn dewis dilyn y llwybr arall.

    ReplyDelete
  13. Mae'r ddadl yma wedi rhyw redeg ei chwrs, ond un neu ddau o bwyntiau brysiog:

    (1) Nid gwrthwynebu ysgol Gymraeg oedd y Blaid cyn yr etholiad wrth gwrs - gwrthwynebu lleoli'r ysgol mewn man arbennig. Roedd o blaid ehangu'r ysgol.

    (2) Mae HOR yn cwyno yn y bon nad ydi'r Blaid yng Nghaerdydd yn union yr un peth nag ydyw yng Ngwynedd. Mae hynny wrth gwrs yn amhosibl - ac mae gen i ofn na fydd o byth yn pleidleisio trost neb tra mae'n byw yng Nghaerdydd os mai ond PC Gwynedd sy'n dderbyniol iddo.

    (3) Mae diffinio cenedlaetholdeb mewn termau gwleidyddiaeth iaith yn ffeithiol anghywir - er ei fod ar un lefel yn ddealladwy - mae cysylltiad cryf mewn rhai gwledydd - megis Cymru.

    (4) Fedar Dyfrig na fi ddim dweud i sicrwydd beth ydi cymhelliad Mr X yn ei farn am Neil / Eluned - ond mi fedrwn ni geisio dirnad y cymhelliad hwnnw. Mae Mr X yn cefnogi addysg Gymraeg. Mae'n rhan o agenda'r glymblaid mae'r Blaid yn rhan ohoni yng Nghaerdydd i gynnig addysg Gymraeg o fewn cyrraedd i bawb sydd eisiau addysg o'r fath. Nid yw'r Blaid Lafur yn cytuno. Eto mae'n well gan Mr X ymgeisydd posibl y Blaid Lafur yng Ngorllewin y ddinas. Mae addysg Gymraeg yn eilradd i Mr X yn y cyswllt hwn - hwyrach ei fod yn meddwl bod Eluned yn uffar o hogan iawn, hwyrach ei fod yn ei ffansio, hwyrach ei fod yn meddwl ei bod yn wleidydd gwych - neu efallai ei fod yn ei gweld yn fwy tebyg iddo fo'i hun nag ymgeisydd y Blaid.

    ReplyDelete