Thursday, May 22, 2008

Cyfarfod llawn cyntaf Cyngor Gwynedd

Heddiw roedd y cyngor newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf.

Efallai ei bod yn addas i feddwl am y pleidwyr hynny nad oeddynt yno oherwydd iddynt golli eu seddi.

Byddwn yn hoffi meddwl y bydd y rhan fwyaf ohonynt o ddigon yn sefyll eto mewn pedair blynedd, ac yn cael eu hethol drachefn. Mae bron yn sicr y bydd yr awyrgylch gwleidyddol yn haws o lawer erbyn hynny. Ar ben hynny bydd Llais Gwynedd wedi cael cyfle i chwalu oddi tan bwysau paradocs ei fodolaeth ei hun - sef ei fod yn dennu pobl nad oes dim yn gyffredin ag eithrio eu casineb tuag at Blaid Cymru - pobl sydd yn aml (ond nid yn ddi eithriad wrth gwrs) o ansawdd isel iawn.

Er enghraifft collodd tri aelod o'r hen fwrdd, Dic Penfras, Dafydd Iwan a Tomos Ifans eu seddi. Fel gwleidyddion lleol mae'r tri ben ac ysgwydd yn well na'r sawl a etholwyd yn eu lle. Dangosodd y ddau cyntaf cryn ddewrder ac ymroddiad wrth hyrwyddo'r cynllun ail strwythuro ysgolion.

Mewn unrhyw etholiad cyffredin byddent wedi sgubo'r llawr gyda'u gwrthwynebwyr. Yr awyrgylch o hysteria oedd o gwmpas mewn rhai rhannau o'r sir oedd yn bennaf gyfrifol am y canlyniadau hyn. O symud yr hysteria etholiadol hwnnw ac o addasu ychydig ar ein naratif gwleidyddol, bydd canlyniadau'r etholiadau nesaf yn dra gwahanol.

No comments:

Post a Comment