Yn ol blog diweddaraf Vaughan Roderick mae problem gyda thacteg arferol Llafur o geisio ennill etholiad trwy atgyfodi corff gwleidyddol y Fonesig Thatcher er mwyn ceisio dychryn pawb i bleidleisio trostynt.
Y ddadl ydi hon - mae'r Toriaid yn blaid ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy a fyddai o gael eu hethol yn bwyta eich plant, treisio eich gwraig ac yn boddi eich rhieni oedranus mewn ffynnon. O ddewis byddai pob plaid arall yn eu cefnogi a'u rhoi mewn grym er mwyn galluogi iddynt wireddu'r hunllef Canol Oesol yma. Felly mae'n dilyn mai'r unig ffordd o amddiffyn dynoliaeth yn y DU (neu Gymru neu oddi mewn ffiniau'r Cyngor Sir - dibynnu ar yr etholiad) rhag tranc ydi rhoi croes wrth enw'r ymgeisydd Llafur mewn etholiad.
Y broblem yn ol Vaughan ('dwi'n rhoi'r pwynt yn fy ngeiriau fy hun yma) ydi bod cyfran fawr o'r etholwyr yn rhy ifanc i gofio'r hen Wyddeles, a'u bod o ganlyniad yn cael yr addewidion o angau, gwae, galar a thrallod yn anodd braidd i'w gredu.
Dichon bod Vaughan yn ddigon cywir yn hyn o beth, ond mae mwy o broblemau i'r strategaeth na hynny. Bydd unrhyw un sy'n dilyn myfyrdodau'r brawd Martin Eaglestone naill ai ar ei flog, neu yng ngholofnau'r Caernarfon & Denbigh yn ymwybodol mai dyma ei brif ddadl tros geisio perswadio pobl i fwrw pleidlais trosto.
Ymddengys ei fod yn dra balch o'i fymryn o theatr stryd y tu allan i'r Oriel yng Nghaernarfon yn ystod Cynhadledd Wanwyn y Blaid yn fuan cyn etholiadau'r Cynulliad y llynedd.
Yn ddiweddar atgyfododd y ddadl yn y wasg ac ar ei flog. Mae'n egluro pam yma.
'Rwan, does gen i ddim diddordeb mewn cynghori Martin, na'r Blaid Lafur yn ehangach, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y penderfyniad i ail bobi'r ddadl yn fy rhyfeddu. Fel mae Vaughan yn dweud, mae cymaint o amser wedi mynd rhagddo ers y llywodraethau Ceidwadol sydd i fod i'n dychryn ni i gyd yn wirion nes bod llawer ohonom sy'n ganol oed wedi lled anghofio'r tirwedd yfflon o ddioddefaint, galar ac angau, heb son am bobl ieuengach sydd ddim yn ei gofio o gwbl.
Fel mae'n digwydd, dwi'n ddigon hen i gofio'r Winter of Discontent (beth bynnag ydi'r term Cymraeg am hynny), a fedra i ddim yn fy myw gofio'r llygod mawr yn rhedeg y strydoedd, y mynyddoedd o sbwriel ar y palmentydd, y pentyrau o eirch ar gyrion y mynwentydd na'r ciwiau dol oedd yn ymestyn o San Steffan i Jarrow chwaith - er bod Mrs Thatcher a Keith Joseph yn ein sicrhau ni i gyd mai felly oedd pethau cyn iddyn nhw gael eu hethol.
Ond mae mwy iddi na hyn. Ysgwyd esgyrn Thatcher yn ein wynebau oedd fwy neu lai yr unig ddadl a gyflwynodd Martin i'n hargyhoeddi i roi croes wrth ei enw yn etholiad y Cynulliad y llynedd. Dydi hon ddim yn ddadl dda iawn, ac nid oedd yn syndod i berfformiad etholiadol Martin fod ymhlith y salaf i Llafur yn y Gogledd.
Ond, mor wachul ag oedd y ddadl, roedd yn gryfach o lawer yn ol yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 nag yw bellach. Roedd pawb yn gwybod mai senedd grog fyddai yna yn 2007, ac yn wir mewn Cynulliad gyda 60 (ac ugain yn cael eu hethol trwy ddull cyfrannol) sedd yn unig yn y Cynulliad, senedd grog ydi'r canlyniad mwyaf tebygol.
Anaml iawn y bydd senedd grog yn San Steffan, yn rhannol oherwydd bod cymaint o seddi (tua 650) ac yn rhannol oherwydd y dull pleidleisio. Yr unig dro i hyn ddigwydd yn fy mywyd i oedd wedi etholiad cyntaf 1974. Mae'r polau piniwn i gyd yn awgrymu y bydd gan y Ceidwadwyr fwy na chant o fwyafrif tros bawb arall, ac anaml iawn, iawn y bydd canlyniadau etholiadol yn well i Lafur na'r polau piniwn sy'n dod o'u blaen.
Ac wrth gwrs - er gwaethaf protestiadau Martin i'r gwrthwyneb yn y misoedd cyn yr etholiad, Llafur ac nid y Toriaid oedd partneriaid y Blaid mewn grym. pan fethodd Llafur ag ennill mwyafrif.
Ar ben hynny, petai Martin wedi trafferthu i graffu ar ganlyniadau etholiadau diweddar byddai'n gweld bod y pleidleisio tactegol wedi newid yn llwyr - pleidleisio gwrth Lafur a geir - nid pleidleisio tactegol gwrth Doriaid. I sleisen dda o'r etholwyr Llafur ydi'r blaid 'ddrwg' bellach.
Mewn geiriau eraill mae Martin yn canoli ei ymgyrch ar ddadl sydd wedi methu yn llwyr yn ddiweddar, ac mae'n llawer llai credadwy erbyn hyn nag oedd bryd hynny.
Y broblem efo Martin ydi na all feddwl am unrhyw reswm da pam y dylai rhywun bleidleisio trosto, felly mae'n cynnig rheswm sal - un sal iawn.
Mond nodyn bach o weld dy son di am y Caernarfon & Denbigh. Dwi'n sylwi fod y papur wedi stopio rhoi colofn i'n AC a AS ni bellach. ma'i polisi nhw o mond printio petha drwg am Blaid Cymru yn parhau dwi'n gweld!
ReplyDeleteDipyn yn hwyr yn ymuno ar bost yma ac pwnt gwleidyddol digon teg gen ti menai. Ond mae yna dal digon yn cofio'r Tories (enwedig oed ni) i creu pwnt ymgyrchu digon digonnol. Gawn weld faent maes o law.
ReplyDeleteWedi rhoi sylw i'r bost heddiw
http://martin-eaglestone.blogspot.com/2008/06/upsetting-blog-meani.html