Monday, May 07, 2007

Etholiadau Cynulliad 2007 - edrych yn ol

Un neu ddau o bwyntiau brysiog am yr etholiad cyn gorffen efo hi:

(1) Mae’r sylwadau hyn ynglyn a’r Lib Dems gan Vaughan Roderick ar ei flog hynod ddarllenadwy yn ddiddorol. Byrdwn y ddadl ydi bod y Lib Dems wedi cam ddeall y ffordd mae’r drefn gyfrannol yn gweithio yng Nghymru a bod y canolbwyntio unffurf ar berswadio pobl i bleidleisio yn dactegol trostynt yn y rhan etholaethol ar drael y rhan rhanbarthol o’r etholiad yn wrth gynhyrchiol.

Yn sicr, gwobr digon tila ydi parhau gyda chwe aelod yn unig am ollwng 2.23 miliwn pamffled trwy ddrysau pobl. Gellir dadlau mai’r lleiafswm posibl o seddi y gallai’r Lib Dems eu cael yng Nghymru ydi 5 – un ar gyfer pob rhanbarth. Yr oll maent wedi llwyddo i’w gael mewn tair etholiad Cynulliad yn olynnol ydi chwech – un yn fwy na’r lleiafswm posibl. Mae rhywbeth mawr o’i le yn y ffordd maent yn ymgyrchu yn yr etholiadau hyn.

(2) Mae dadl yn mynd rhagddi ar faes e ar hyn o bryd ynglyn a’r ffaith nad yw’r Blaid wedi llwyddo i ‘dorri trowodd’ yn y Cymoedd – a’r consensws ydi mai gweddol anobeithiol ydi gobeithio gwneud hynny. Yn sicr, o edrych ar fap gwleidyddol mae gafael y blaid yn edrych yn weddol soled – coch ydi pob un o seddi’r Cymoedd ag eithrio Blaenau Gwent. Ond mae ffordd arall o edrych ar bethau. Isod wele pleidlais a chanranau’r Llafur yn 1997 (etholiad cyffredinol) ac yn 2007 (etholiad Cynulliad). (Dwi’n defnyddio ‘Cymoedd mewn ffordd eithaf llac yma).

1997 2007

Blaenau Gwent 31,493 (79.5%) 7,365 (31.32%)
Caerffili 30,687 (67.8%) 8,937 (33.2%)
Penybont 25,115 (58.1%) 9,889 (40.28%)
Cwm Cynon 23,307 (69.7%) 11,058 (56.66%)
Islwyn 26,995 (74.2%) 8,883 (37.7%)
Merthyr 30,012 (76.7%) 7,776 (36.98%)
Castell Nedd 30,324 (73.5%) 10,934 (43.39%)
Ogwr 28,163 (74%) 11,761 (51.66%)
Pontypridd 29,290 (63.9%) 9,836 (41.85%)
Rhondda 30,381 (74.5%) 12,875 (58.24%)
Torfaen 29,863 (69.1%) 9,921 (42.74%)

Y gwir ydi mai gweddol fregys ydi gafael y Blaid Lafur ar y Cymoedd erbyn hyn. Y broblem ydi bod y gwrthwynebiad i Lafur wedi ei hollti ac nad oes yr un plaid mewn sefyllfa i herio oherwydd hynny. Yr her i Blaid Cymru ydi creu naratif gwleidyddol sy’n dod a’r gwrthwynebiad i Lafur at ei gilydd. Yr hyn sydd ei angen ydi i'r Blaid lwyddo i ddod a'r holl wrthwynebiad yn y Cymoedd at ei gilydd o dan un to - rhywbeth tebyg i'r hyn a lwyddodd yr SNP i'w wneud ar hyd yr Alban ddiwydiannol (neu ol ddiwydiannol a bod yn fwy cywir).

Mae angen nifer o bethau i hyn weithio - arweinyddiaeth a phropffeil uchel iddo ydi un, a naratif gwleidyddol syml a chlir ydi un arall.

