Saturday, July 26, 2008
Pam bod yr SNP yn llwyddo i'r fath raddau?
Mae'r SNP yn hynod boblogaidd ar hyn o bryd - mae mwy na chanlyniad is etholiad Glasgow East yn a'r ffaith eu bod mewn llywodraeth leafrifol i awgrymu hynny. Mae'r polau piniwn yn cadarnhau'r canfyddiad, gyda'r SNP ymhell ar y blaen ar lefel Holyrood, ac ar y blaen hefyd ar lefel San Steffan.
Byddwn yn dadlau bod pum piler i'r poblogrwydd hwn.
(1) Llwyddiant (ac felly poblogrwydd) llywodraeth leiafrifol yr SNP yn Holyrood.
(2) Methiant, (ac felly amhoblogrwydd) llywodraeth Llafur yn San Steffan.
(3) Y tirwedd gwleidyddol newydd sydd wedi ei greu yn yr Alban yn sgil datganoli - tiredd sydd wedi caniatau i'r ddadl tros fwy o ddatganoli ac yn wir annibyniaeth gymryd canol y llwyfan gwleidyddol.
(4) Ansawdd uchel arweinyddiaeth yr SNP.
(5) Gwendidau trefniadol y pleidiau Prydeinig - yn arbennig felly Llafur.
Er ein bod yn gymharol boblogaidd ar hyn o bryd, gallai'r pum piler yma fod yn sail i boblogrwydd tebyg i'r Blaid - ond dydyn nhw i gyd ddim cweit yn eu lle eto.
Mwy maes o law.
Dwi yn gweld y glymblaid yng Nghaerdydd yn creu problemau mawr i Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae'r SNP yn llwydd drwy gynnig eu hunain fel dewis amgen i "blaid naturiol llywodraeth" yn yr Alban. Ac fel yr ydym ni wedi ei weld, mae wedi talu ar ei ganfed. Mae'n amhosib i Blaid Cymru wneud yr un fath yma, oherwydd ei bod yn rhannu gwely a Llafur. Dwi ofn y bydd amhoblogrwydd Llafur yn llusgo Plaid Cymru i lawr.
ReplyDelete