Monday, July 21, 2008

6 rheswm pam y dylid rhoi joban Rhodri Glyn i Ffred

Go brin bod Ieuan Wyn yn darllen blogmenai, ond dyma drio dwyn perswad arno beth bynnag.

(1) Mae Ffred yn siarad Cymraeg. Dydi hi ddim yn bosibl i'r Blaid roi hon i rhywun di Gymraeg.
(2) Mae cefndir cyflogaeth Ffred yn agos at fod yn berffaith ar gyfer y swydd.
(3) Dydi Ffred ddim yn 'smygu.
(4) Ffred ydi'r cyntaf ac nid y diwethaf i fynd adref yn ystod sesiwn ddiota.
(5) Mae Ffred wedi rhedeg corff mawr cyhoeddys yn llwyddianus - Cyngor Gwynedd yn ystod y dyddiau pell yn ol pan oedd y corff hwnnw yn weddol boblogaidd.
(6) Mae gan Ffred y lefelau priodol o siniciaeth (hy uchel iawn) i sicrhau ei fod yn gallu cael rhyw fath o berthynas gyfartal gyda'i weision sifil.

2 comments:

  1. Ar y cyfan dwi'n meddwl bydde Alun Ffred yn dda ond fel wyt ti'n nodi mae'n sinic pur ac er fod hwnnw yn rinwedd ar adegau wnaiff sinic yn sicr ddim gwthio pethau radical i'r dwr fel papur dyddiol, deddf iaith i'r sector breifat a choleg ffederal cymraeg.

    ReplyDelete
  2. A bod yn onest Rhys, 'dwi'n rhyw feddwl bod pobl sy'n rhagweld problemau yn aml yn cyflawni llawer mwy na delfrydwyr sydd o dan yr argraff bod yr anodd yn hawdd.

    ReplyDelete