Yn gwahanol i Gymru mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bres papur eu hunain. Pres Prydeinig ydyw mewn gwirionedd, ac mae ei werth yn union yr un peth a Sterling (oni bai eich bod yn ceisio ei newid mewn Bureau de Exchange am bres 'tramor' - rydych yn debygol o gael gwaeth bargen na phetai gennych bres Seisnig). Serch hynny mae arwyddocad symbolaidd pwysig i bres papur - wedi'r cwbl mae cynllun gwahanol i bres yn hen arwydd o wlad gwahanol, ac mae'r cynllun hwnnw yn tueddu i adlewyrchu rhai o'r pethau a'r bobl mae gwlad yn eu hystyried yn arwyddocaol. Hyd yn oed pan mae gwledydd yn defnyddio'r un gyfundrefn ariannol (fel yn achos yr Ewro) mae un ochr i'r papur yn gwahanol ar gyfer pob gwlad.
Mae rhesymau hanesyddol pam fod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwahanol i Gymru. Mae'r banciau (sydd mewn enw o leiaf) yn lleol gyda'r hawl i gyhoeddi pres yn y gwledydd hynny - Bank of Scotland, Royal Bank of Scotland a'r Clydesdale Bank yn yr Alban a'r Bank of Ireland, Ulster Bank, a'r First Trust Bank yng Ngogledd Iwerddon. Yng Nghymru a Lloegr Banc Lloegr yn unig sydd a'r hawl i gyhoeddi pres papur - a does yna ddim banciau lleol gwerth son amdanynt yng Nghymru beth bynnag.
Serch hynny mae'n ffaith bod pres metel - y cwbl ohono - punoedd, hanner can ceiniog ac ati yn cael eu bathu yn Llantrisant. Mae hyn yn cynnwys pres Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae'r pres yma yn aml yn cydnabod gwahaniaethau cenedlaethol oddi mewn i'r DU - a ceir cynlluniau gwahanol yn aml i bres a ddosberthir yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pam felly nad yw hi'n bosibl cynhyrchu pres papur sy'n adlewyrchu'r ffaith bod Cymru yn wlad gwahanol i Loegr? Wedi'r cwbl mae'n rhaid bod bron i bawb yn derbyn ein bod yn wledydd gwahanol - beth bynnag ein barn am drefniadau cyfansoddiadol.
Un o'r cynlluniau ar gyfer punt Gogledd Iwerddon.
Un o'r cynlluniau ar gyfer punt yr Alban.
A Chymru wrth gwrs.
£5 Allied Irish Bank
£20 y Clydesdale Bank
Mae gen ti ddwy bunt Cymreig uchod, Cai, a dim un o'r Alban.
ReplyDeleteCenhinen Gymreig sydd ar gefn y bunt canol.
Damio fo - ti'n iawn Alwyn. Mi newidiaf y llun pan gaf ddau funud.
ReplyDeleteHyd yn oed pan mae gwledydd yn defnyddio'r un gyfundrefn ariannol (fel yn achos yr Ewro) mae un ochr i'r papur yn gwahanol ar gyfer pob gwlad.
ReplyDeleteAnghywir. Does dim gwahaniaeth cenedlaethol ar bapurau'r ewro, dim ond ar y coins
buy valium buy valium with paypal - valium pills used
ReplyDelete