(3) Llwyddodd Plaid Cymru i wneud yn dda yn y Fro Gymraeg, a llwyddwyd i sefydlogi a throi dirywiad graddol yng Ngheredigion ac Ynys Mon. Yn wir mae’r map etholaethol yn edrych yn ddigon gwyrdd i’r gorllewin o’r Llychwr ac Afon Conwy bellach. Byddai’n gwbl wyrdd pen a bai hen ardal Seisnig De Penfro yn bodoli. Yn ychwanegol mae’r rhan fwyaf o’r seddi yn edrych yn ddigon diogel ar gyfer y dyfodol.

(4) Mae pethau’n edrych yn well i’r Toriaid hefyd, ac yn wir cawsant fwy o bleidleisiau na’r Blaid yn yr etholiad rhanbarthol. Maent wedi cryfhau eu sefyllfa’n sylweddol yn y brifddinas a rhai o’r etholaethau cyfagos, ac meant wedi gwneud yr un peth yn etholaethau ffiniol y Gogledd Ddwyrain. Serch hynny, mae’n anodd teimlo nad ydynt yn gwneud digon – cwpwl o bwyntiau canrannol yn unig oeddynt yng Nghymru o dan arweinyddiaeth Cameron nag oeddynt o dan arweinyddiaeth Iain Duncan Smith.

4 comments:

david h jones said...

Y cwestiwn i'r Blaid yw hyn. A ydynt am ennil un neu ddau sedd ychwanegol yn 2011 neu ydynt am dorri drwodd.

Ymladdodd Plaid ymgyrch dda a bu elfen dda o lwc - ennill sedd y Gogledd a Gor Morgannwg. Os yw'r Blaid am dorri drwodd yn 2011 mae angen arweinydd carismataidd arnynt - Wigley neu Adam Price.

Mae gan Blaid naratif gref - cenedlaetholdeb Gymreig. Does gan Lafur yr un na'r LibDems a bydd yn anodd iddynt greu un newydd gredadwy. Cenedlaetholdeb, hunaniaeth fydd thema gwleidyddiaeth y 4 mlynedd nesa ym Mhrydain - dyma faes Plaid. Mae hanes o'i plaid - ond mae angen wneud y gorau ohoni.

Mae angen i'r Blaid wneud SWOT analysis o'r etholiad a phenderfynnu os ydynt am ennill yn 2011 ai pheidio. Y gwir amdanni oedd iddynt ymladd etholiad eleni heb arweinydd amlwg. Gallant ddim wneud hynny eto yn 2011.

Anonymous said...

Tourists can now visit six days a week, although the route to the river bank still traverses a landscape littered with barbed wire and mine fields.. [url=http://www.mulberryhandbagssale.co.uk]Mulberry ooutlet sale[/url] Seniors working at age 50 and plus normally do so for self-gratification and for a continued sense of self worth. [url=http://www.goosecoatsale.ca]canada goose[/url] Wqqemtdpi
http://www.pandorajewelryvip.co.uk Duoqbyale [url=http://www.officialcanadagooseparkae.com]canada goose jacket sale[/url] ivyikdvxh

Anonymous said...

reached out to Facebook for a comment on Europe v Facebook latest steps and will update this story with any response Facebook has now provided the following statement. http://www.manyghdhair.com She mixes craftsmanship- using old and forgotten techniques- with innovation and materials inspired on the world to come.. north face outlet This teeny, belly-baring trend packed a huge punch for chicas nationwide, and allowed us all to look hot, summery, and just a little slutty. north face backpacks Contact 011 791 7159. uggs I think you need to be very focused on what you want from your business.

Anonymous said...

Hey there! This is my first visit to your blog!
We are a team of volunteers and starting a new project in a community in the same niche.
Your blog provided us useful information to work on.
You have done a wonderful job!

Take a look at my web blog: no credit check payday loan