Thursday, August 04, 2005
'Steddfod arall yn tynnu tua'i therfyn
Wel mae 'Steddfod Eryri wedi bod yn un hynod lwyddiannus hyd y gallaf farnu.
Eto - oes rhywbeth rhyfeddach na 'Steddfod dywedwch? Miloedd o bobl yn troedio trwy fwd, cwmniau a chorfforiaethau sydd fel rheol yn gall yn gwario crogbris i gael stondin - heb fod ag unrhyw obaith o gael eu harian yn ol, llwythi o bobl yn mynd i gystadlu gan wybod nad oes ganddynt obaith mul o weld llwyfan, pobl o Gaernarfon yn llusgo carafan ychydig filltiroedd i fyny'r lon, a thalu er mwyn cael ei gosod mewn cae am wythnos. Mae'n edrych weithiau fel esiampl o orffwylldra torfol.
Ac mewn ffordd, dyna'n union ydyw.
Byddaf yn aml yn meddwl am y Pasg mewn dyddiau Beiblaidd pan fyddaf yn mynd i'r 'Steddfod. Bryd hynny, byddai pobl yn cerdded o bellafion y byd Iddewig, er mwyn treulio amser pwysicaf y flwyddyn Iddewig gyda'i gilydd - er mwyn cael profiad torfol o Iddewiaeth.
Dyma'r ydym ni yn ei wneud. Pobl yn ymgynyll i ategu'r ffaith eu bod yn Gymry Cymraeg. Daw llawer o'r rhain o ardaloedd lle mae'r iaith dan warchae - lle mae'r Gymru Gymraeg yn cilio i'r fagddu, ac yn marw. Daw eraill o ardaloedd lle mae'r heniaith eisoes wedi cael cynhebrwng di alar. A daw eraill ohonom o ardaloedd lle mae'r iaith yn hyfyw.
A chawn oll wythnos o ddiwylliant, o gigs, o gymdeithasu, o weld pobl nas gwelwyd ers blwyddyn, o ddiota ac (mewn rhai achosion) o ffwcio'n gilydd.
Pwynt ffocws ydi'r 'Steddfod bellach i genedl sy'n marw. Ffordd o estyn llaw i'n gilydd - o brofi i ni'n hunain ein bod yn fyw - ein bod yn genedl o hyd. Ffordd o brofi ychydig o gynhesrwydd a golau mewn byd sy'n tywyllu ac yn oeri.
Er gwaethaf ei harbenigrwydd, ei hwyl, ei difyrwch a'i gwarineb arwydd o wendid ydi'r 'Steddfod. Darn o bren i afael ynddo mewn mor arw, yn dilyn llongddrylliad.
No comments:
Post a Comment